Sunday 4 March 2007

sgriptio

Dyma waith y buddugol yn y gystadleuaeth Sgriptio, sef Lois Dafydd o Brifysgol Caerdydd...

PE BAI’R WYDDFA I GYD YN GAWS?

ROBYN:
Mae Robyn yn 42 oed, ac yn byw gyda’i fam yn 34 Stryd y Pesgi. Mae’n unig blentyn, a bu farw ei dad pan oedd yn 12oed, o drawiad ar ei galon. Roedd yn blentyn hynod o denau, gan bod ei dad yn gwrthod gadael iddo fwyta unrhyw fwydydd melys neu frasterog. Unwaith i’w dad farw, dechreuodd ei fam ei fwydo a’i fwydo.
Mae’n is-gynorthwyydd cynorthwyol yn swyddfa cyngor y dref, lle cafodd ei swydd gyntaf ar ôl iddo adael yr ysgol yn 16 oed – nid oedd ei fam yn barod iddo ddychwelyd i’r chweched dosbarth na mynd i’r coleg. Nid yw’n glyfar iawn. Mae’n gweithio ar gyfrifiadur mewn swyddfa, ond does ganddo ddim ffrindiau yno. Ar ei ddesg mae ganddo lun o’i fam, ac mae ganddo un drôr sy’n llawn danteithion. Mae’n gyrru car tair olwyn glas, a rhannau ohono’n dechrau rhydu.
Mae ganddo farf a mwstas llaes a seimllyd du, er bod copa’i ben yn foel, mae ganddo wallt ar hanner isaf ei ben, a chynffon o wallt ‘a hongiai dros ei war fel cwtyn llygoden’. Mae’n dew a seimllyd yr olwg, yn gwisgo sbectol drwchus iawn pan yn darllen, ac mae ganddo ewinedd hirion brwnt.
Doedd ganddo ddim ffrindiau pan oedd yn blentyn, gan nad oedd ei dad yn fodlon iddo gymdeithasu, ac ers i’w dad farw mai ei fam yn amddiffynnol iawn ohono ac yn ymuno’i gadw iddi hi ei hun. Ond, ei unig ffrind yw Wendy. Maen nhw’n eu hadnabod ei gilydd ers wyth mlynedd, ers i Wendy gael swydd ysgrifenyddes yn swyddfa cyngor y dref. Er ei bod hi’n credu eu bod nhw’n gariadon, dydyn nhw ddim, ac mae Robyn yn berson hunanol sydd ddim yn cymryd llawer o ddiddordeb yn ei bywyd.

BETI JONES:
Mae Beti Jones, Mam Robyn, yn 68 oed, ac roedd hi’n 40 oed pan fu farw ei gŵr. Roedd hi’n ei garu, ond dechreuodd y cariad hwnnw bylu pan oedd yn greulon wrth Robyn, a phe geisiai amddiffyn eu mab neu ddadlau gyda’i gŵr, gallai ef droi’n gas. Unwaith iddo farw, roedd Beti am wneud yn iawn am yr holl droeon yr oedd Twm yn gas i Robyn, felly fe’i maldodai i’r eithaf.
Roedd Twm yn ddyn busnes llwyddiannus, felly gadawodd lawer o arian iddi yn ei ewyllys, a bu’n byw ar yr arian hwnnw’n bennaf, er mwyn treulio cymaint o amser â phosibl gyda Robyn. Ond byddai hefyd yn gweithio rhan amser yn siop y gornel yn ystod oriau ysgol neu oriau gwaith Robyn.
Ar ddechrau’r ddrama mae hi’n weddol llond ei chroen, ond wrth i’r ddrama fynd rhagddi mae hi’n teneuo ac yn heneiddio. Mae hi’n gwisgo sbectol ac mae ganddi wallt pyrm brown, ond yng nghwrs y ddrama mae’r gwallt hwnnw’n gwynnu ac yn mynd yn anniben. Nid yw hi’n hoff o Wendy, gan ei bod yn fygythiad i’w perthynas hi a Robyn, ac mae arni ofn iddi ei gymryd oddi wrthi.

WENDY MORGAN:
Mae Wendy’n 37 oed, yn denau gyda gwallt melyn tenau. Mae hi’n byw ar ei phen ei hun mewn fflat yn y dref, ond mae ganddi dair cath yn gwmni iddi. Roedd ei theulu’n rhy uchelgeisiol o lawer ar ei rhan, ond nid yw hi’n berson clyfar iawn felly ni wireddwyd breuddwydion ei rhieni iddi gael swydd uchel a fyddai’n ennill llawer o arian iddi. Nid yw hi’n cadw mewn llawer o gysylltiad â hwy.
Mae hi’n ysgrifenyddes yn swyddfa cyngor y dref ers wyth mlynedd lle y cyfarfu â Robyn am y tro cyntaf. Nid yw hi’n berson sy’n ei chael hi’n hawdd cymdeithasu, ond roedd hi’n hoff o Robyn am mai ef a gafodd y cyfrifoldeb o’i thywys o amgylch y swyddfa cyngor ar ei phenodiad. Tyfodd cyfeillgarwch rhyngddyn nhw, ac roedd hi’n hoffi meddwl eu bod nhw’n gariadon, er nad oedd unrhyw beth wedi digwydd rhyngddyn nhw. Syrthiodd mewn cariad â Robyn, a dymunai ofalu amdano. Ceisiodd ei dynnu oddi wrth ei fam lawer gwaith, ond yn ofer.
TWM JONES:
Roedd Twm Jones, tad Robyn, yn 46 oed pan fu farw o drawiad ar ei galon. Achoswyd yn gan y ffaith ei fod yn yfed, bwyta ac ysmygu gormod. Roedd yn ddyn caled ac ariangar a oedd yn greulon wrth ei wraig a’i fab – mynnai mai ychydig o fwyd y byddai Robyn yn ei fwyta ac na ddylai gymdeithasu â phobl eraill er mwyn iddo aros adref i astudio fel y gallai ef hefyd ennill arian mawr yn y dyfodol. Roedd Twm yn berchen ar fusnes gwerthu ceir, ac yn gyfoethog iawn, ond pan fu farw gwerthodd Beti’r busnes.












































GOLYGFA 1
TU ALLAN: MYNWENT
2.30PM DIWRNOD 1
ROBYN / MAM

MAE’R CAMERA WEDI’I LEOLI YN Y BEDD AC YN EDRYCH I FYNY AR ROBYN SY’N SYLLU’N WAG AR Y CAMERA. MAE’N GWISGO SIWT DACLUS.

TORRIR I SIOT O’R ARCH YN Y BEDD:

TWM JONES
1932 – 1978

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL. DAW MAM AT ROBYN GAN ROI EI BRAICH AM EI YSGWYDD YN GARIADUS. NID YW MAM MEWN GWISG DDU.

MAM: Dere, Robyn goch.

MAE’N EI DYWYS YMAITH, HEB EDRYCH AR YR ARCH.

GOLYGFA 2
TU MEWN: TŶ ROBYN A’I FAM
3.30PM DIWRNOD 1
ROBYN / MAM / 7 GWESTAI / GWEINYDDES

MAE’R YSTAFELL FYW’N GANOLIG EI MAINT AC YN YSTRYDEBOL O’R SAITHDEGAU, OND YN WEDDOL FOEL. MAE LLUNIAU TEULUOL AR Y WALIAU AC MAE YNDDI SETÎ, CADAIR A BWRDD COFFI SY’N WYNEBU SET DELEDU, A BWRDD BWYD WEDDOL HIR YN ERBYN Y WAL SYDD AR BWYS Y DRWS. MAE’R BWRDD YN LLAWN BWYD.

MAE’R CAMERA’N PANIO AR DRAWS YR YSTAFELL FYW LLE MAE GRWPIAU BYCHAIN O BOBL YN SIARAD YMYSG EI GILYDD AC YN BWYTA. NID YDYN NHW’N YMDDANGOS FEL PE BAEN NHW’N GALARU, GYDA RHAI’N CHWERTHIN. MAE’R CAMERA’N CYRRAEDD Y BWRDD A’N PANIO DROSTO. CYN CYRRAEDD PEN Y BWRDD DAW’R CAMERA I STOP A SYMUDA I FYNY GAN DDANGOS ROBYN YN SEFYLL YR OCHR ARALL YN SYLLU AR GACEN SIOCLED FAWR SYDD WEDI’I THORRI’N SAWL DARN, OND ETO’N GYFLAWN. MAE’N CODI EI FRAICH I DDECHRAU ESTYN AM DDARN OND YN STOPIO’N SYDYN GAN DROI EI BEN ER MWYN EDRYCH I GYFEIRIAD Y WAL. MAE’N TYNNU EI FRAICH YN ÔL YN SYDYN, FEL PE BAI ARNO OFN CAEL EI DDAL.

TORRIR I LUN TWM SY’N HONGIAN AR Y WAL. MAE’N LUN O DDYN MAWR TEW SY’N EDRYCH YN GAS, FEL PE BAI’N DWRDIO ROBYN AM YSTYRIED CYMRYD DARN O’R GACEN. MAE MAM YN TROI’R LLUN I WYNEBU’R WAL.

TORRIR AT ROBYN SY’N DAL I EDRYCH AR Y WAL A THORRIR YN ÔL AT MAM, SY’N EDRYCH ARNO GYDA GWÊN FAWR AR EI HWYNEB. NID YW HI’N SWNIO’N DRIST.

MAM: Dyw Dadi ddim ’ma rhagor, siwgwr candi.

TORRIR AT ROBYN SY’N TROI I SYLLU AR Y GACEN. MAE’N EDRYCH ARNI AM EILIAD NEU DDWY CYN CYMRYD DARN A’I FWYTA’N OFALUS. MAE GWÊN FAWR YN LLEDU AR DRAWS EI WYNEB WRTH IDDO FWYTA. MAE’R SIOT YN AROS YR UN PETH, OND MAE DAU DREIAN O’R GACEN YN DIFLANNU. MAE’N DAL I FWYTA GYDA GWÊN FAWR, A SIOCLED, AR EI WYNEB.

TORRIR AT MAM, SY’N EDRYCH AR ROBYN GYDA GWÊN FODDHAUS AR EI HWYNEB.

MAE’R WEINYDDES YN CERDDED O FLAEN MAM O GYFEIRIAD Y BWRDD GAN GARIO PLÂT A CHACEN GAWS ARNO.



GOLYGFA 3
TU MEWN: BWYTY 69
8.00PM DIWRNOD 2
ROBYN / WENDY / EXTRAS / GWEINYDD / GWEINYDDES / DYN GOLYGUS

MAE TREFNIANT BYWIOG O ‘BLE GEST TI’R DDAWN?’ YN CHWARAE.

MAE’R WEINYDDES A OEDD YN GOLYGFA 2 YN LLENWI’R SGRIN, AC WRTH IDDI GERDDED HEIBIO MAE’R YSTAFELL YN TROI I MEWN I’R BWYTY. MAE’N LLE CRAND GYDA NIFER O BOBL YN EISTEDD O AMGYLCH Y BYRDDAU’N BWYTA A GWEINYDDWYR YN CERDDED O’I AMGYLCH.

BOB HYN A HYN MAE’R CAMERA’N SWMIO’N GYFLYM I MEWN I BRYD BWYD, GYDA’R CREDITS AR FFURF Y BWYDYDD HYNNY:

MAE PLÂT GYDAG YCHYDIG O BYS A SAWS YN WEDDILL ARNO’N SILLAFU ENW RHYWUN, MADARCH AR BIZZA, SAWS AR HUFEN-IÂ, MINTS, AC MAE ‘PE BAI’R WYDDFA I GYD YN GAWS?’ WEDI’I SILLAFU AR HAMBWRDD O GRACYRS A CHAWS.

MAE’R CAMERA’N PANIO AR DRAWS Y BWYTY NES CYRRAEDD Y DRWS. SAIF WENDY YNO AR FLAENAU’I THRAED YN EDRYCH AM ROBYN AC WRTH EI WELD GWENA’N GARIADUS.

MAE EI GWALLT WED’I DRIN YN ARBENNIG AR GYFER YR ACHLYSUR, AC MAE HI’N GWISGO FFROG NEWYDD BERT LAS GOLAU A BLODAU BACH MELYN ARNI.

TORRIR AT DDYN GOLYGUS YN EISTEDD WRTH FWRDD YN DARLLEN Y FWYDLEN – MAE’R CAMERA’N WYNEBU EI OCHR. MAE’N RHOI’R FWYDLEN I LAWR, GAN DDATGELU ROBYN YN EISTEDD AR Y BWRDD Y TU ÔL IDDO’N DARLLEN Y FWYDLEN. WRTH I’R FWYDLEN OSTWNG MAE’R GERDDORIAETH YN MYND ALLAN O DIWN, A’N STOPIO.

GWISGA ROBYN DDILLAD LLAC, GLAS TYWYLL A BROWN, A SBECTOL TRWCHUS. DYW E HEB EILLIO AC MAE EI GYNFFON O WALLT TENAU, SEIMLLYD, YN HONGIAN DROS EI WAR, HEB EI OLCHI ERS WYTHNOSAU.

MAE’R CAMERA’N SWMIO’N AGOSACH AT Y BWRDD A GWELWN WENDY’N DOD I EISTEDD GYFERBYN AG EF.

TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH YN DDISGWYLGAR AR ROBYN, A THORRIR I’R FWYDLEN SY’N EI GUDDIO. NID YW WEDI SYLWEDDOLI FOD WENDY YNO, FELLY WRTH DORRI ATI MAE’R WÊN WEDI DIFLANNU AC MAE HI’N PESWCH YN AWGRYMOG. TORRIR AT ROBYN, SY’N TYNNU’R FWYDLEN I LAWR YN GYFLYM. MAE’N GWISGO BATHODYN YN DWEUD ‘IS-GYNORTHWYYDD CYNORTHWYOL’ SY’N SGLEINIO, TRWY GYDOL Y DDRAMA.

ROBYN: Wendy! Wel, ble wyt ti wedi bod? Dwi wedi bod yn aros ac yn aros amdanat ti, a dwi ar lwgu. Ro’n i bron â bwyta fy mrechdan wrthgefn.

TORRIR AT WENDY.

WENDY: Ble wyt ti wedi bod, Robyn? Ddwedaist ti dy fod ti am fy nghasglu i am chwarter wedi saith. Dwi wedi bod yn aros ac yn aros amdanat ti…

TORRIR AT ROBYN WRTH IDDI DDWEUD Y CYMAL OLAF. MAE’N POLISHO’I FATHODYN HEB GYRMYD UNRHYW SYLW OHONI AC AR ÔL IDDI ORFFEN SIARAD MAE’N CODI’I BEN A GWENU’N FODDHAUS. ESTYNA’I FRAICH ALLAN A THORRI I WENDY WRTH IDDO GYDIO YN EI BOCH YN GARIADUS. MAE HI’N COCHI WRTH IDDI AFAEL YN EI LAW, AC YNA’N GWENU.

ROBYN: Wel gadewch inni edrych ar y fwydlen i weld be gawn ni i’w f’yta i ddathlu.

TORRIR I’R BWRDD GYDA’R DDAU’N EISTEDD GYFERBYN Â’I GILYDD. DECHREUA ROBYN DDARLLEN Y FWYDLEN GYDA’I DRWYN, A SYLLA WENDY ARNO’N GARIADUS AM RAI EILIADAU CYN ESTYN EI LLAW I DDALYN EI LAW EF. MAE ROBYN YN GOSTWNG Y FWYDLEN I EDRYCH AR WENDY WRTH IDDI SIARAD. TORRIR AT WENDY SY’N SIARAD YN GARIADUS.

WENDY: O, Robyn, dwi mor falch. O’r diwedd rwyt ti’n dechrau dod ymlaen yn y byd. Pan gwrddon ni a dechrau … dechrau dod yn ffrindiau, wyth mlynedd yn ôl bellach, mae’n anodd credu on’d yw hi? Pwy fyddai’n meddwl y byddet ti’n is-gynorthwyydd cynorthwyol heddiw yn swyddfa cyngor y dre? A ninnau’n dal i fod yn… ffrindiau?

TORRIR AT ROBYN SY’N TYNNU EI LAW O AFAEL WENDY.

ROBYN: Wel, do’n i ddim yn edrych mor anobeithiol, o’n i Wendy?

DYCHWEL AT Y FWYDLEN. TORRIR I’R FWYDLEN A ROBYN YN DILYN YR YSGRIFEN GYDA’I FYS – MAE EI LAW’N DEW A PHINC GYDAG EWINEDD HIR BRWNT, CRAFANGLYD. TORRIR AT WENDY.

WENDY: O, na, nid dyna o’n i’n feddwl, do’n i ddim yn awgrymu dy fod ti’n edrych… Wel, ti’n gwbod.

TORRIR AT ROBYN, AC MAE’N GOSTWNG Y FWYDLEN ETO.

ROBYN: Nag ydw, Wendy. Dwyt ti ddim yn siarad yn glir iawn heno o gwbl. Prin dy fod ti’n gwneud synnwyr. A finnau’n gobeithio dathlu fy nyrchafiad. Paid â hela fi i deimlo’n bendrist fel y mae gen ti ryw ddawn i’w wneud weithiau.

MAE WENDY’N GAFAEL YN LLAW ROBYN ETO. TORRIR ATI.

WENDY: O, do’n i ddim eisiau brifo dy deimladau di. Wir, nag o’n, Robyn. Ac fe brynais i ffrog newydd yn y dre heddiw, yn arbennig at heno… Beth wyt ti’n ei feddwl ohoni, Robyn?

MAE HI’N SYMUD YN EI SEDD I DDANGOS MWY O’R FFROG I ROBYN. SAIF Y GWEINYDD Y TU ÔL IDDI’N CARIO PLATAID O ASENNAU BREISION. TORRIR AT ROBYN, SY’N SYLLU’N SYTH YN EI FLAEN A’I GEG YN LLED AGORED A SIARADA’N FREUDDWYDIOL.

ROBYN: Dyna’r peth hyfrytaf welais i yn fy mywyd…

TORRIR AT WENDY, SYDD WEDI COCHI.

WENDY: O, Robyn…

ROBYN: Dwi am gael un ohonyn nhw.

WENDY: Beth?!

TORRIR I’R BWRDD AC MAE ROBYN YN GALW GWEINYDD SYDD GERLLAW.

ROBYN: Esgusodwch fi.

CERDDA’R GWEINYDD AT Y BWRDD A SAIF RHWNG ROBYN A WENDY.

Allwn ni ga’l dau o’r rheini, os gwelwch yn dda?

PWYNTIA AT Y GWEINYDD SYDDY TU ÔL I WENDY. TORRIR AT WYNEDY SY’N TROI I EDRYCH AR Y GWEINYDD. TORRIR RHWNG Y TRI WRTH IDDYNT SIARAD.

WENDY: Ond dwi ddim eisiau asennau breision, Robyn.

ROBYN: Beth wyt ti eisiau, Wendy?

WENDY: Dwi ddim wedi cael cyfle i ddarllen y fwydlen eto.

GWEINYDD: Felly, dim ond un plataid o asennau breision, ’te.

ROBYN: Pam ’ny?

GWEINYDD: Wel, madam ’wedodd…

TORRIR I’R BWRDD A DECHREUA ROBYN CHWERTHIN. EDRYCHA WENDY A’R GWEINYDD ARNO’N SYN.

ROBYN: Ddim i Wendy ma’ fe… MAE’N CHWERTHIN YN AFREOLUS.

GWEINYDD: Fe ddo i nôl i gymryd eich archeb chi mewn munud.

CERDDA I FFWRDD CYN GYFLYMED AG Y GALL. TORRIR AT WENDY, SY’N DARLLEN Y FWYDELN, AC YNA I ROBYN, SY’N DARLLEN Y FWYDLEN GYDA’I DRWYN.

TORRIR I’R BWRDD, A DYCHWELA’R GWEINYDD.

GWEINYDD: Ydych chi’n barod i archebu?

ROBYN: Ww, ydyn. Beth wyt ti’n mynd i’w gael, Wendy?

TORRIR AT WENDY, SY’N DARLLEN O’R FWYDLEN.

WENDY: Cawl llysiau i ddechrau ac omled a salad fel prif saig, os gwelwch yn dda.

MAE HI’N CAU’R FWYDLEN A’I GOSOD I’R NAILL OCHR. TORRIR AT Y GWEINYDD, SY’N YSGRIFENNU’R ARCHEB YN EI LYFR. TORRIR I ROBYN AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYNT SIARAD.

ROBYN: Dyna i gyd?

WENDY: Ie. Oes gwahaniaeth ’da ti, Robyn?

ROBYN: Nag oes. Ond dathlu y’n ni, cofia.

RHWBIA’I FATHODYN, AC EDRYCHA’N AWGYMOG AR Y GWEINYDD. TORRIR AT Y GWEINYDD YN EDRYCH YN HURT ARNO.

GWEINYDD: Eich archeb, syr.

TORRIR I SIOT O ROBYN A’R GWEINYDD, A DARLLENA ROBYN YN GYFLYM O’R FWYDLEN. YSGRIFENNA’R GWEINYDD CYN GYFLYMED AG Y GALL A THROI TUDALEN EI LYFR NODIADAU DDWYWAITH WRTH WNEUD HYNNY.

Fe gymera i’r corgimychiaid ac afocado a bara garlleg a myshrwms i ddechrau a’r hog roast gyda llysiau a salad a sglodion tatws ar yr ochr. O, a peidiwch ag anghofio’r ddau blataid o asennau breisio, a dwy fowlen o broffiterôls gyda saws siocled i bwdin. Allwch chi dod â’r bwyd i gyd i’r bwrdd gyda’i gilydd?

NODIA’R GWEINYDD EI BEN A CHWYD ROBYN EI BEN I SIARAD GYDA WENDY. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYNT SIARAD.

A be gymerwn ni i’w yfed – wel siampen wrth gwrs!

WENDY: Dim i fi, diolch Robyn.

ROBYN: Ti’n gallu bod yn boen yn y pen-ôl weithiau, Wendy; ry’n ni’n dathlu, cofia.

WENDY: O, iawn ’te, fe gymera i siampên hefyd.

TORRIR I’R BWRDD, A CHERDDA’R GWEINYDD YMAITH, GAN RWBIO’R CHWYS O’I DALCEN.

ROBYN: Sdim eisiau i ti orfodi dy hun er mwyn ’y mhlesio i.

MAE WENDY WEDI PWDU, FELLY SIARADA MEWN LLAIS ISEL, RHWNG EI DANNEDD.

WENDY: Robyn. Dwi’n eithaf hapus i yfed siampen i ddathlu dy ddyrchafiad di, iawn?

ROBYN: Iawn. Sdim eisiau i ti droi’n gas chwaith. Gobeithio na fydd y bwyd ma’n hir. Dwi’n llwgu. SAIB. Fedra i ddim aros rhagor.

TORRIR AT ROBYN A THYNNA’I FRECHDAN WRTHGEFN O BOCED FEWNOL EI SIACED. DECHREUA EI BWYTA AC MAE DIFERYN O FWSTARD YN GLANIO AR EI GRYS. TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH O’I HAMGYLCH YN LLAWN CYWILYDD. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYNT SIARAD.

WENDY: Robyn…

TORRIR AT ROBYN, SY’N TORRI AR EI THRAWS A SIARADA GYDA’I GEG YN LLAWN. WRTH IDDO SIARAD MAE BRIWSION YN HEDFAN DROS BOBMAN.

ROBYN: O, Wendy, dw i mor falch dy fod ti wedi dod ’da fi i ddathlu heno. Dw i wedi mwynhau fy hunan yn fawr iawn.

WENDY: Wel, nawr bod gen ti well swydd, ac rwyt ti’n meddwl prynu dy fflat dy hun, dim ond un peth arall sydd eisiau.

LLYNCA ROBYN YN GALED.

ROBYN: Beth wyt ti’n feddwl?

WENDY: Wel, meddwl oeddwn i, ydy dy fywyd di’n gyflawn?

ROBYN: Ti’n iawn, Wendy. Ti’n nabod fi’n dda, on’d wyt ti?

COCHA WENDY.

WENDY: Ry’n ni wedi bod yn ffrindiau agos ers dros wyth mlynedd, Robyn.

ROBYN: Ti’n iawn, Wendy.

TORRIR I’R BWRDD.

Fe fydd rhaid i mi gael rhyw gi neu gath i gadw cwmni i mi. Rhywbeth byw o gwmpas lle…

DAW TRI GWEINYDD Â’R BWYD AT Y BWRDD, A THORRIR AT WYNEB ROBYN SY’N GLAFOERIO. DILYNA’R CAMERA WEINYDD SY’N CARIO’R HOG ROAST AT Y BWRDD. DAW I STOP WRTH YMYL ROBYN GAN OSTWNG Y PLAT I LEFEL WYNEB ROBYN – MAE TEBYGRWYDD MAWR RHYNGDDYNT. TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH YN SÂL. DECHREUA FWYTA’N ARAF.

TORRIR AT ROBYN SY’N DECHRAU BWYTA. MAE’R TREFNIANT BYWIOG O ‘O BLE GEST TI’R DDAWN?’ YN CHWARAE WRTH I’R CAMERA DORRI RHWNG SIOT AGOS O’R BWYD A SIOT AGOS O WYNEB NEU GEG ROBYN WRTH IDDO FWYTA. TORRIR I’R SIOT ARFERFOL O ROBYN WRTH IDDO FWYTA’R TAMAID OLAF. MAE’N RHOI EI LWY YN Y FOWLEN AC EISTEDD YN ÔL YN EI GADAIR. MAE EI GRYS YN LLANAST, WEDI EI STAENIO GAN Y BWYD.

TORRIR AT WENDY, SY’N DAL I FWYTA’R CAWL LLYSIAU. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

WENDY: O’s ’na ryw ffilm dda ar y teledu heno tybed?

ROBYN: Nag oes.

WENDY: Wel oes fideo ’da ti o rywbeth ’te?

ROBYN: Nag oes.

MAE HI’N GOSOD Y LLWY YN Y FOWLEN WAG WRTH SIARAD.

WENDY: Robyn. Mae’n drwg ’da fi ond dwi’n teimlo’n flinedig. Well i mi fynd.

MAE’N CODI O’I CHADAIR.

ROBYN: Wendy. Hoffet ti ddod acw heno?

WENDY: Mae’n rhy ddiweddar, Robyn. Dw i wedi bod yn crybwyll y peth drwy’r noson ond weithiau ti’n gallu bod mor ddideimlad â bloc o goncrid.

ROBYN: Ga i fynd â ti adref yn fy nghar ’te?

WENDY: Ti’n anghofio, Robyn, fod gen i fy nghar fy hun – dyna sut cyrhaeddais i yma heno. Diolch yn fawr. Fe wela i di o gwmpas, os bydd dy fam yn fodlon. Hwyl.

CERDDA WENDY ALLAN DRWY’R DRWS. TORRIR AT ROBYN SY’N SYLLU AR EI HOL. AR ÔL EILIAD NEU DDWY, CWYD EI YSGWYDDAU AC YN ESTYN AM OMLET WENDY A’I FWYTA.

GOLYGFA 4
TU ALLAN: MAES PARCIO
9.30PM DIWRNOD 2
ROBYN

CEIR SIOT O’R BWYTY. CERDDA ROBYN ALLAN AC AM Y MAES PARCIO. TORRIR ATO’N CYRRAEDD EI GAR A’N MYND I MEWN IDDO GYDA PHETH ANHAWSTER. MAE’N GYRRU YMAITH.

GOLYGFA 5
TU MEWN: Y GEGIN
8.00AM DIWRNOD 3
ROBYN / MAM

MAE’R GEGIN YN WEDDOL FACH A’R ADDURNO’N DAL I FOD YN NULL Y SAITHDEGAU. MAE’R BWRDD YNG NGHANOL YR YSTAFELL A’R CLOC AR Y WAL YN DANGOS 8.00AM.

EISTEDDA ROBYN WRTH Y BWRDD YN GORFFEN PLATAID O FRECWAST LLAWN AC MAE EI FAM YN COGINIO WRTH Y FFWRN. MAE ROBYN YN GORFFEN Y BWYD A’N DAL EI GYLLELL A’I FFORC NAILL OCHR I’R PLAT.

ROBYN: Barod, Mami!

CERDDA MAM ATO GYDA PHADELL FFRIO ANFERTH YN LLAWN CIG MOCH, SELSIG, WYAU, BARA SAIM A MADARCH. MAE’N RHOI’R CYFAN AR BLÂT ROBYN CYN MWYTHO’I WALLT.

MAM: Dyna ti, fy siwgwr candi i.

EDRYCHA ROBYN ARNI’N WÊN O GLUST I GLUST, FEL PLENTYN BACH, CYN DECRHAU BWYTA.

GOLYGFA 6
TU MEWN: SWYDDFA ROBYN
10.00AM DIWRNOD 3
ROBYN / WENDY

DENGYS Y CLOC AR Y WAL 10.00AM AC EISTEDDA ROBYN WRTH EI DDESG YN BWYTA ECLAIR MAWR. AR Y DDESG MAE CYFRIFIADUR A LLUN O’I FAM. TORRIR I’W GEG WRTH IDDO GYMRYD DARN OHONO, A GLYNA PETH O’R HUFEN YNG NGHORELI EI FWSTAS. EGYR Y DRWS A THORRIR I’R SIOT BLAENOROL. MAE ROBYN YN STWFFIO GWEDDILL YR ECLAIR I’W GEG MEWN YMGAIS I’W GUDDIO WRTH PWY BYNNAG SYDD WRTH Y DRWS, HEB SYLWEDDOLI MAI WENDY YDYW. CERDDA I MEWN A SEFYLL O FLAEN EI DDESG.

ROBYN: O, Wendy. Ti sydd yna.

WENDY: Mae’n ddrwg gen i, Robyn, ond dw i wedi penderfynu dw i ddim eisiau dy weld ti eto…

ROBYN: Ond, Wendy, mae’n ddrwg gen i hefyd!

MAE LLAIS WENDY’N GADARN WRTH SIARAD, OND YN MYND YN GRYNEDIG ERBYN GORFFEN.

WENDY: Paid â dweud dim! Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd. Dwi wedi gwrando digon arnat ti. Wedi cael wyth mlynedd yn dy ganlyn di, yn gwrando arnat ti’n siarad am dy waith anniddorol, dy gar bach hen ffasiwn, a dwi wedi dy wylio di’n b’yta fel mochyn – a dwi wedi cael digon.

TYNNA HANCES O’I PHOCED I SYCHU EI THRWYN.

Dwyt ti byth wedi gofyn imi am fy ngwaith i, byth wedi dangos dim diddordeb yn fy mywyd i. Rwyt ti mor hunanol ac mor ddideimlad â ffenest. Wel, mae hi a ben ar ein cyfeillgarwch ni. Paid â cheisio cysylltu â fi.

CERDDA WENDY ALLAN.

ROBYN: Ond, Wendy…

CWYD AR EI DRAED ER MWYN MYND AR EI HÔL, OND YN CAEL EI RWYSTRO GAN FOD Y GADAIR YN SOWND AR EI BEN ÔL, FELLY EISTEDDA I LAWR. SYLLA AR Y DRWS AM EILIAD NEU DDWY CYN AGOR DROR EI DDESG A THYNNU PUM ECLAIR OHONO A’U RHOI AR Y DDESG. TORRIR I’W WYNEB TRIST WRTH IDDO’U BWYTA, A THODDA’R SIOT I’R OLYGFA NESAF.

GOLYGFA 7
TU MEWN: Y GEGIN
6.00PM DIWRNOD 3
ROBYN / MAM

SYLLA ROBYN I WAGLE GYDA’R UN OLWG DRIST AR EI WYNEB YN CNOI BWYD. MAE’R CAMERA’N SWMIO ALLAN I DDATGELU GWEDDILL Y GEGIN AC MAE EI FAM YN COGINIO WRTH Y FFWRN. MAE PLÂT ROBYN YN WAG.

ROBYN: Ga i ragor, Mam?

MAM: Cei, wrth gwrs, fy machgen annwyl i.

DAW AT Y BWRDD GYDA SOSBAN FAWR A LLWY A RHOI PASTA, CIG MOCH, CIG EIDION A CHAWS AR EI BLÂT.

ROBYN: A, Mam?

MAM: Ie, ’nghariad i?

ROBYN: Wnei di roi’r record ’na, ‘O, ble gest ti’r ddawn?’ ymlaen?

MAM: Gwnaf, wrth gwrs, fy mlodyn, os wyt ti mo’yn.

MAE MAM YN RHOI’R RECORD YMLAEN WRTH I ROBYN DDECHRAU BWYTA. EISTEDDA WRTH Y BWRDD. TORRIR ATI A RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

Pam wyt ti mo’yn y gân ’ma, Robyn? Mae’n eithaf trist, on’d yw hi?

ROBYN: Dyna pam, Mam. Dw i’n teimlo’n drist iawn heno.

MAM: O? Pam wyt ti’n teimlo’n drist, ’nghariad bach i? Gwêd wrth dy fam.

ROBYN: Mae Wendy wedi ’ngadael i, Mam.

MAM: Paid â phoeni, pwdin plwm. Wna i ddim dy adael di.

TORRIR I’R SIOT O’R GEGIN A CHWYD MAM GAN ROI SWS I ROBYN AR EI DACEN CYN HYMIAN I’R GERDDORIAETH A DAWNSIO AT Y SINC I OLCHI’R LLESTRI – MAE’N AMLWG YN HAPUS O GLYWED HYN.

MAE’R GERDDORIAETH YN TROI I’R TREFNIANT BYWIOG. MAE’R CAMERA’N SWMIO’N AGOSACH AT ROBYN A DENGYS AMSER YN MYND HEIBIO WRTH I MAM DDOD Â PHRYD AR ÔL PRYD I ROBYN AC YNTAU’N EU BWYTA. TORRIR RHWNG Y BWYD, ROBYN YN EI FWYTA A MAM YN EI BARATOI AC MAE ROBYN YN GRADDOL MYND YN FWY, A’I DDILLAD YN MYND YN DYNNACH GYDAG AMBELL I FOTWM EI GRYS DDOD I FFWRDD. MAE MAM YN MYND YN LLAI, A’N HENEIDDIO, AC MAE PETH O DDODREFN Y GEGIN YN RADDOL DDIFLANNU.

WYTHNOS YN DDIWEDDARACH.

Y PRYD BWYD OLAF A DDAW I’R BWRDD YW UWD A SIWGR, WYTH TOCYN O DOST YN NOFIO MEWN MENYN, CHWECH SLEISEN O FACWN, SELSIG, TRI WY, BARA WEDI’I FFRIO A THRI CHWPANED O GOFFI HUFENNOG A PHUM LLWYAID O SIWGR YMHOB UN OHONYNT. MAE’R RHAIN HEFYD YN GRADDOL DDIFLANNU. TORRI I SIOT O’R GEGIN AC EISTEDDA ROBYN WRTH FWRDD O LESTRI GWAG A PHYLA’R GERDDORIAETH. DECHREUA ROBYN GODI O’I GADAIR OND YN METHU GAN EI FOD YN SOWND YNDDI. MAE MAM YN GOLCHI LLESTRI, AC WRTH I ROBYN STRYFFAGLU MAE’N EI THARO AR EI HYSGWYDD AM GYMORTH.

MAE MAM YN AGOR Y CWPWRD SYDD O DAN Y SINC A THYNNU DARN HIR O BREN ALLAN. FE’I DEFNYDDIA I HELPU ROBYN O’R GADAIR YN LLWYDDIANNUS. MAE MAM YN SYRTHIO YN Y GADAIR ARALL, WEDI LLWYR YMLÂDD.

ROBYN: Ta ta, Mam. Dw i’n mynd i’r swyddfa nawr. Fe wela i di heno.

MAE’N RHOI CUSAN IDDI AR EI THALCEN A CHERDDED ALLAN O’R YSTAFELL. SIARADA MAM ALLAN O WYNT.

MAM: Ta ta… fy neiamwnt.

TORRIR AT MAM. MAE’R CHWYS YN DIFERRU I LAWR EI HWYNEB FFLAMGOCH AC FE’I SYCHA ODDI AR EI THALCEN GYDA’I LLAWES.

GOLYGFA 8
TU ALLAN: TŶ ROBYN A’I FAM
8.30AM DIWRNOD 4
ROBYN

CEIR SIOT O’R TŶ A CHERDDA ROBYN ALLAN DRWY’R DRWS AC AM Y CAR. TORRIR YN AGOSACH ATO EF A’R CAR WRTH AGOR Y DRWS GYDA’I ALLWEDD.

CEISIA’I ORAU I’W WASGU EI HUN I MEWN IDDO – EI GOES YN GYNTAF, YNA’I FOL YN GYNTAF, YNA’I BEN-ÔL YN GYNTAF. WRTH WNEUD HYN MAE CORN Y CAR YN CANU’N DDAMWEINIOL , MAE ROBYN YN CHWYSU A CHOCHI A GWNEUD SYNAU TYCHAN AC YMDRECH.

GOLYGFA 9
TU MEWN: Y GEGIN
8.25AM DIWRNOD 4
ROBYN / MAM

CEIR SIOT O GYFEIRIAD FFENEST Y GEGIN GYDA MAM YN GOLCHI’R LLESTRI, A’R DRWS YN Y PELLTER. CERDDA ROBYN AM Y DRWS, A GWASGA’I HUN DRWYDDO CYN EI OLLWNG EI HUN YN Y GADAIR AGOSAF YN DRIST YR OLWG. NEIDIA MAM WRTH GLYWED SŴN ROBYN YN EISTEDD A THROI I’W WYNEBU CYN CERDDED ATO. CEISIA ROI EI BRAICH O’I AMGYLCH YN OFER, FELLY CYDIA’N EI LAW.

TORRIR I SIOT AGOS OHONYNT.

MAM: Beth sy’n bod, deryn bach?

ROBYN: Alla i ddim mynd i’r swyddfa heddi, Mam.

MAM: Pam fy nghreisionyn bach?

MAE HI’N GOSOD CLEDR EI LLAW AR EI DALCEN.

Dwyt ti ddim yn dost nag wyt ti?

TORRIR AT WYNEB ROBYN AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYNT SIARAD.

ROBYN: Nag ydw, ond alla i ddim mynd heddi.

TYNNA MAM EI LLAW ODDI AR EI DALCEN.

MAM: Wel, gwêd pam, fy nhrysor i.

ROBYN: Alla i ddim mynd mewn i’r car. Mae’n rhy fach.

TORRIR I’R SIOT O’R DDAU GYDA’I GILYDD, AC MAE MAM YN RHOI CWTSH IDDO.

MAM: Paid â phoeni. Aros di yma ’da fi. Fe ffonia i’r swyddfa i esbonio nes ’mlaen.

MAE MAM YN MYND I’R OERGELL A DYCHWELYD GYDA DAU DWBYN MAWR O HUFEN-IÂ, HEB Y CAEADAU, A LLWY. DECHREUA ROBYN FWYTA A SAIF MAM YN EDRYCH ARNO’N GWENU.

Wyt ti am i fi archebu pizza i ti erbyn amser cinio, blodyn tatws? Beth am dy ffefryn – olifau, corgimychiaid, madarch a chig moch, a bara garlleg?

ROBYN: Diolch Mam. Ti bob amser yn gwybod sut i godi ’nghalon i.

MAE MAM YN GADAEL YR YSTAFELL. TORRIR ATI’N CYRRAEDD Y CYNTEDD A CHODI’R FFON DDIWIFREN. TORRIR I’R FFÔN GYDA RHESTR SPEED DIALS ARNO:

1 – ‘SWYDDFA ROBYN’ 2 – TSIEINÏAIDD

3 – ‘TESCO’ 4 – INDIAIDD

5 – CIGYDD 6 – PIZZA

7 – BECWS 8 – DYN LLAETH

9 – ‘WENDY’ WEDI’I GROESI ALLAN, A ‘BECWS’ WRTH EI YMYL

MAE HI’N GWASGU BOTWM RHIF 6 A THORRIR I SIOT AGOS O’I HWYNEB.

MAM: Helo, Mrs Jones sydd yma. Yr arferol, os gwelwch yn dda. SAIB. Un o’r gloch? SAIB. Diolch.

MAE’N RHOI’R FFÔN I LAWR A CHERDDED YN ÔL I’R GEGIN.

GOLYGFA 10
TU ALLAN: SIOP PIZZA
12.30PM DIWRNOD 4
GWEITHIWR YN Y SIOP PIZZA

SIOT O’R SIOP PIZZA A DAW’R GWEITHIWR ALLAN N CARIO TRI BOCS O PIZZA. MAE’N EU RHOI YN Y BLWCH SYDD AR GEFN Y BEIC MODUR CYN TANIO’R PEIRIANT A GYRRU I FFWRDD.



GOLYGFA 11
TU ALLAN: Y FFORDD I DŶ ROBYN A’I FAM
12.35PM DIWRNOD 4
GWEITHIWR Y SIOP PIZZA / MAM

MAE’R TREFNIANT BYWIOG YN CHWARAE.

DILYNNIR Y BEIC MODUR AR HYD Y STRYDOEDD AC MAE POPETH SYDD YN Y CEFNDIR YN SYMUD YN GYFLYMACH NAG EF, I DDANGOS BOD AMSER N MYND HEIBIO: MAE’R TYWYDD YN NEWID BOB HYN A HYN AC MAE’N NOSI YNA’N GWAWRIO NES I’R BEIC GYRRAEDD Y TU ALLAN I DŶ ROBYN A’I FAM. WRTH I’R OLYGFA FYND YN EI BLAEN, MAE NIFER Y BOCSYS PIZZA’N CYNYDDU, NES BOD TŴR OHONYNT AR GEFN Y BEIC MODUR.

DAW’R BEIC I STOP AC MAE’R GWEITHIWR YN CARIO’R PIZZAS, GYDA CHRYN DRAFFERTH, AT Y DRWS A CHANU’R GLOCH. DAW MAM I’R DRWS GAN GYMRYD Y PIZZAS A THALU, YNA MAE’R DYN YN GADAEL.

DAW’R GERDDORIAETH I STOP.

GOLYGFA 12
TU MEWN: Y GEGIN
1.05PM DIWRNOD 5
ROBYN / MAM

MAE MAM YN GOSOD Y BOCSYS PIZZAS AR FWRDD Y GEGIN. MAE HYD YN OED LLAI O DDODREFN YN Y GEGIN NAWR.

ROBYN: Mami…

TORRIR AT ROBYN YN CEISIO CERDDED DRWY’R DRWS YN OFER. MAE’N LLAWER MWY NA’R TRO DIWETHAF. TORRIR AT MAM.

MAM: Paid ti â phoeni, mi ddo i â bwyd iti. Beth am sglodion tatws a gateau neu ddwy gyda hwn nawr ac wedyn cei di rywbeth mwy sylweddol yn nes ymlaen?

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Diolch Mam.

CERDDA YMAITH.

GOLYGFA 13
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.15PM DIWRNOD 5
ROBYN / MAM

EISTEDDA ROBYN AR Y SETÎ’N GWYLIO’R TELEDU A BWYTA O FOCS SIOCLEDI SY’N GORFFWYS AR EI FOL A PHECYNNAU MAWR GWAG O GREISION A CHANIAU GWAG O BOP O’I AMGYLCH. MAE’R CAMERA WEDI’I LEOLI Y TU ÔL I’R TELEDU GYDA ROBYN YN EISTEDD GYFERBYN.

GORFFWYSA BRWSH LLAWR YN ERBYN Y WAL WRTH Y SETÎ, O FEWN CYRRAEDD I ROBYN.

TELEDU: Ar gyfartaledd, mae’r morfil glas yn pwyso rhwng nawdeg a chan tunnell a hanner, ac yn bwyta cymaint â saith mil, saith cant a phymtheg pwys o cril y dydd…

MAE’R DRWS YN Y PELLTER A DAW MAM I MEWN YN GWTHIO TROLI FWYD GYDA’R TRI PIZZA, SGLODION TATWS A DAU GATEAU ARNO. MAE’N GOSOD Y TROLI O FLAEN ROBYN, YNA MAE’R CAMERA’N SWMIO’N GYFLYM AT EI WYNEB WRTH IDDO EDRYCH ARNO’N GLAFOERIO AC YNA CEIR SIOT O’R TROLI GYDA’R TELEDU YN Y CEFNDIR. YN SYDYN, MAE’R TELEDU’N DIFFODD.

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL. MAE ROBYN YN GAFAEL YN Y BRWSH LLAWR A DECHRAU BWRW’R SET DELEDU. OND MAE’N BLINO AR ÔL DWY ERGYD, A’N GOSTWNG Y BRWSH.

ROBYN: Mami… gwna rywbeth!

CERDDA MAM AT Y TELEDU A’I Â’I LLAW, OND STOPIA AR ÔL EILIAD NEU DDWY.

MAM: Paid â phoeni, siwgir lwmp. Bwyta di dy fwyd cyn iddo fe oeri, ac fe ffonia i’r peiriannydd.

DECHREUA ROBYN FWYTA’R PIZZA.

GOLYGFA 14
TU MEWN: Y CYNTEDD
1.30PM DIWRNOD 5
MAM

YR UN SIOT Â GOLYGFA 11 OND MAE MAM EISOES YN DAL Y FFÔN WRTH EI CHLUST.

MAM: Helo. Yw hi’n bosib i chi ddod draw i drwsio’r teledu, os gwelwch yn dda? SAIB. 34 Stryd y Pesgi. SAIB. Mrs Jones. SAIB. Bydd, bydd ugain munud yn iawn. Diolch.

MAE’N RHOI’R FFÔN I LAWR A CHERDDED I’R YSTAFELL FYW.

GOLYGFA 15
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.35PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14.

MAE ROBYN WEDI GORFFEN Y BWYD A CHERDDA MAM I MEWN I’R YSTAFELL.

MAM: Bydd y peiriannydd yma mewn ugain munud, calon.

DECHREUA WTHIO’R TROLI ALLAN O’R YSTAFELL.

ROBYN: Wnei di ddod â’r teledu sydd yn fy ystafell i i fi tra ’mod i’n aros, os gweli di’n dda?

STOPIA A SWNIA’N DRIST WRTH SIARAD.

MAM: Mae e wedi mynd, ’nghariad i.

SYLLA ROBYN ARNI’N SYN.

ROBYN: Wel, beth am y radio ’te? Gewn ni wrando ar Ryan a Ronnie.

TORRIR AT MAM AC YNA RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

MAM: Ma’r radio a’r record wedi mynd hefyd. Ro’dd yn rhaid i fi eu gwerthu nhw. Ond bydd y trydanydd yma cyn hir. Wyt ti am i fi wneud rhagor o sglodion tatws i ti, gyda bysedd pysgod a phys?

ROBYN: Os gweli di’n dda, Mam. Wnei di ddod â’r botel sos coch hefyd?

MAM: Gwnaf, calon.

ROBYN: Ond, be wnaf i tra mod i’n aros?

MAM: Wnei di ganu ‘Pan fyddo’r nos yn hir’ i dy fam? Yn ddigon uchel i mi allu dy glywed di o’r gegin – mae gen’ ti lais fel y gog, ’nghariad i.

ROBYN: Iawn, Mam. Unrhyw beth i ti.

GWTHIA MAM Y TROLI ALLAN O’R YSTAFELL.

GOLYGFA 16
TU MEWN: Y GEGIN
1.50PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN

CEIR SIOT O’R GEGIN GYFAN A MAM YN PARATOI BWYD. MAE ROBYN YN GWEIDDI CANU’N AFLAFAR O’R YSTAFELL FYW A MAM YN HYMIAN Y DIWN GYDAG EF. AR ÔL RHAI EILIADAU MAE CLOCH Y DRWS YN CANU A MAM YN MYND I’W ATEB.

GOLYGFA 17
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.55PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN / PEIRIANNYDD

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14 AC 16. MAE ROBYN YN DAL I GANU A DAW MAM A’R PEIRIANNYDD I MEWN I’R YSTAFELL.

TORRIR AT Y TRYDANYDD SY’N EDRYCH YN SYN AR ROBYN AC YNA TORRIR AT ROBYN SYDD WEDI YMGOLLI YN EI GANU. TORRIR AT MAM A’R PEIRIANNYDD.

MAM: Wnewch chi drwsio’r teledu tra ’mod i’n dod â bwyd Robyn iddo?

MAE MAM YN GADAEL YR OLYGFA A’R PEIRIANNYDD YN DAL I SYLLU AR ROBYN. DAW’R CANU I STOP. TORRIR AT ROBYN, SY’N EDRYCH YN ÔL AR Y PEIRIANNYDD AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYN NHW SIARAD.

ROBYN: Be sy’n bod?

PEIRIANYDD: D-dim byd.

ROBYN: Wel dewch i mewn ’te.

PEIRIANYDD: Oes lle i ni’n dau?

ROBYN: Beth ’ych chi’n feddwl?

PEIRIANYDD: Dim byd. Dim byd.

TORRIR AT ROBYN. PWYNTIA AT Y TELEDU A GWNEUD YSTUM SY’N AWGRYMU EI FOD YN CREDU BOD Y PEIRIANNYDD YN DWPSYN. PLYGA’R PEIRIANNYDD WRTH Y TELEDU’N GWASGU’R BOTYMAU.

Dyw’r bechingalw ’ma ddim yn gweithio.

MAE’N TROI I WYNEBU ROBYN.

Ydych chi wedi bod yn ei wylio fe ormod yn ddiweddar?

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Dw i ddim yn meddwl.

DAW MAM I’R YSTAFELL A RHOI PLATAID O SGLODION TATWS, PECYN CYFAN O FYSEDD PYSGOD A PHYS I ROBYN. PLYGA WRTH OCHR Y PEIRIANNYDD.

MAM: Wel?

PEIRIANYDD: Be sy’n bod arno fe?

MAM: Gwedwch chi wrtha i. Chi yw’r peiriannydd.

PEIRIANYDD: Y boi ’na.

MAM: Beth ’ych chi’n feddwl?

PEIRIANYDD: Wel, be sy wedi digwydd iddo fe?

MAM: Does dim byd wedi digwydd iddo fe.

PEIRIANYDD: Ond pam mae e’n gorwedd fel’na fel hen forfil anferth ar draeth?

MAM: Peidiwch â galw ’mab annwyl i’n forfil, cerwch o ’ma.

TORRIR AT SIOT AGORIADOL YR OLYGFA. CWYD Y PEIRIANNYDD I ADAEL, AC MAE MAM YN GAFAEL YN Y BRWSH LLAWR A’I FWRW ALLAN.

ROBYN: Mam. Dyw bywyd ddim gwerth ei fyw fel hyn.

MAM: Paid â phoeni dy ben fy rhosyn i, mi ddo i â phwdin i ti.

ROBYN: Dwyt ti ddim wedi gwerthu fy hoff lyfr i, do fe Mam?

MAM: Naddo, blodyn. Wyt ti am i fi ddod ag e ti?

ROBYN: Os gweli di’n dda.

GOLYGFA 18
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
2.30PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN / DYNION

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14. CHWARAEIR Y TREFNIANT BYWIOG.

DARLLENA ROBYN LYFR GUINNES WORLD RECORDS, AC MAE DYNION YN MYND Â’R DODREFN I FFWRDD BOB HYN A HYN A DYNION ERAILL, A MAM, YN DOD Â GWAHANOL FWYDYDD I ROBYN YN DANGOS FOD AMSER YN MYND HEIBIO. MAE ROBYN YN MYND YN FWY AC YN FWY, GAN LENWI’R SETÎ.

MAE WYTHNOS YN MYND HEIBIO AC MAE CADAIR ALLAN O FOCSYS PIZZA BELLACH WRTH OCHR Y SETÎ AC MAE MAM YN EISTEDD ARNO. TORRIR I’R DUDALEN MAE’N EI DARLLEN, SEF TUDALEN AR DDYNION TRYMAF Y BYD:

JOHN BROWER MINNOCH 635KG 1978

WALTER HUDSON 544KG 1942

MICHAEL WALKER 538KG 1971

ROBERT EARL WILLIAMS 485KG 1930

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL AC MAE TINC O FFIEIDD-DRA YN LLAIS ROBYN.

ROBYN: Edrycha ar hwn Mam.

CWYD MAM AC MAE ROBYN YN TROI’R LLYFR I DDANGOS Y DUDALEN IDDI.

MAM: Ych a fi, Robyn!

CHWERTHINA.

ROBYN: Diolch byth nad ydw i fel y dynion yna, on’d ife?

MAM: Ie, nghariad i.

MAE’N DYCHWELYD I’W SEDD. MAE STUMOG ROBYN YN RHUO’N AFLAFAR O UCHEL, A’I FOL YN CRYNU GYDA HYNNY.

ROBYN: Oes peth o’r toesenni jam ’na ar ôl, Mami?

TORRIR AT MAM.

MAM: Fy mab annwyl, coron fy nghalon, does dim byd ar ôl. Hen wraig weddw dlawd ydw i, ac rwyt ti wedi colli dy swydd. Er ’mod i’n dy garu di’n fwy na dim byd arall yn ’y mywyd i, alla i ddim fforddio dy gadw di fel hyn ar fy mhensiwn i. Dw i wedi gwerthu popeth ac wedi gwario fy nghynilion i gyd er mwyn dy fwydo di.

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Paid â llefain, Mam, dere ’ma ataf fi, imi gael rhoi sws i ti.

TORRIR I SIOT O’R YSTAFELL. CWYD MAM YN CODI A GORWEDD DROS FOL ROBYN GYDA’I BREICHIAU’N AGORED, OND MAE’N SUDDO I’W FLONEG WRTH IDDO’I CHOFLEIDIO A’I MYGU I FARWOLAETH.

TORRIR I SIOT O ROBYN WRTH IDDO SYLWEDDOLI’R HYN SYDD WEDI DIGWYDD. MAE’N EI THYNNU ALLAN O’I FLONEG A’I DAL GYDAG UN LLAW, GYDA GOLWG DRIST AR EI WYNEB. MAE I FOL YN RHUO AC MAE GOLWG GYFRWYS AR EI WYNEB WRTH EDRYCH AR GORFF EI FAM. ESTYNNA I LAWR OCHR Y SETÎ A THYNNU POTEL O SOS COCH ALLAN A’I DAL WRTH EI HYMYL, GAN EDRYCH O UN I’R LLALL YN AWGRYMOG. MAE’N GOSOD EI FAM I ORWEDD AR DRAWS EI FOLA, AGORA’R BOTEL SOS COCH AC ARLLWYS EI CHYNNWYS DROSTI.

No comments: