Sunday 4 March 2007

Cwbwl drosodd!

Gobeithio bo pawb wedi mwynhau eu penwythnos...

Dyma waith y buddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama - sef Ceri Elen Morris o Brifysgol Caerdydd...


Yn Enw’r Tad a’r Mab

Rhagair

Drama Ifan Jac yw hon. Y mae’n gymeriad tywyll, doniol, paradocsaidd. Cyflwynir y ddrama drwy naratif o fonologau Ifan Jac. Mae’r golygfeydd hynny yn digwydd yn y presennol, mewn lle anodd ei ddiffinio.

Y mae sgaffolding anferth ar y llwyfan mewn siâp hanner crwn – bron fel y groth. Wedi’i daenu dros y sgaffolding hwn y mae gauze gwyn. Caiff Ifan Jac ei ostwng lawr i’r llwyfan ar ddechrau’r ddrama ar fath o siglen sy’n dod o’r to. Ai croth ei fam yntau ei ben ef ei hun yw’r lle hwn? Anodd dweud. Ond y mae Ifan Jac yn y lle hwn fel cosb am wneud rhywbeth erchyll.

Fe welwn ôl-fflachiadau o fywyd Ifan Jac drwy gydol y ddrama. Y mae Ifan yn mynd yn wallgof oherwydd ei fod yn teimlo ei fod yn blentyn mewn corff dyn. Gwelwn hynny drwy ei berthynas â’i wraig. Gwelwn ef yn disgrifio ei dad yn mynd yn ôl yn blentyn oherwydd clefyd Althzeimers. Gwelwn ef hefyd yn gofyn i Dduw, pam ei fod yntau eisiau bod yn dad ar bobl. Ydy pobl i fod yn blant o hyd?


Sgaffolding hanner crwn yng nghanol y llwyfan – gauze gwyn wedi’i daenu’n dynn drosto. Y tu ôl i’r gauze, mae dau byped – maint pobl go-iawn. Maent yn hynod realistig. Mae un o wraig ganol oed hardd iawn, a’r llall o hen ddyn barfog.

O flaen y sgaffold y mae gofod gwag enfawr, yna’r gynulleidfa. Y mae’r llwyfan yn llwyfan dro; mae hyn yn caniatáu i’r gynulleidfa weld y ddrama o wahanol bersebectifs. O gwmpas y gynulleidfa mae ‘speakers’ cerddoriaeth. Mae pob ‘speaker’ yn recordiad o lais unigol. (Gweler archif Arddangosfa Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Haf 2006 am enghraifft. )Mae’r lleisiau i gyd yn dod at ei gilydd fel côr. Gweler fraslun o’r set yng nghefn y sgript. Gweler hefyd gryno ddisg o’r gerddoriaeth yng nghefn y portffolio.

Y mae un cymeriad arall yn crwydro o gwmpas y llwyfan drwy gydol y ddrama, sef bachgen bach. Y mae’n chwarae gyda’r pypedau, yn chwarae ar y sgaffold – yn ymgartrefu ar y llwyfan. Y mae ganddo wallt golau, wyneb angylaidd a llygaid glas. Y mae’n gwisgo dillad o liwiau golau niwtral. Drwy gydol y ddrama gall lacio rhannau o’i wisg er mwyn gwneud ei hun yn fwy cyfforddus. Tynnu ei esgidiau a.y.y.b

Fel y mae’r gynulleidfa yn cerdded i mewn i’r awditoriwm clywir lleisiau plant drwy’r ‘speakers’. Sgrechian, chwerthin, chwarae gemau plant ysgol. Pan fo’r drysau wedi’u cau; tawelwch. Yna, daw cerddoriaeth Rutter ymlaen drwy’r ‘speakers’ – ‘Mass of the children’. Yn raddol iawn mae’r llwyfan yn cael ei oleuo. Mae’r golau yn codi yng nghefn y llwyfan o dywyllwch dudew i ddangos cysgodion y doliau fel plant y tu ôl i’r gauze. Gwelwn gysgod y bachgen bach yn rhedeg â’i freichiau yn yr awyr drwy’r sgaffold. Bydd y bachgen bach yn crwydro o amgylch y llwyfan fel ag y mynno. Y mae ambell ran yn y ddrama sy’n dynodi fod angen i’r mab fod mewn lle penodol. Ond fel arall, hoffwn i’r symud fod yn hollol organig, heb ei goreograffu, gyda phob perfformiad yn wahanol. Symboliaeth o’r mab yn crwydro fel ag y mynno drwy ddychymyg ei Dad yw hyn. Dylai’r ansicrwydd hyn gael effaith ar yr actor sy’n chwarae rhan Ifan Jac gan nad yw’n gwybod pryd neu lle y bydd y mab yn ymddangos nesaf. Pan fo’r gerddoriaeth wedi cyrraedd yr amseriad 01.19, mae’r llwyfan yn dechrau troi un troad cyflawn. Bydd hyn yn digwydd yn raddol iawn. Wrth i hyn ddigwydd, pan fo’r gerddoriaeth yn cyrraedd 01.41 bydd lampau bach o gwmpas blaen y llwyfan yn goleuo fesul un gyda threfniant canon y gerddoriaeth, nes fod y llwyfan yn llwyr oleuedig ac yn llachar iawn erbyn 03.10. Ar bwynt 03.14 yn y gerddoriaeth, dechreuir gostwng Ifan Jac yn araf o’r to. Dim ond ei ddillad isaf y mae Ifan yn eu gwisgo, a chaiff yntau ei ostwng o’r nenfwd ar ddarn o bren. Ar y llawr oddi tano, mae ei ddillad. Erbyn 05.23, mae Ifan Jac wedi cyrraedd y llwyfan ac y mae’r llwyfan wedi peidio â throi ers rhai eiliadau ynghynt – hynny ydy mae’r llwyfan wedi troi unwaith yn gyflawn. Mae Ifan Jac fel petai yn cysgu, yna’n deffro’n raddol, yn cael ei ddallu gan y golau a’i fyddaru gan y gerddoriaeth. Diwedd y darn. Tawelwch. Llonyddwch.

Y mae dail cabbage yn dechrau disgyn o’r to fesul un, dros un hanner y llwyfan yn araf iawn. Mae Ifan Jac yn eistedd ar y pren sydd wedi ei ostwng o’r to. Y mae fel siglen. Dim ond ar ochr y siglen o’r llwyfan y mae’r dail yn disgyn. Mae Ifan Jac yn gwylio’r dail yn disgyn. Tawelwch oni bai am sŵn y dail yn disgyn.

Ifan Jac: Cabaitsh. Gas gin i’r diawl!
“Byta fo – ma’n dda i ti!”
“Cadw dy gabaitsh!”

Mae Ifan Jac yn codi ac yn dechrau gwisgo amdano. Y mae’n gwisgo ei grys yn gyntaf – mae’n cau’r botymau yn araf.

Ifan Jac: Mi sbîsh i “cabbage” i fyny yn y geiriadur r’w dro – wyddost ti be o’dd o’n ddeud, Dic?
“ 1 noun – a vegetable with green or purple leaves usually forming a round head. 2. (informal) a person who lives without interests or ambition.”

Erbyn hyn, mae Ifan Jac yn dechrau gwisgo ei drowsus.

Ifan Jac: Cabaitsh . . . meddylia. Ca’l dy gymharu i blydi cabaitsh. Tasa hynny’n digwydd i mi, ’swn i’n mynd yn nyts. ’Swn i’n ca’l ’y nghymharu hefo moron – ffêr enyff. Symlach. Llai mesd-yp. Ma’ cabaitsh jysd yn pathetic. Mae o yna yn sbïo arna ti, yn gweddїo am ga’l bod yn flodyn – ‘blod’-fresych medda nhw de. ‘Plis’, medda fo, ‘jysd gad fi yma yng nghroth y pridd. Fama dwi fod, fama.’ A’r petala-gneud yn gwegian dan yr isio, yr ymbilio. A wedyn ma’r llaw fawr ‘ma’n dŵad, a’i thynnu hi fel tynnu calon o fabi blwydd. Yn ddi-edifar – achos nad blodyn ydio, naci? Ffwcin cabaitsh ’dio’n diwadd . . .

Mae deilen arall yn disgyn o’r to. Mae Ifan Jac yn sylwi arni’n disgyn, yna mae’n syllu ar yr overalls llwyd sydd ar y llawr. Codi’i ben. Mae’n edrych yn syth ymlaen.

Ifan Jac: Ma’ geiria’r un peth. Dy’n nhw ’im yn siŵr be ydyn nhw chwaith, nachdyn Dic? Isio bod yn rwbath na tydyn nhw ddim. Meddylia, er enghraifft, am y gair “Colli”. Wel dyna i chdi fasdad o air. Colli. . . Hawdd i ddeud o . . . bron iawn yn air neis i’r glust. . . Colli . . . Ond ma’n chwara ’fo dy frên di, ’li. Mae o’r peth gosa gei di i “Cosi” tydi? A be di’r gwahaniaeth? Llythyren. Un llythyren. “A letter, should be written with clarity and precision. One should not under-estimate the importance of perfect hand-writing”. . . a Dr Richards sgwli yn gansan ar ’y ngeiria fi. “Clarity”? Pryd ddiawl gesh i wbod be’ ’di “clarity”?
Mae Ifan Jac yn gwisgo’r overalls wrth ddweud y llinellau nesaf.

Ifan Jac: Do’s na’m pwynt iti drio rhoi dy feddylia mewn ordor, frawddeg wrth frawddeg, air wrth air, lythyren wrth lythyren. Chwara gêms di hyny, a’r cosi yn cosi’r colli . . . a’r colli yn colli ei ystyr wrth gosi’r . . . gollad . . .

Erbyn hyn, mae Ifan Jac yn sefyll yng nghanol y llwyfan yn ei overalls. Llonyddwch. Tawelwch. Deilen arall yn disgyn o’r to. Yna, mae’n deffro drwyddo eto ac yn dechrau siarad unwaith yn rhagor.

Ifan Jac: Pryd gollisd di o?
Colli be?
Dy virginity?
Dwi dal yn virgin
Verging on the insane ’w’rach, ia?

Insane? . . . “Have you eaten your peas, Woyzeck?” Pys nath hwnnw’n nyts. Cabaitsh fydd y diawl i mi. Cabaitsh. Force-feed. Cabaitsh – “Ifan Jac – fytest di dy gabaitsh i gyd heddiw? Pob deilen? . . . Wel?”

Saib. Mae Ifan Jac yn gwylio deilen arall yn disgyn i’r llawr.

Ifan Jac: Do.

Mae Ifan Jac yn edrych y tu ôl iddo, fel petai wedi gweld rhywbeth. Yna mae’n troi yn ôl i wynebu’r gynulleidfa. Gwelwn gysgod y bachgen bach y tu ôl i’r gauze, y mae’n crwydro rhwng y sgaffolding. Y mae’r bachgen bach yn crwydro oddi ar y llwyfan i’r asgell chwith. Edrycha Ifan Jac y tu ôl iddo eto. Yna mae’n edrych yn ôl i’r gynulleidfa.

Ifan Jac: Dwi’n dy glywed di’n galw sti. (Saib) Rhaid ti aros dy dro. (Saib.) Hefo hi dwi am fod heno.

Mae Ifan Jac yn rhoi ei fysedd drwy ei wallt – yn ceisio ei dwtio ei hun. Yna, mae’n cerdded yn araf o gwmpas y sgaffold. Tawelwch rhyfedd a sŵn ei draed. Yna mae Ifan yn sefyll o flaen ‘ei wraig’ sydd wedi’i lapio mewn blanced fel baban. Yn araf y mae’n plygu i lawr ati ac yn ei chodi yn ei freichiau fel y gwna gŵr ar noson ei briodas. Yn dawel, dawel, clywir Ave Maria – CF1. Ifan yn sefyll yn ei unfan. Mae’r llwyfan yn dechrau troi. Y mae’n troi un hanner tro yn gyflawn fel fod y gynulleidfa yn gweld Ifan a’r pyped y tu blaen i’r gauze, ac nid o’r tu ôl iddo. Mae pelydr o olau tebyg i olau’r lleuad yn goleuo canol y llwyfan. Diwedd y darn. Y llwyfan yn llonydd. Mae Ifan yn rhoi’r pyped i lawr ar y llawr yn boenus o ofalus. Â i nôl blanced, a’i gosod ar y llawr. Yna, mae’n nôl y pyped, ac y mae yntau yn eistedd ar y flanced a hithau rhwng ei goesau. Y mae’r pyped yn gwisgo pais am hanner isaf ei chorff o dan y flanced. Mae hanner uchaf ei chorff yn noeth o dan y flanced. Tawelwch. Llonyddwch.

Ifan Jac: Dwi wrth ’y modd hefo dy hogla di, ’sti. Ti’n hogla mor lyfli – fatha hogla hiraeth. Saib Chwerw-felys.

Mae’n symud gwallt ei ‘wraig’ oddi ar ei thalcen. Rhoi cusan ar ei boch. Yna, mae’n rhwbio ei foch yn araf yn erbyn ei boch hi. Mae’n cau ei lygaid wrth wneud hyn.

Ifan Jac: Ma’ dy dwtsiad di fel twtstiad atgofion plentyndod – prin . . . perffaith . . . pur. (Saib) Gad i mi edrych arna ti. Ty’d yma.

Mae’n ei throi fel bod wyneb y pyped yn ei wynebu yntau.

Ifan Jac: Welish i ’rioed harddwch fel dy un di. ’Rioed. Mae o’n harddwch sy’n gic rhwng coesau dyn. Codi c’wilydd arna i am fod mor blaen . . . mor flêr, a chditha fatha’r greadigaeth yn fy mreichiau i. (Saib) Ti’n oer?

Mae’n agor ei overalls i lawr at ei ganol a thynnu’r llewys i ffwrdd. Mae’n tynnu ei grys i ffwrdd. Yna mae’n agor y flanced sydd am ei ‘wraig’ a’i adael i ddisgyn am ei chanol. Yna mae’n ei chofleidio gan lapio’r flanced dros gyrff y ddau ohonynt.

Ifan Jac: Well ’ŵan, mach i? W’t? Na fo . . . na fo. (Saib) Y ddau ohonan ni – mond ni’n dau, a hitha’n bwrw fel buwch yn piso ar lechan y tu allan.

Chwerthin yn nerfus. Stopio. Tawelwch.

Ifan Jac: Dwi’n cofio gwrando arnat ti’n anadlu – o’n i isio bod yn rhan o’r aer ’na oddach chdi’n ’i gusanu. (Saib) Nes i droi yn y gwely, ac mi o’dd gola’r lleuad yn byseddu’r hollt rhwng y llenni – trio’i hagor nhw. Felly mi helpish i hi, gadael iddi gael ein gweld ni yn gorwadd . . . yn bod.
Yn ara’ . . . bach, mi dynnish i’r flanced i lawr oddi wrth dy ên di . . .

Mae Ifan Jac yn tynnu’r flanced lawr o’i gên yn araf . . .

A rhyfeddu arna ti yng ngola’r lleuad . . .

Mae Ifan yn syllu ar ei hwyneb. . . ar ei gwddf, ar ei hysgwyddau a thop ei chorff . . .

a chditha’n deffro, heb agor dy lygid, ag yn gofyn be’ o’n i’n neud . . .
“Dwi’n licio sbïo arna chdi yng ngola’r lleuad”, medda fi, “ti’n ofnadwy o dlws.”
Ddudist di’m byd, ’mond llithro nôl i’r cwsg ’na o’dd yn dy fwytho di. A finna’n cenfigennu at dy gwsg di, am ga’l dy ddal di fel ag yr oedd, a chditha mor heddychlon.

Saib hir a llygaid Ifan ynghau. Yna, mae Ifan yn gwisgo’i grys am ei ‘wraig’ ac yn cau ei overalls ei hun. Mae’n edrych yn swil iawn ar ei wraig. Saib.

Ifan Jac: Nei di’n magu fi . . . plis?

Saib. Mae’n tynnu rhuban coch o’i boced yna’n clymu breichiau ei wraig amdano gyda’r rhuban coch, ac yntau rhwng ei breichiau. Siglo nôl a mlaen.

Ifan Jac: Dwi’n clywed dy lais di fatha llais Mam. . .Diolch . . . diolch . . . diolch . . . (Sibrwd) Maria . . . Maria . . .

Yn sydyn mae cloch larwm yn canu bron yn fyddarol a golau oren yn fflachio. Mae Ifan Jac yn neidio.

Ifan Jac: Nesh i ddim. Sud medra’i?! (Saib) Mi a’i ato fo rwan . . .
Mae’n cusanu ei wraig a’i gosod yn ofalus ar y llawr. Mae’n cerdded at ei ‘dad’ sydd ar ochr y siglen o’r llwyfan. Yn ystod hyn, mae’r bachgen bach yn cerdded o gwmpas y cylch chwarae, yna yn eistedd yng nghôl ‘ei fam’. Yna mae’r bachgen fel petai’n gweld Ifan, ac yn rhedeg i ffwrdd. Wrth wneud hynny, mae pyped y ‘wraig’ yn disgyn ar ei chefn.

Ifan Jac: Na fo ’nhad. ’Im otsh . . . ’im otsh. Peidiwch ag ypsetio – damwain dyna’i gyd!

Mae’r larwm yn canu eto.

Be?! Be?! Dwi yn edrych ar ei ôl o. Be sy’ ŵan? . . .

Mae’r larwm yn canu eto. Mae Ifan Jac yn gweiddi’r llinellau nesaf.

’Im otsh gin i, Dic. Cana di dy blydi larwm – ’da’i ddim ato fo. Dim rŵan. Dim eto. ’Da i ddim.

Mae’r larwm yn parhau i ganu. Mae’r llwyfan yn troi un hanner tro. Mae’r larwm yn parhau i ganu, a chlywir y bachgen bach yn gweiddi nerth esgyrn ei ben (o’r esgyll). Mae Ifan Jac yn sylwi fod ei ‘dad’ yn beichio crio – mae’n ceisio ei gysuro, edrych o’i gwmpas fel petai yn edrych am gymorth.

Ifan Jac: Rhowch gora’ iddi! Rhowch gora’ iddi! (Mae’r bachgen bach yn camu un cam ar y llwyfan, ond fel petai yn cuddio. At y bachgen bach) A chditha – plis. Llynca dy ddagra’ am ŵan. Gei di fferan gin i am bob deigryn lynci di ’li . . . Alla i mo’i adal o, alla i ddim – sbia!! (Yn flin.) Jysd aros dy dro!!

Mae’r mab yn syllu arno. Mae Ifan yn sylwi fod ei fab wedi bod ar y llwyfan gan fod ei ‘wraig’ wedi symud. Mae’n mynd at ei wraig, ei chodi a’i chusanu, a’i chario at ei Dad.

Ifan Jac: Y basdyn bach! Na, medda fi! NA! Sna’m lle i ti heno medda fi. Fi a hi, mond fi a hi. Ond mi o’dd raid i chdi ddod yn toedd, Mabon. Isio sylw . . . isio’i sylw hi . . . ’Y ngwraig i ydi hi. Mi nath hi’n newis i. Dodd gin i’m dewis efo chdi, mi gath hi be gath hi. Siom odda’ chdi. Siom . . . ŵan dos i chwara hefo dy gysgod y ffycin basdyn i ti.

Mae’r larwm yn tawelu. Tawelwch rhyfedd. Deilen cabbage yn disgyn. Saib. Deilen arall yn disgyn ac un arall ac un arall dro ar ôl tro – fel petai hi’n bwrw eira. Mae Ifan yn rhoi ei wraig i lawr, ac yn mynd at ei Dad.

Ifan Jac: Sbïwch nhad, mae’n bwrw eira arnon ni!

Mae Ifan Jac yn cario’i ‘dad’ a’r ddau’n edrych ar yr ‘eira’. Mae Ifan Jac yn sefyll â’i gefn at y sgaffold, a’i Dad wrth ei ysgwydd. Mae’r mab yn gwylio’r olygfa hon o du ôl i’r gauze.
Ifan Jac: Gofiwch chi ’nhad – y Dolig hwnnw – a chitha ’di mynd â fi i’r Eglw’s. Canu am hannar nos. (Saib) O’n i ’di bod yn byta’r llygod siwgwr rheini o’dd Mam wedi bod yn ’u hongian ar y goeden. A’r siwgwr yn sglein yn llygaid y goleuadau bach aur – a’r byd mor . . . newydd-anedig yn ei dinsel. Mi fytes i bron bob un o’r llygod . . . www! A theimlo’n sic. Ond o’n i am fynd i’r Eglw’s, ’fo chi – isio mynd i ga’l teimlo c’nesrwydd ych llaw-llwch-lli chi. A gwrando ar y pregethwr, a chanu . . . ond mi gesh i’r gnofa mwya’ uffernol! Trio dal y gwynt i mewn, achos o’n i’n gwbo’ petawn i’n gada’l un fach allan y byse hi’n eco drwy’r Eglw’s ac yn drymio’i ffor’ ar hyd y cwir. Gwasgu ’nghoesa’ at ’i gilydd, a theimlo’n sâl . . . a deud: “Dad . . . Dad . . . dwi’n teimlo’n sic”, a chitha’n agor ych cot i mi – a’r boced fawr honno yn y leining. A finna’n sic i’ch poced chi . . . A theimlo’n well – a’r llygod yn eich poced chi, a’n llaw i yn eich llaw chi, a’ch gwychder chi’n llenwi ’Nolig i. [Saib] Ac wedi’r fendith, deud “nos da” wrth bawb. A chitha’n rêl gwr bonheddig. Wydda neb ddim. Mond chi a fi – ’yn sicret bach ni. Yn’de ’nhad?

Mae Ifan Jac yn gafael yn llaw ei Dad, edrych arni – ar y llinellau yn ei law, a’u dilyn gyda’i fysedd.

Ifan Jac: Sbiwch hein ’di mynd yn glyma yn ych dwylo chi, ’nhad – y llinella’n weiren bigog am eich gwythienna chi. (Saib.)

Sylwa Ifan fod y dail cabbage wedi stopio disgyn.

Ifan Jac: Ma’i ’di ’rafu. Ma’i ’di sdopio. Yn sdond. . . Ond . . .

Mae’n edrych i wyneb ei ‘dad’

A’ch gwyneb chi’n ‘ond’ i gyd.

Mae’n rhoi cusan ar dalcen ei dad.

(Saib.) Gymw’ch chi dro ar y swing ’ma ’nhad? Ia?

Mae Ifan Jac yn rhoi ei hun i eistedd ar y siglen a’i ‘dad’ ar ei lin.

’Na fo ’nhad – dach chi’n licio? Yndech?

Mae Ifan Jac yn raddol yn defnyddio’i goesau i yrru’r siglen yn bell i’r awyr. Gwelwn gysgod y ‘bachgen’ yn rhoi ei ddwylo yn erbyn y gauze, fel petai mewn parc. Mae Ifan Jac yn efelychu llais ei dad:

Ifan Jac: Slofa lawr was, fydda i ’di cachu’n drwsus eto! (Llais naturiol Ifan Jac) Dim jibio, ’nhad. (Ifan Jac yn chwerthin)
Bachgen: Tada!
Ifan Jac: Be’ ’udsoch chi nhad?
Bachgen: Tada!
Ifan Jac: Dudwch yn iawn, ’nhad!
Bachgen: (Yn gweiddi.) Tada!!!

Daw’r larwm ymlaen eto, a’r golau oren yn fflachio.

Ifan Jac: Blydi hel! Blydi hel! Blydi hel! Dim eto. Be’ ti isio eto’r . . .

Mae’n arafu’r siglen i lawr drwy sdampio ei draed ar y llawr. Mae’n gosod ei ‘dad’ ar y llawr ym mlaen y llwyfan.

Ifan Jac: O-reit . . . o-reit . . .

Mae’r larwm yn stopio. Tawelwch. Mae Ifan Jac yn estyn hambwrdd ac arno ddau wydr a photel wisgi.

Ifan Jac: Ty’d ta . . . ty’d ta . . .

Mae’r bachgen yn cerdded ar y llwyfan.

Ifan Jac: Gymri di ddiod? (Saib) ’Ta w’t ti’m yn ddigon o foi? (Saib) Wisgi bach i ti.

Mae’n rhoi’r wisgi i’w fab.

Ifan Jac: Down in one.

Mae Ifan Jac yn llowcio’r wisgi. Mae’n edrych ar ei fab.

Ifan Jac: ’Sa’n ti’m o’i isio fo?

Mae’n cymryd y gwydr gan y bachgen.

Ifan Jac: Ty’d a fo yma ta.

Mae’n llowcio diod y bachgen hefyd.

Ifan Jac: Fab . . . roi di chwth i mi ar y swing ’ma? . . . Gnei? ’Ta ti’m yn ddigon o foi?

Mae’r bachgen yn ceisio gwthio Ifan Jac o’r tu ôl i’r swing, ond nid yw’n ei symud bron. Mae Ifan Jac yn rhy drwm iddo. Mae Ifan Jac yn symud am chydig eiliadau – fel petai chwa o wynt wedi ei chwythu. Yna mae’n rhoi ei draed yn fflat ar y llawr. Saib. Tawelwch.

Ifan Jac: Ty’d yma. (Saib.) Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi.

Mae Ifan Jac yn troi i edrych ar ei fab, ond mae’r bachgen wedi gadael. Erbyn hyn y mae’r ‘mab’ yn sefyll fel petai’n ddol mewn ffenestr siop y tu ôl i’r gauze. Cerdda Ifan Jac yn araf tuag at y gauze, ac yna, mae’n rhoi ei ddwylo’n fflat arno.
Ifan Jac: Sori

Yn araf bach, mae’r llwyfan yn troi nes o’r diwedd, mae’r gynulleidfa yn edrych ar Ifan Jac o’r persbectif y tu ôl i’r gauze. Mae’r golau’n pylu ond nid i ddim. Gwelir Ifan Jac, a’r ‘tad’ a’r ‘wraig’ ar y llwyfan y tu draw i’r gauze. Yna llonyddwch. Tawelwch. Mae Ifan Jac yn camu yn ôl. Edrych ar y pyped o’r mab, fel petai’n gwerthfawrogi darn o gelfyddyd.

Ifan Jac: Sbïa Dic. Sbïa mor lân ydy’i blentyndod o. Fynta’n awen ar ganfas gwyn. (Saib.)Finna’n ca’l ’y nghladdu gan y cachu rwtsh ’ma. Dy gachu rwtsh di.

Mae Ifan Jac yn plygu i lawr – ac yn codi llond llaw o gabaitsh. Edrych ar y dail yn ei law. Daw cerddoriaeth Lleuwen Steffan – ‘Gwahoddiad’ oddi ar Duw a Wŷr – ymlaen yn dawel – nid o’r ‘speakers’ y tro hwn, ond fel petai yn dod o gefn y llwyfan, ac o’r esgyll. Y mae’n amlwg fod Ifan Jac yn adnabod yr intro i’r gân. Mae’n edrych tua’r nenfwd.

Ifan Jac: Comedian! Yn dwyt? Rêl Jocar . . .

Mae’n chwerthin, mae’r chwerthin yn troi’n grio tawel. Mae’n edrych o’i gwmpas fel petai yn edrych am gysur. Saib. Yna mae Ifan Jac yn plygu’n araf i’r llawr – y mae mewn gwewyr meddwl, ond nid yw’n wylofain – mae’r cyfan yn dawel iawn. Wedi iddo gyrraedd y llawr, mae’n mynd i’r ‘child pose’ – a’i ddwylo dros ei ben. Mae’n aros yno. Gwelwn fod y mab yn raddol yn mynd i’r un ‘pose’ wrth glywed ei dad yn crio. Mae dail cabbage yn disgyn yn araf ar ochr Ifan o’r llwyfan ond nid ar ochr y mab. Yn araf bach ar flaen y llwyfan – yr ochr arall i’r gauze, gan adael Ifan Jac a’r pypedau yn y cysgodion a’r cabaitsh, gwelwn deganau bachgen bach yn cael eu goleuo. Gweler yr ail fraslun am ddarlun cywir. Mae teganau megis cardiau, marblis, het cowboi, blociau chwarae, tedi glas yno. Mae pob un yn cael ei oleuo’n unigol gan lamp fach – gel gwyn ar flaen y llwyfan. Yn araf mae’r llwyfan yn troi hanner tro eto. Yna mae’r gân yn gorffen. Wrth i’r nodau olaf gael eu chwarae, clywir Ifan Jac yn dweud yn dawel, yn fachgennaidd o ochr arall y gauze, ymhell o’r gynulleidfa.

Ifan Jac: Dwisho Mam.

Saib. Tawelwch. Mae pen Ifan Jac yn dal ar y llawr yn ei ddwylo. Mae’r mab yn cerdded at y teganau ac yn dechrau chwarae gyda nhw. Yn y tawelwch, clywir y bachgen yn chwarae – gwneud sŵn ceir, siarad gyda’r tedi a.y.y.b. Mae Ifan Jac yn codi’i ben yn araf wrth weld y bachgen. Mae’n codi oddi ar y llawr, yn araf iawn. Saib. Yna, mae Ifan Jac yn siarad â’r mab drwy’r gauze.

Ifan Jac: Hei hen ddyn . . . lle ma’ dy fêts di? (Nid yw’r mab yn ateb.) Ti’n licio chwara ben dy hun? W’t? (Saib.) Mi o’n inna ’fyd. Mwy o bosibiliada’ felly. Os o’dd rh’wun arall yn dechra chwara’ – o’dd beryg i’r stori fynd yn rong . . . i’r gêm ga’l ’i sbwylio. (Saib.) Be’ ti’n licio fwya’? Blocia chwara’ o’dd yn rhai i. Dwi’n licio adeiladu petha . . . a’i chwalu nhw wedyn. (Saib) Sna’m byd yn para am byth ’sdi. Nagos? (Saib.) Be’ w’t ti’n licio? (Mae Ifan Jac yn edrych yn daer ar y mab. Saib.) Ty’d yma – ty’d at Dad.

Nid yw’r mab yn symud. Yn araf bach, gwelwn Ifan Jac yn cerdded o gwmpas y sgaffold i ochr arall y llwyfan at ei fab. Mae’r ddau yn awr o flaen y gauze, yn agos at y gynulleidfa. Mae Ifan Jac yn stopio. Tawelwch.

Ifan Jac: Mabon? (Saib.)

Yn araf iawn. Mae’r mab yn edrych ar Ifan Jac. Mae’n rhoi’r tedi glas i lawr, ac yn cerdded yn araf at Ifan Jac. Mae Ifan yn plygu i lawr. Mae’r ddau yn edrych ar ei gilydd. Saib. Yna, mae’r mab yn rhoi coflaid fawr i’w Dad. Delir hyn am rai eiliadau. Yna mae’r mab yn tynnu i ffwrdd. Ond nid yn gyfan gwbl. Mae’n edrych ar wyneb Ifan. Yna, mae’n estyn ei ddwylo allan ac yn teimlo wyneb ei Dad. Mae’n dilyn y llinellau ar dalcen Ifan Jac yn debyg i’r hyn wnaeth Ifan Jac â llaw ei Dad. Yna, mae Ifan Jac yn cymryd llaw y mab, ac yn rhoi cusan iddo ar gledr ei law. Yna mae’r ddau yn troi i wynebu’r gynulleidfa, ond yn edrych i fyny.

Ifan Jac: Ma’r nos ma’n niwsans tydi? Ma’ hyd yn oed yr haul wedi ca’l llond bol ar ddwrnod mor ddiawledig . . . yn gadal ni’n fa’ma . . . yn hen blant bach yn stryffaglio ar ein glinia’ yn y twllwch. Yn chwilio. Yn methu ffindio . . . yn dal i chwilio . . . am byth am wn i. (Saib.) W’t ti’n ofn y t’wllwch? Mi o’n i pan o’n i’n fach. ’I ofn o, achos mod i’n meddwl i fod o’n llawn petha ach a fi. Dwi’n gwbod rŵan ma’ gwag ’di’r nos. . .
Edrych ar ei fab. Ailfeddwl ynghylch beth y mae’n mynd i’w ddweud.

Ifan Jac: Ti ofn bwci-bos? (Nid yw’r mab yn ymateb.) Ddylia ti’m bod, ’sdi. Do’s ’na’m ffasiwn beth.

Mae Ifan Jac yn arwain y mab i ganol y llwyfan. Mae Ifan Jac yn gorwedd ar wastad ei gefn ar y llawr yng nghanol y llwyfan. Y mab yn edrych arno. Yna’n araf, mae’r mab yn gorwedd wrth ei ymyl. Tawelwch.

Ifan Jac: Be’ weli di yno? Weli di’r awyr yn llawn siapia? Ma’ awyr y nos yn adlewyrchiad o lawr y nos ’sdi. Tylla bach ym mhobman – a ma’r rhai anlwcus yn syrthio i mewn iddyn nhw ac yn methu dod o ’no. Nid sêr yn cynnig golau i weld ydyn nhw – ond tylla’ bach sy’n dy atgoffa di o’r gwacter sydd ynot ti dy hun.

Mae Ifan Jac yn edrych ar y mab. Mae yntau wedi syrthio i gysgu. Mae Ifan Jac yn edrych arno.

Ifan Jac: Ia, cysga di. Paid â gwrando ar fy chwerwder i. ’Sarnai’m isio dy lygru di.

Mae Ifan Jac yn cerdded yr ochr arall i’r gauze i nôl blanced, a dod â hi’n ôl, a’i gosod dros Mabon. Wrth wneud hyn, mae Ifan yn edrych yn ôl ar y mab yn aml – fel petai arno ofn iddo symud. Wedi iddo osod y blanced dros y mab, mae Ifan fel petai yn mynd i roi cusan ar dalcen ei fab. Y mae’n stopio. Ond yn araf y mae’n ei godi i eistedd, er fod y mab yn dal i gysgu, ac yn rhoi cusan Jiwdas iddo. Yna mae’n ei osod yn ôl i lawr. Yna’n cerdded yn araf i ochr arall y sgaffold.Wrth i hyn ddigwydd, mae’r llwyfan hefyd yn troi yn ôl i’w fan cychwynnol. Wedi i’r cyfan lonyddu unwaith yn rhagor, mae Ifan Jac yn edrych ar y mab o du draw i’r gauze.

Ifan Jac: Sut medri di Dic? Sut medri di adael iddo fo fod mor heddychlon? A chditha’n gwbod . . . (Saib.) Mi o’n i fel ’na unwaith – gadal i’r nos fy anwesu fi fatha llaw mam ar ’y nhalcen i. . . . A’i hogla hi . . . mor gynnes, mor saff.

Yn araf bach. Mae’r rhan o’r llwyfan lle mae’r mab yn cysgu yn mynd yn dywyllach a thywyllach, nes cyrraedd duwch llwyr.

Ifan Jac: Mam!!! Dudwch stori nos da wrtha i Mam. . . Mam?! (Saib) Dic? Be nest di iddi? Be nes ti iddyn nhw i gyd? I Mam . . . i Dad . . . iddi hi? Torri’u tafoda nhw a’u hongian nhw fel clychau yn fy nghydwybod i? Ie? A nhwtha’n chwifio’n dawel bach yn awel fy meddylia fi. Ie Dic? (Saib) Pam na nei di fyth t’ateb i?

Y mae’n cerdded at ei ‘dad’.

. . . Tada . . . ’Y mai i ydi o . . .Wchi’r llygod heini nesh i chwdu i’ch poced chi . . . Tada . . . y llygod heini o’dd yn nofio yn leining ych cot chi . . . ma’n nhw ’di bod yn byta’ch tu mewn chi. Yn cnoi at ych meddylia chi, yn cnoi ar eich rheswm chi a’i adal o’n dylla mân fatha awyr y nos. Dim colli arni ydach chi Tada, na mynd yn hen. ’Y mai i . . . ’y mai i ydi o i gyd. Sori Tada . . . Sori . . . (Saib.)

Yna mae’n chwilio am ei ‘wraig’ a’i chael hi a gafael ynddi fel trysor.

A tithe, ’nghariad i, ’ngwynfyd i . . . fy rheswm i . . .
(Wrth ei wraig) ’Y mai i ydi dy loes di ’fyd. Sori am wneud y fath beth i ti . . . a chditha ddim isio. . . a fynta yn tyfu tu mewn i ti fatha salwch . . . fatha tiwmor yn chwyddo yn dy groth di . . . yn dy lygru di. . . a chditha’n gorod i eni fo i’r byd. (Saib) Sori.

Erbyn hyn, mae Ifan wedi penlinio ar y llawr, ac yn raddol wedi gorwedd ar y dail cabbage.

Gad i mi gysgu Dic. (Saib)

Yn raddol clywir‘Kyrie’ A Ramirez. Mae ochr Ifan o’r llwyfan yn dechrau tywyllu a rhan Mabon yn dechrau cael ei oleuo eto. Mae’r ddau yn gorwedd yn yr un modd. Ar 01.28 yn y gerddoriaeth mae Mabon yn dechrau deffro. Mae’n gweld ei Dad yn cysgu yr ochr arall i’r gauze. Yn araf iawn y mae’n codi ar ei draed ac yn cerdded i ochr ei Dad o’r llwyfan. Â at ei Dad a rhoi cusan iddo ar ei dalcen, yna, mae’n gafael yn llaw pyped y wraig, a llaw pyped y tad ac yn eu llusgo i ochr arall y llwyfan at y teganau. Mae’n eu rhoi i orwedd o dan ei flanced, fel mai dim ond eu pennau sydd yn y golwg. Yna fe â i chwarae gyda’r teganau. Erbyn hyn, mae ochr Ifan o’r llwyfan yn weddol dywyll, ond gwelwn ei gysgodion yn glir. Mae rhan Mabon o’r llwyfan yn oleuedig, ond nid yn llachar. Tawelwch. Symudiadau bychain Mabon. Yna daw’r larwm ymlaen am ychydig eiliadau cyn ymdawelu eto. Mae Ifan yn deffro’n sydyn.

Ifan Jac: ’Nghariad i lle w’t ti? . . . Ti’n chwara cuddio hefo fi? (Chwerthin. Tawelu) Ti’n iawn? Sâl eto bore ’ma? . . . fydd o’i werth o ’sdi . . . wir yr . . . ti ’y nghlywad i? . . . Lle w’t ti? (Mae Ifan yn codi.) Lle w’t ti?

Mae Ifan Jac yn dechrau mynd i banic. Mae’n sylwi nad ydi’r un o’r ddau byped ar y llwyfan gydag o.

Ifan Jac: Tada? . . . Tada!!!! . . . Dic . . . lle ma’n nhw? Be ti ’di gneud hefo nhw? . . . Lle ti ’di mynd â nhw. . . Dic!!!! (Tawelwch.)

Yna, mae Ifan yn sylwi fod Mabon wedi rhoi’r pypedau i gysgu ar ei ran ef o’r llwyfan. Tawelwch. Dail yn dechrau disgyn o’r to unwaith yn rhagor yn ara’ ara’ bach. Y mae’n siarad â Mabon yn awr.

Ifan Jac: Pryd gnest di o? Sut gnest di o? Pan o’n i’n cysgu? Pan o’n i’n breuddwydio am Mam, a hitha’n canu nos da i mi . . . a chanu i minna yn unig. Dyna pryd ia? Ia? Wel chei di ddim . . . ti’n y nghlywad i . . . chei di ddim. Fy nhad i . . . fy ngwraig i . . . fi . . .

Mae Ifan yn cerdded o gwmpas y gauze at y pypedau ac at Mabon. Y mae’n llusgo’r tri i’w ran ef o’r llwyfan i ganol y dail. Mae Ifan yn esgus poeri ar Mabon, yn dawel yn araf. Mae Mabon yn syllu ar ei Dad. Yna Mae Ifan yn cofleidio’r ddau byped yn dynn.

Ifan Jac: Sori . . . Sori . . . Sori.

Mae Ifan yn gwasgu’r pypedau mor dynn nes fod y ddau yn dechrau gollwng y wadin o’r tu mewn iddynt. Daw cerrig mân a thywod o’r ddau byped. Mae Ifan yn sylwi. Y mae’n edrych yn syth ymlaen i’r gynulleidfa a’r ddau byped yn gollwng y wadin ar y llwyfan. Yn araf bach. Mae Ifan yn gosod y ddau ar y llawr.

Ifan Jac: Sori. (Saib.)

Mae Ifan yn edrych ar ei fab, yn ei godi yn ei freichiau.

Ifan Jac: Sori.

Mae Ifan Jac yn siglo’r mab yn dyner, ac yn edrych arno fel petai wedi dotio arno wrth ganu:

Ifan Jac: Iesu, Iesu ffrind plant bychain, bydd yn ffrind i mi . . . gafael yn fy llaw i’m harwain . . . (Tawelwch.)
Mae Ifan Jac yn mynd i eistedd ar y siglen a’i fab ar ei lîn. Mae’r mab yn wynebu cefn y llwyfan, hynny ydy, mae cefn y mab at y gynulleidfa. Llonyddwch am rai eiliadau. Yna mae Ifan Jac yn plygu lawr ac yn gafael mewn llond llaw o ddail cabbage. Llonyddwch. Yna yn araf bach, mae Ifan yn dechrau stwffio dail cabbage i geg y mab. Fe wna hyn yn dyner iawn gan fwytho pen ei fab ar yr un pryd. Y mae’n amlwg fod y mab yn gwingo ac yn strancio a thagu. Ond y mae Ifan yn ceisio rheoli’r gwingo gan barhau i siglo’r mab yn dyner wrth ei fygu. Mae’r tad yn wylo’n dawel wrth wneud hyn. Yna daw llonyddwch tawel. Y mae’r mab yn farw. Yn araf, mae Ifan Jac yn cofleidio’r mab gan ddweud yn dawel ar yr un pryd:

Ifan Jac: Nos da Mabon. Nos da.

Mae Ifan yn codi oddi ar y siglen. Cerdded i ganol y llwyfan. Mae’n rhoi cusan i’w fab. Yna mae’n ei ddal yn ei freichiau gan edrych arno. Tawelwch. Llonyddwch. Daw cerddoriaeth Rutter ymlaen, a gwelwn Ifan yn sefyll yng nghanol y llwyfan yng nghanol y dinistr a’i fab yn ei freichiau. Wrth i’r gerddoriaeth chwarae gwelwn fod Ifan yn parhau i fod yn ei ddagrau a’i fod yn ceisio magu Mabon. Y mae’n ei godi yn uchel yn ei freichiau erbyn 02.16 cyn ei ostwng eto a’i ddal yn agos, agos. Mae’n cerdded yn araf at y siglen. Edrych ar ei dad a’i wraig. Yna’n araf, mae’n eistedd ar y siglen a’i fab yn ei freichiau. Mae’r siglen yn codi yn raddol, ac yn diflannu. Y gerddoriaeth yn dod i ben wrth i’r golau bylu i ddim. Mae’r dail yn parhau i ddisgyn hyd nes y nodyn olaf.

Llen

Atodiad:
Y mae diagram o’r set a chryno ddisg o’r gerddoriaeth yn rhan o’r sgript hwn. (Gweler y ddau yng nghefn y clawr.)

No comments: