Tuesday 1 January 2008

Rhagair

Wel, mae blwyddyn arall wedi hedfan heibio ac mae’n amser unwaith eto i fyfyrwyr Cymru frwydro dros eu colegau! Dyma’r Rhestr Testunau ar gyfer yr Eisteddfod Ryng-Golegol eleni, a hynny mewn da o bryd i chi daclo rhai o’r cystadlaethau.
Does ’na fawr o newid yn y rhestr gwaith cartref ers llynedd, dim ond ambell i addasiad fan hyn a fan draw. Mae’r un testunau llwyfan yn cael eu cynnig, gan gynnwys yr holl fedalau a’r prif wobrau. Ein bwriad wrth osod cystadlaethau agored yw sicrhau fod yna ddigon o amrywiaeth a bywiogrwydd yn y cystadlu.
Bydd Eisteddfod Dafarn yn cael ei chynnal ar y nos Wener a bwrlwm y cystadlu, fel arfer, ar y dydd Sadwrn. I goroni’r cyfan, bydd cyfle i fwrw ymaith holl gythraul y canu yn y gig nos Sadwrn!
Felly, ar ôl y traethu diflas, y cwbl sydd i’w ddweud ydi POB HWYL gyda’r trefnu, ymarfer a chyfansoddi, a gobeithio y cewch Eisteddfod gwerth chweil yma ym Mangor.
Welwn ni chi fis Mawrth.