Monday 10 December 2007

Cystadlaethau Llwyfan

Cystadlaethau Llwyfan
Dyma restr o gystadlaethau llwyfan yr Eisteddfod. Bydd yr Eisteddfod yn dechrau am 11:00 o’r gloch. Cynhelir Eisteddfod Ryng-Golegol 2007 yn Undeb Myfyrwyr Prifysgol Cymru, Bangor ar ddydd Sadwrn y 3ydd o Fawrth 2006.
01 Unawd Piano – Hunanddewisiad.
02 Unawd Offerynnol – Hunanddewisiad.
03 Y Rhuban Glas Offerynnol – I’r gorau yn y ddwy gystadleuaeth uchod.
04 Unawd Alaw Werin – Hunanddewisiad.
05 Grŵp Alaw Werin – Hunanddewisiad.
06 Llefaru Unigol – Hunanddewisiad.
07 Grŵp Llefaru – Hunanddewisiad.
08 Unawd Cerdd Dant – Hunanddewisiad.
09 Deuawd/Triawd/Pedwarawd Cerdd Dant – Hunanddewisiad.
10 Unawd Bechgyn – Hunanddewisiad.
11 Unawd Merched – Hunanddewisiad.
12 Unawd Sioe Gerdd/Ffilm – Hunanddewisiad.
13 Y Rhuban Glas Lleisiol – I’r gorau o’r tair cystadleuaeth uchod.
14 Deuawd – Hunanddewisiad.
15 Ensemble Lleisiol/Offerynnol – Hunanddewisiad.
16 Ensemble Sioe Gerdd – Detholiad o hyd at ddeng munud o unrhyw sioe gerdd gan ddau/ddwy neu fwy o bobl. Gellir dewis sioe gerdd Gymraeg wreiddiol neu gyfieithiad o sioe gerdd.
17 Stepio i ddau/ddwy neu fwy – Hunanddewisiad.
18 Grŵp Dawnsio Gwerin – Hunanddewisiad.
19 Grŵp Dawnsio Disgo/Dawnsio Creadigol – Hunanddewisiad.
Mae’r ddwy gystadleuaeth nesaf yn rhai nad oes angen paratoi ar eu cyfer. Bydd cyfarwyddiadau llawn yn cael eu darparu ar y diwrnod.
20 Darllen darn heb ei atalnodi
21 Cystadleuaeth stori a sain (I ddau – un i ddarllen, un i wneud y synau!)
22 Deuawd doniol
23 Sgets – Hyd at bum munud o hyd.
24 Meimio i gerddoriaeth – Unrhyw gân Gymraeg.
25 Cystadleuaeth ymryson “Bing-Bong” – Un cynrychiolydd o bob coleg – mae pawb yn cymryd eu tro i gyfansoddi penillion ar y pryd. Yr enillydd yw’r un sy’n gallu dal i fynd pan mae pawb arall wedi methu meddwl am bennill arall.
26 Jingl – Cyfansoddwch eiriau, ar gyfer eu canu, i hyrwyddo eich coleg!
27 Côr Merched – “Mardigras ym Mangor Ucha”. ‘Bytholwyrdd 2’*
28 Côr Bechgyn – “Y Cwm”. ‘Bytholwyrdd 2’*
29 Côr Cymysg – “Ar Noson Fel Hon” ‘Sioeau Maldwyn.’*
* Does dim rhaid dilyn y copïau yma – byddwch yn greadigol!

Saturday 10 November 2007

Cystadlaethau Gwaith Cartref

Cystadlaethau Gwaith Cartref
Dylid anfon y gwaith cartref i’r cyfeiriad isod:Pwyllgor yr Eisteddfod d/o Llywydd UMCB Undeb Myfyrwyr Cymraeg Bangor Ffordd Deiniol Bangor LL57 2TH

Dyddiad Cau: Dydd Gwener, 09/02/2006

Barddoniaeth
1.1 Y Gadair – Cerdd gaeth neu rydd heb fod dros 50 llinell ar y testun “Ffenestr”
1.2 Englyn – “Eryri”
1.3 Englyn digri – “Bangor Ucha’”
1.4 Limrig – “I’r Glôb yr es innau un noson...”
1.5 Parodi – Cân Maharishi “Fama di’r lle”

Rhyddiaith
2.1 Y Goron – Darn o ryddiaith ar y testun “Dychwelyd”
2.2 Stori Fer – “Teulu”
2.3 Llên Meicro – Un darn, teitl agored
2.4 Ymson – “Cyfarfod â Glyn Blaenau”
2.5 Brawddeg – N E U A D D J M J

Dysgwyr
3.1 Medal y dysgwyr – darn o ryddiaith ar y testun “Bywyd Myfyriwr”
3.2 Cerdd – gaeth neu rydd ar y testun “Heddiw”

Celf
4.1 Y Fedal GelfDarlun mewn unrhyw gyfrwng, stribed cartŵn neu brint/cyfres o brintiau ffotograffiaeth ar y testun “Fy ngwlad”

Drama
5.1 Y Fedal Ddrama – Drama lwyfan neu deledu na chymer fwy na 40 munud i’w pherfformio.
5.2 Sgets ysgafn (na chymer fwy na deng munud i’w pherfformio)
5.3 Sgriptio – Addasu darn o nofel/stori fer ar gyfer y sgrin. Rhaid cynnwys y darn o lenyddiaeth gyda’r sgript, a ni ddylai’r gwaith gymryd mwy nag ugain munud i’w berfformio.

Cyfieithu
6.1 O’r Saesneg i’r Gymraeg *
6.2 O’r Ffrangeg i’r Gymraeg *
6.3 O’r Almaeneg i’r Gymraeg *
6.4 O’r Sbaeneg i’r Gymraeg *
6.5 O’r Eidaleg i’r Gymraeg *
* Mae darnau parod ar gyfer y gystadleuaeth hon: cysylltwch â’r trefnydd.
Cerddoriaeth

7.1 Tlws y Cerddor – Cyfansoddiad ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau a/neu offerynnau.

Tuesday 9 October 2007

Amodau Cystadlu

Amodau Cystadlu
1 Bydd yr Eisteddfod yn agored i bob myfyriwr Cymraeg, boed hynny mewn coleg yng Nghymru neu’r tu allan, ac i unrhyw fyfyriwr sy’n astudio yng Nghymru.
2 Rhaid i’r holl gyfansoddiadau gwaith cartref fod ym meddiant y trefnydd erbyn dydd Gwener, 09/02/2006. Ni dderbynnir unrhyw waith ar ôl y dyddiad cau.
3 Rhaid i’r holl waith cartref fod o dan ffugenw, gydag enw ac enw coleg yr ymgeisydd wedi ei selio mewn amlen, a’r ffugenw a rhif y gystadleuaeth y tu allan i’r amlen ac ar y gwaith.
4 Cyfyngir nifer yr ymgeiswyr yn y cystadlaethau llwyfan i un o bob coleg. (Sylwer i ni orfod cwtogi’r nifer yma eleni.)
5 Dylai brasamcan o nifer y colegau sy’n bwriadu cystadlu ym mhob cystadleuaeth lwyfan fod yn nwylo’r trefnydd erbyn 19/02/2006.
6 Ni wobrwyir oni fydd teilyngdod.
7 Cyflwynir Tarian yr Eisteddfod i’r coleg sy’n ennill y mwyaf o farciau ar ddiwedd yr Eisteddfod.
8 Cynhelir rhagbrofion lle bo angen.
9 Oni bydd cystadleuwyr yn bresennol, boed mewn rhagbrawf neu ar y llwyfan ar yr amser penodedig, fe’u bwrir allan o’r gystadleuaeth. Bydd yr eisteddfod yn dilyn trefn debyg i’r drefn a roddir yn y rhestr cystadlaethau llwyfan (uchod).
10 Cedwir pob hawl i ddethol unrhyw gyfansoddiad Gwaith Cartref i’w gyhoeddi gan bwyllgor yr Eisteddfod.
11 Rhaid i bob cyfansoddiad fod yn wreiddiol.
12 Rhaid rhoi gwybod am unrhyw eiddo e.e. gitars, amps, telynau ayyb bythefnos ymlaen llaw er mwyn trefnu ystafelloedd ar eu cyfer. Ni all y trefnwyr dderbyn unrhyw gyfrifoldeb dros ddiogelwch eiddo yn yr Eisteddfod.
14 Y Gymraeg fydd unig iaith llwyfan yr Eisteddfod Ryng-Golegol. Ni cheir unrhyw eithriad i’r rheol hon.
15 Bydd penderfyniad y pwyllgor yn derfynol ym mhob achos.
16 Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach, cysylltwch â Lowri ‘Cochen’ Evans ar weu009@bangor.ac.uk neu 07779 147 947.

Friday 9 March 2007

canlyniadau gwaith cartref

Barddoniaeth
1.1. Cystadleuaeth y gadair – “Ffenestr”
Beirniad – Twm Morys
1af – Peeping Tom – Llŷr Lewis, Prifysgol Caerdydd
2il – Awen Brin – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – Gwylan – Rhian Jones, Prifysgol Abertawe

1.2: Englyn – “Eryri”
Beirniad – Twm Morys
1af – Dringwr – Llŷr Lewis, Prifysgol Caerdydd
2il – Naw – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – Ceiri – Ifan Plemming, Prifysgol Caerdydd

1.3: Englyn digri - "Bangor Ucha’"
Beirniad – Twm Morys
1af – Alcopŵp – Llŷr Lewis, Prifysgol Caerdydd
2il – Awyren hwyr ar frys – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – Mach – Lowri Davies, Prifysgol Bangor

1.4: Limrig - "I'r Glôb yr es innau un noson...”
Beirniad – Llion Jones

1af – Y Jwg Jwnc 2 – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
2il – Claw – Carwyn Dafydd, Prifysgol Caerdydd
3ydd – Y Jwg Jwnc 1 – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
Marciau Teilyngdod - Batman 1 – Ifan Gwilym, Prifysgol Caerdydd
- Batman 2 – Ifan Gwilym, Prifysgol Caerdydd
- Byw’n Beryg – Caryl Wyn Jones, Prifysgol Caerdydd
- Y mwnci – Gareth James, Prifysgol Caerdydd
- Ceiri – Ifan Pleming, Prifysgol Caerdydd

1.5: Parodi: Cân Maharishi “Fama di’r lle”
Beirniad – Angharad Price
1af – ‘Llygoden Fach’ - Lowri Evans, Prifysgol Bangor
2il – ‘Merched y De’ - Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – ‘Fflwff’ - Ffion Humphries, Prifysgol Bangor


Rhyddiaith2.1: Y goron – Darn o ryddiaith ar y testun "Dychwelyd"
Beirniad – Angharad Price
1af – ‘Llanw’ – Rhodri Llŷr Evans, Prifysgol Bangor
2il – ‘Glas y Dorlan’ – Ellis Meredydd Gomer, Prifysgol Caerdydd
=3ydd – ‘Ceiri’ – Ifan Pleming, Prifysgol Caerdydd
=3ydd – ‘Sandra Picton’ – Ceri Elen Morris, Prifysgol Caerdydd

2.2: Stori fer - "Teulu"
Beirniad – Sara Elin Roberts
1af – ‘Ffalabalambadwdlambade’ – Huw Foulkes, Prifysgol Caerdydd.
2il – ‘Dafydd Dafis Ffos y Ffin’ - Huw Foulkes, Prifysgol Caerdydd.
3ydd – ‘Lydia Thomas’ – Ceri Elen Morris – Prifysgol Caerdydd.
Marciau Safon - Hartson – Dafydd Tudur, Prifysgol Aberystwyth
- Ieir – Lowri Evans, Prifysgol Bangor
- Mwydyn – Betsan Llywelyn, Prifysgol Caerdydd
- Dant y Llew – Elliw Baines, Prifysgol Bangor

2.3: Llên Meicro – Agored
Beirniad – Angharad Price
1af – Oren - Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
2il – Gwraig y Gweinidog – Ceri Elen Morris, Prifysgol Caerdydd
3ydd – Ho Ho Ho – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor

2.4: Ymson - "cyfarfod â Glyn Blaenau"
Beirniad – Robat Trefor
1af – Blodyn Tatws – Bethan Williams, Prifysgol Bangor
= 2il – Fflwff – Ffion Humphries, Prifysgol Bangor
= 2il – Temtasiwn – Elliw Baines, Prifysgol Bangor

2.5: Brawddeg – N E U A D D J M J
Beirniad - Sara Elin Roberts
1af – y jwg jwnc – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
2il – y Coed Noeth - Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
= 3ydd – Ceiri – Ifan Pleming, Prifysgol Caerdydd
= 3ydd – Twll Tin y Cwîn – Huw Foulkes, Prifysgol Caerdydd


Dysgwyr3.1: Medal y dysgwyr – darn o ryddiaith ar y testun "Bywyd Myfyriwr"
Beirniad – Sara Elin Roberts
1af – Bonjour - Scott Rowley, Prifysgol Bangor
2il – Lleuad Oren – Joanna Ranson, Prifysgol Abertawe
= 3ydd – Swebb – Sarah Webb, Prifysgol Abertawe
= 3ydd – Seren Haf – Emma Roberts, Prifysgol Abertawe
Marc safon – Myfanwy – Helen McCarthy, Prifysgol Abertawe

3.2: Cerdd - gaeth neu rydd ar y testun "Heddiw"
Beirniad – Llion Jones
1af – Atal y wobr
2il – Monmouth – Stiwart Edwards, Prifysgol Bangor
3ydd – Gwent – Stiwart Edwards, Prifysgol Bangor


Celf4.1 Y Fedal GelfDarlun mewn unrhyw gyfrwng, stribed cartwn neu brint/cyfres o brintiau ffotograffiaeth ar y testun “Fy ngwlad”
Beirniad – Ger ‘Glôb’ ......
1af – Rupert – Elain Llwyd, Prifysgol Caerdydd
2il – Arthur Picton – Robat Ifan Williams, Prifysgol Abertawe
= 3ydd – Cymraes – Elliw Baines, Prifysgol Bangor
= 3ydd – Stella – Elin Humphreys, Prifysgol Bangor


Drama5.1: Y Fedal DdramaDrama lwyfan neu deledu na chymer fwy na 40 munud i'w pherfformio.
Beirniad – Gwen Ellis
1af – Y Caridym - Ceri Elen Morris, Prifysgol Caerdydd
2il – Tonnau – Rhodri Llŷr Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – Sali Mali – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor

5.2: Sgets ysgafn (na chymer fwy na deng munud i’w pherfformio)Beirniad – Mandi Jones
Atal y Wobr

5.3: Sgriptio:Addasu darn o nofel/stori fer ar gyfer y sgrin. Rhaid cynnwys y darn olenyddiaeth gyda’r sgript, a ni ddylai’r gwaith gymryd mwy nag ugain munud i’w berfformio.
Beirniad – Gwen Ellis
1af – Mr. Caws - Lois Dafydd, Prifysgol Cerdydd
2il – Sali Mali – Gwennan Evans, Prifysgol Bangor
3ydd – Argae – Gwawr Jones, Prifysgol Bangor


Cyfieithu6.1: O’r Saesneg i’r Gymraeg
Beirniad – Robat Trefor
1af – Ceiri – Ifan Pleming, Prifysgol Caerdydd
2il – Mach – Ffion Mared Jones, Prifysgol Caerdydd
3ydd – Bara Menyn – Bethan Williams, Prifysgol Bangor

6.2: O’r Ffrangeg i’r Gymraeg
Beirniad – Menna Jones
1af – Blodyn – Iona Hopkins, Prifysgol Bangor
2il – Yoan – Yoan Buthod-Garçon
= 3ydd – Jen – Jennifer Jones, Prifysgol Bangor
= 3ydd – Sam Tan – Eleri Hughes, Prifysgol Abertawe

6.3: O’r Almaeneg i’r Gymraeg
Beirniad – Dr Carol Tully
1af – Y boi neshi gysgu efo neithiwr – Robat, Prifysgol Abertawe

6.4: O’r Sbaeneg i’r Gymraeg
Beirniad - Dr Helena Miguélez-Carballeira
1af – Gwylan – Rhian Jones, Prifysgol Abertawe

6.5: O’r Eidaleg i’r Gymraeg
Beirniad – Menna Wyn
1af – Mapoleone – Lois Dafydd, Prifysgol Caerdydd
2il – Signora – Sioned Lewis, Prifysgol Bangor


Cerddoriaeth7.1: Tlws y CerddorCyfansoddiad ar gyfer unrhyw gyfuniad o leisiau a/neu offerynnau.
Beirniad – Pwyll ap Siôn.
1af – Mwnci – Gareth Churchill, Prifysgol Caerdydd
2il – Melinda – Gwawr Ifan, Prifysgol Bangor
3ydd – Ffwl mewn Paradwys – Gwenno Jones, Prifysgol Bangor

Sunday 4 March 2007

sgriptio

Dyma waith y buddugol yn y gystadleuaeth Sgriptio, sef Lois Dafydd o Brifysgol Caerdydd...

PE BAI’R WYDDFA I GYD YN GAWS?

ROBYN:
Mae Robyn yn 42 oed, ac yn byw gyda’i fam yn 34 Stryd y Pesgi. Mae’n unig blentyn, a bu farw ei dad pan oedd yn 12oed, o drawiad ar ei galon. Roedd yn blentyn hynod o denau, gan bod ei dad yn gwrthod gadael iddo fwyta unrhyw fwydydd melys neu frasterog. Unwaith i’w dad farw, dechreuodd ei fam ei fwydo a’i fwydo.
Mae’n is-gynorthwyydd cynorthwyol yn swyddfa cyngor y dref, lle cafodd ei swydd gyntaf ar ôl iddo adael yr ysgol yn 16 oed – nid oedd ei fam yn barod iddo ddychwelyd i’r chweched dosbarth na mynd i’r coleg. Nid yw’n glyfar iawn. Mae’n gweithio ar gyfrifiadur mewn swyddfa, ond does ganddo ddim ffrindiau yno. Ar ei ddesg mae ganddo lun o’i fam, ac mae ganddo un drôr sy’n llawn danteithion. Mae’n gyrru car tair olwyn glas, a rhannau ohono’n dechrau rhydu.
Mae ganddo farf a mwstas llaes a seimllyd du, er bod copa’i ben yn foel, mae ganddo wallt ar hanner isaf ei ben, a chynffon o wallt ‘a hongiai dros ei war fel cwtyn llygoden’. Mae’n dew a seimllyd yr olwg, yn gwisgo sbectol drwchus iawn pan yn darllen, ac mae ganddo ewinedd hirion brwnt.
Doedd ganddo ddim ffrindiau pan oedd yn blentyn, gan nad oedd ei dad yn fodlon iddo gymdeithasu, ac ers i’w dad farw mai ei fam yn amddiffynnol iawn ohono ac yn ymuno’i gadw iddi hi ei hun. Ond, ei unig ffrind yw Wendy. Maen nhw’n eu hadnabod ei gilydd ers wyth mlynedd, ers i Wendy gael swydd ysgrifenyddes yn swyddfa cyngor y dref. Er ei bod hi’n credu eu bod nhw’n gariadon, dydyn nhw ddim, ac mae Robyn yn berson hunanol sydd ddim yn cymryd llawer o ddiddordeb yn ei bywyd.

BETI JONES:
Mae Beti Jones, Mam Robyn, yn 68 oed, ac roedd hi’n 40 oed pan fu farw ei gŵr. Roedd hi’n ei garu, ond dechreuodd y cariad hwnnw bylu pan oedd yn greulon wrth Robyn, a phe geisiai amddiffyn eu mab neu ddadlau gyda’i gŵr, gallai ef droi’n gas. Unwaith iddo farw, roedd Beti am wneud yn iawn am yr holl droeon yr oedd Twm yn gas i Robyn, felly fe’i maldodai i’r eithaf.
Roedd Twm yn ddyn busnes llwyddiannus, felly gadawodd lawer o arian iddi yn ei ewyllys, a bu’n byw ar yr arian hwnnw’n bennaf, er mwyn treulio cymaint o amser â phosibl gyda Robyn. Ond byddai hefyd yn gweithio rhan amser yn siop y gornel yn ystod oriau ysgol neu oriau gwaith Robyn.
Ar ddechrau’r ddrama mae hi’n weddol llond ei chroen, ond wrth i’r ddrama fynd rhagddi mae hi’n teneuo ac yn heneiddio. Mae hi’n gwisgo sbectol ac mae ganddi wallt pyrm brown, ond yng nghwrs y ddrama mae’r gwallt hwnnw’n gwynnu ac yn mynd yn anniben. Nid yw hi’n hoff o Wendy, gan ei bod yn fygythiad i’w perthynas hi a Robyn, ac mae arni ofn iddi ei gymryd oddi wrthi.

WENDY MORGAN:
Mae Wendy’n 37 oed, yn denau gyda gwallt melyn tenau. Mae hi’n byw ar ei phen ei hun mewn fflat yn y dref, ond mae ganddi dair cath yn gwmni iddi. Roedd ei theulu’n rhy uchelgeisiol o lawer ar ei rhan, ond nid yw hi’n berson clyfar iawn felly ni wireddwyd breuddwydion ei rhieni iddi gael swydd uchel a fyddai’n ennill llawer o arian iddi. Nid yw hi’n cadw mewn llawer o gysylltiad â hwy.
Mae hi’n ysgrifenyddes yn swyddfa cyngor y dref ers wyth mlynedd lle y cyfarfu â Robyn am y tro cyntaf. Nid yw hi’n berson sy’n ei chael hi’n hawdd cymdeithasu, ond roedd hi’n hoff o Robyn am mai ef a gafodd y cyfrifoldeb o’i thywys o amgylch y swyddfa cyngor ar ei phenodiad. Tyfodd cyfeillgarwch rhyngddyn nhw, ac roedd hi’n hoffi meddwl eu bod nhw’n gariadon, er nad oedd unrhyw beth wedi digwydd rhyngddyn nhw. Syrthiodd mewn cariad â Robyn, a dymunai ofalu amdano. Ceisiodd ei dynnu oddi wrth ei fam lawer gwaith, ond yn ofer.
TWM JONES:
Roedd Twm Jones, tad Robyn, yn 46 oed pan fu farw o drawiad ar ei galon. Achoswyd yn gan y ffaith ei fod yn yfed, bwyta ac ysmygu gormod. Roedd yn ddyn caled ac ariangar a oedd yn greulon wrth ei wraig a’i fab – mynnai mai ychydig o fwyd y byddai Robyn yn ei fwyta ac na ddylai gymdeithasu â phobl eraill er mwyn iddo aros adref i astudio fel y gallai ef hefyd ennill arian mawr yn y dyfodol. Roedd Twm yn berchen ar fusnes gwerthu ceir, ac yn gyfoethog iawn, ond pan fu farw gwerthodd Beti’r busnes.












































GOLYGFA 1
TU ALLAN: MYNWENT
2.30PM DIWRNOD 1
ROBYN / MAM

MAE’R CAMERA WEDI’I LEOLI YN Y BEDD AC YN EDRYCH I FYNY AR ROBYN SY’N SYLLU’N WAG AR Y CAMERA. MAE’N GWISGO SIWT DACLUS.

TORRIR I SIOT O’R ARCH YN Y BEDD:

TWM JONES
1932 – 1978

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL. DAW MAM AT ROBYN GAN ROI EI BRAICH AM EI YSGWYDD YN GARIADUS. NID YW MAM MEWN GWISG DDU.

MAM: Dere, Robyn goch.

MAE’N EI DYWYS YMAITH, HEB EDRYCH AR YR ARCH.

GOLYGFA 2
TU MEWN: TŶ ROBYN A’I FAM
3.30PM DIWRNOD 1
ROBYN / MAM / 7 GWESTAI / GWEINYDDES

MAE’R YSTAFELL FYW’N GANOLIG EI MAINT AC YN YSTRYDEBOL O’R SAITHDEGAU, OND YN WEDDOL FOEL. MAE LLUNIAU TEULUOL AR Y WALIAU AC MAE YNDDI SETÎ, CADAIR A BWRDD COFFI SY’N WYNEBU SET DELEDU, A BWRDD BWYD WEDDOL HIR YN ERBYN Y WAL SYDD AR BWYS Y DRWS. MAE’R BWRDD YN LLAWN BWYD.

MAE’R CAMERA’N PANIO AR DRAWS YR YSTAFELL FYW LLE MAE GRWPIAU BYCHAIN O BOBL YN SIARAD YMYSG EI GILYDD AC YN BWYTA. NID YDYN NHW’N YMDDANGOS FEL PE BAEN NHW’N GALARU, GYDA RHAI’N CHWERTHIN. MAE’R CAMERA’N CYRRAEDD Y BWRDD A’N PANIO DROSTO. CYN CYRRAEDD PEN Y BWRDD DAW’R CAMERA I STOP A SYMUDA I FYNY GAN DDANGOS ROBYN YN SEFYLL YR OCHR ARALL YN SYLLU AR GACEN SIOCLED FAWR SYDD WEDI’I THORRI’N SAWL DARN, OND ETO’N GYFLAWN. MAE’N CODI EI FRAICH I DDECHRAU ESTYN AM DDARN OND YN STOPIO’N SYDYN GAN DROI EI BEN ER MWYN EDRYCH I GYFEIRIAD Y WAL. MAE’N TYNNU EI FRAICH YN ÔL YN SYDYN, FEL PE BAI ARNO OFN CAEL EI DDAL.

TORRIR I LUN TWM SY’N HONGIAN AR Y WAL. MAE’N LUN O DDYN MAWR TEW SY’N EDRYCH YN GAS, FEL PE BAI’N DWRDIO ROBYN AM YSTYRIED CYMRYD DARN O’R GACEN. MAE MAM YN TROI’R LLUN I WYNEBU’R WAL.

TORRIR AT ROBYN SY’N DAL I EDRYCH AR Y WAL A THORRIR YN ÔL AT MAM, SY’N EDRYCH ARNO GYDA GWÊN FAWR AR EI HWYNEB. NID YW HI’N SWNIO’N DRIST.

MAM: Dyw Dadi ddim ’ma rhagor, siwgwr candi.

TORRIR AT ROBYN SY’N TROI I SYLLU AR Y GACEN. MAE’N EDRYCH ARNI AM EILIAD NEU DDWY CYN CYMRYD DARN A’I FWYTA’N OFALUS. MAE GWÊN FAWR YN LLEDU AR DRAWS EI WYNEB WRTH IDDO FWYTA. MAE’R SIOT YN AROS YR UN PETH, OND MAE DAU DREIAN O’R GACEN YN DIFLANNU. MAE’N DAL I FWYTA GYDA GWÊN FAWR, A SIOCLED, AR EI WYNEB.

TORRIR AT MAM, SY’N EDRYCH AR ROBYN GYDA GWÊN FODDHAUS AR EI HWYNEB.

MAE’R WEINYDDES YN CERDDED O FLAEN MAM O GYFEIRIAD Y BWRDD GAN GARIO PLÂT A CHACEN GAWS ARNO.



GOLYGFA 3
TU MEWN: BWYTY 69
8.00PM DIWRNOD 2
ROBYN / WENDY / EXTRAS / GWEINYDD / GWEINYDDES / DYN GOLYGUS

MAE TREFNIANT BYWIOG O ‘BLE GEST TI’R DDAWN?’ YN CHWARAE.

MAE’R WEINYDDES A OEDD YN GOLYGFA 2 YN LLENWI’R SGRIN, AC WRTH IDDI GERDDED HEIBIO MAE’R YSTAFELL YN TROI I MEWN I’R BWYTY. MAE’N LLE CRAND GYDA NIFER O BOBL YN EISTEDD O AMGYLCH Y BYRDDAU’N BWYTA A GWEINYDDWYR YN CERDDED O’I AMGYLCH.

BOB HYN A HYN MAE’R CAMERA’N SWMIO’N GYFLYM I MEWN I BRYD BWYD, GYDA’R CREDITS AR FFURF Y BWYDYDD HYNNY:

MAE PLÂT GYDAG YCHYDIG O BYS A SAWS YN WEDDILL ARNO’N SILLAFU ENW RHYWUN, MADARCH AR BIZZA, SAWS AR HUFEN-IÂ, MINTS, AC MAE ‘PE BAI’R WYDDFA I GYD YN GAWS?’ WEDI’I SILLAFU AR HAMBWRDD O GRACYRS A CHAWS.

MAE’R CAMERA’N PANIO AR DRAWS Y BWYTY NES CYRRAEDD Y DRWS. SAIF WENDY YNO AR FLAENAU’I THRAED YN EDRYCH AM ROBYN AC WRTH EI WELD GWENA’N GARIADUS.

MAE EI GWALLT WED’I DRIN YN ARBENNIG AR GYFER YR ACHLYSUR, AC MAE HI’N GWISGO FFROG NEWYDD BERT LAS GOLAU A BLODAU BACH MELYN ARNI.

TORRIR AT DDYN GOLYGUS YN EISTEDD WRTH FWRDD YN DARLLEN Y FWYDLEN – MAE’R CAMERA’N WYNEBU EI OCHR. MAE’N RHOI’R FWYDLEN I LAWR, GAN DDATGELU ROBYN YN EISTEDD AR Y BWRDD Y TU ÔL IDDO’N DARLLEN Y FWYDLEN. WRTH I’R FWYDLEN OSTWNG MAE’R GERDDORIAETH YN MYND ALLAN O DIWN, A’N STOPIO.

GWISGA ROBYN DDILLAD LLAC, GLAS TYWYLL A BROWN, A SBECTOL TRWCHUS. DYW E HEB EILLIO AC MAE EI GYNFFON O WALLT TENAU, SEIMLLYD, YN HONGIAN DROS EI WAR, HEB EI OLCHI ERS WYTHNOSAU.

MAE’R CAMERA’N SWMIO’N AGOSACH AT Y BWRDD A GWELWN WENDY’N DOD I EISTEDD GYFERBYN AG EF.

TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH YN DDISGWYLGAR AR ROBYN, A THORRIR I’R FWYDLEN SY’N EI GUDDIO. NID YW WEDI SYLWEDDOLI FOD WENDY YNO, FELLY WRTH DORRI ATI MAE’R WÊN WEDI DIFLANNU AC MAE HI’N PESWCH YN AWGRYMOG. TORRIR AT ROBYN, SY’N TYNNU’R FWYDLEN I LAWR YN GYFLYM. MAE’N GWISGO BATHODYN YN DWEUD ‘IS-GYNORTHWYYDD CYNORTHWYOL’ SY’N SGLEINIO, TRWY GYDOL Y DDRAMA.

ROBYN: Wendy! Wel, ble wyt ti wedi bod? Dwi wedi bod yn aros ac yn aros amdanat ti, a dwi ar lwgu. Ro’n i bron â bwyta fy mrechdan wrthgefn.

TORRIR AT WENDY.

WENDY: Ble wyt ti wedi bod, Robyn? Ddwedaist ti dy fod ti am fy nghasglu i am chwarter wedi saith. Dwi wedi bod yn aros ac yn aros amdanat ti…

TORRIR AT ROBYN WRTH IDDI DDWEUD Y CYMAL OLAF. MAE’N POLISHO’I FATHODYN HEB GYRMYD UNRHYW SYLW OHONI AC AR ÔL IDDI ORFFEN SIARAD MAE’N CODI’I BEN A GWENU’N FODDHAUS. ESTYNA’I FRAICH ALLAN A THORRI I WENDY WRTH IDDO GYDIO YN EI BOCH YN GARIADUS. MAE HI’N COCHI WRTH IDDI AFAEL YN EI LAW, AC YNA’N GWENU.

ROBYN: Wel gadewch inni edrych ar y fwydlen i weld be gawn ni i’w f’yta i ddathlu.

TORRIR I’R BWRDD GYDA’R DDAU’N EISTEDD GYFERBYN Â’I GILYDD. DECHREUA ROBYN DDARLLEN Y FWYDLEN GYDA’I DRWYN, A SYLLA WENDY ARNO’N GARIADUS AM RAI EILIADAU CYN ESTYN EI LLAW I DDALYN EI LAW EF. MAE ROBYN YN GOSTWNG Y FWYDLEN I EDRYCH AR WENDY WRTH IDDI SIARAD. TORRIR AT WENDY SY’N SIARAD YN GARIADUS.

WENDY: O, Robyn, dwi mor falch. O’r diwedd rwyt ti’n dechrau dod ymlaen yn y byd. Pan gwrddon ni a dechrau … dechrau dod yn ffrindiau, wyth mlynedd yn ôl bellach, mae’n anodd credu on’d yw hi? Pwy fyddai’n meddwl y byddet ti’n is-gynorthwyydd cynorthwyol heddiw yn swyddfa cyngor y dre? A ninnau’n dal i fod yn… ffrindiau?

TORRIR AT ROBYN SY’N TYNNU EI LAW O AFAEL WENDY.

ROBYN: Wel, do’n i ddim yn edrych mor anobeithiol, o’n i Wendy?

DYCHWEL AT Y FWYDLEN. TORRIR I’R FWYDLEN A ROBYN YN DILYN YR YSGRIFEN GYDA’I FYS – MAE EI LAW’N DEW A PHINC GYDAG EWINEDD HIR BRWNT, CRAFANGLYD. TORRIR AT WENDY.

WENDY: O, na, nid dyna o’n i’n feddwl, do’n i ddim yn awgrymu dy fod ti’n edrych… Wel, ti’n gwbod.

TORRIR AT ROBYN, AC MAE’N GOSTWNG Y FWYDLEN ETO.

ROBYN: Nag ydw, Wendy. Dwyt ti ddim yn siarad yn glir iawn heno o gwbl. Prin dy fod ti’n gwneud synnwyr. A finnau’n gobeithio dathlu fy nyrchafiad. Paid â hela fi i deimlo’n bendrist fel y mae gen ti ryw ddawn i’w wneud weithiau.

MAE WENDY’N GAFAEL YN LLAW ROBYN ETO. TORRIR ATI.

WENDY: O, do’n i ddim eisiau brifo dy deimladau di. Wir, nag o’n, Robyn. Ac fe brynais i ffrog newydd yn y dre heddiw, yn arbennig at heno… Beth wyt ti’n ei feddwl ohoni, Robyn?

MAE HI’N SYMUD YN EI SEDD I DDANGOS MWY O’R FFROG I ROBYN. SAIF Y GWEINYDD Y TU ÔL IDDI’N CARIO PLATAID O ASENNAU BREISION. TORRIR AT ROBYN, SY’N SYLLU’N SYTH YN EI FLAEN A’I GEG YN LLED AGORED A SIARADA’N FREUDDWYDIOL.

ROBYN: Dyna’r peth hyfrytaf welais i yn fy mywyd…

TORRIR AT WENDY, SYDD WEDI COCHI.

WENDY: O, Robyn…

ROBYN: Dwi am gael un ohonyn nhw.

WENDY: Beth?!

TORRIR I’R BWRDD AC MAE ROBYN YN GALW GWEINYDD SYDD GERLLAW.

ROBYN: Esgusodwch fi.

CERDDA’R GWEINYDD AT Y BWRDD A SAIF RHWNG ROBYN A WENDY.

Allwn ni ga’l dau o’r rheini, os gwelwch yn dda?

PWYNTIA AT Y GWEINYDD SYDDY TU ÔL I WENDY. TORRIR AT WYNEDY SY’N TROI I EDRYCH AR Y GWEINYDD. TORRIR RHWNG Y TRI WRTH IDDYNT SIARAD.

WENDY: Ond dwi ddim eisiau asennau breision, Robyn.

ROBYN: Beth wyt ti eisiau, Wendy?

WENDY: Dwi ddim wedi cael cyfle i ddarllen y fwydlen eto.

GWEINYDD: Felly, dim ond un plataid o asennau breision, ’te.

ROBYN: Pam ’ny?

GWEINYDD: Wel, madam ’wedodd…

TORRIR I’R BWRDD A DECHREUA ROBYN CHWERTHIN. EDRYCHA WENDY A’R GWEINYDD ARNO’N SYN.

ROBYN: Ddim i Wendy ma’ fe… MAE’N CHWERTHIN YN AFREOLUS.

GWEINYDD: Fe ddo i nôl i gymryd eich archeb chi mewn munud.

CERDDA I FFWRDD CYN GYFLYMED AG Y GALL. TORRIR AT WENDY, SY’N DARLLEN Y FWYDELN, AC YNA I ROBYN, SY’N DARLLEN Y FWYDLEN GYDA’I DRWYN.

TORRIR I’R BWRDD, A DYCHWELA’R GWEINYDD.

GWEINYDD: Ydych chi’n barod i archebu?

ROBYN: Ww, ydyn. Beth wyt ti’n mynd i’w gael, Wendy?

TORRIR AT WENDY, SY’N DARLLEN O’R FWYDLEN.

WENDY: Cawl llysiau i ddechrau ac omled a salad fel prif saig, os gwelwch yn dda.

MAE HI’N CAU’R FWYDLEN A’I GOSOD I’R NAILL OCHR. TORRIR AT Y GWEINYDD, SY’N YSGRIFENNU’R ARCHEB YN EI LYFR. TORRIR I ROBYN AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYNT SIARAD.

ROBYN: Dyna i gyd?

WENDY: Ie. Oes gwahaniaeth ’da ti, Robyn?

ROBYN: Nag oes. Ond dathlu y’n ni, cofia.

RHWBIA’I FATHODYN, AC EDRYCHA’N AWGYMOG AR Y GWEINYDD. TORRIR AT Y GWEINYDD YN EDRYCH YN HURT ARNO.

GWEINYDD: Eich archeb, syr.

TORRIR I SIOT O ROBYN A’R GWEINYDD, A DARLLENA ROBYN YN GYFLYM O’R FWYDLEN. YSGRIFENNA’R GWEINYDD CYN GYFLYMED AG Y GALL A THROI TUDALEN EI LYFR NODIADAU DDWYWAITH WRTH WNEUD HYNNY.

Fe gymera i’r corgimychiaid ac afocado a bara garlleg a myshrwms i ddechrau a’r hog roast gyda llysiau a salad a sglodion tatws ar yr ochr. O, a peidiwch ag anghofio’r ddau blataid o asennau breisio, a dwy fowlen o broffiterôls gyda saws siocled i bwdin. Allwch chi dod â’r bwyd i gyd i’r bwrdd gyda’i gilydd?

NODIA’R GWEINYDD EI BEN A CHWYD ROBYN EI BEN I SIARAD GYDA WENDY. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYNT SIARAD.

A be gymerwn ni i’w yfed – wel siampen wrth gwrs!

WENDY: Dim i fi, diolch Robyn.

ROBYN: Ti’n gallu bod yn boen yn y pen-ôl weithiau, Wendy; ry’n ni’n dathlu, cofia.

WENDY: O, iawn ’te, fe gymera i siampên hefyd.

TORRIR I’R BWRDD, A CHERDDA’R GWEINYDD YMAITH, GAN RWBIO’R CHWYS O’I DALCEN.

ROBYN: Sdim eisiau i ti orfodi dy hun er mwyn ’y mhlesio i.

MAE WENDY WEDI PWDU, FELLY SIARADA MEWN LLAIS ISEL, RHWNG EI DANNEDD.

WENDY: Robyn. Dwi’n eithaf hapus i yfed siampen i ddathlu dy ddyrchafiad di, iawn?

ROBYN: Iawn. Sdim eisiau i ti droi’n gas chwaith. Gobeithio na fydd y bwyd ma’n hir. Dwi’n llwgu. SAIB. Fedra i ddim aros rhagor.

TORRIR AT ROBYN A THYNNA’I FRECHDAN WRTHGEFN O BOCED FEWNOL EI SIACED. DECHREUA EI BWYTA AC MAE DIFERYN O FWSTARD YN GLANIO AR EI GRYS. TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH O’I HAMGYLCH YN LLAWN CYWILYDD. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYNT SIARAD.

WENDY: Robyn…

TORRIR AT ROBYN, SY’N TORRI AR EI THRAWS A SIARADA GYDA’I GEG YN LLAWN. WRTH IDDO SIARAD MAE BRIWSION YN HEDFAN DROS BOBMAN.

ROBYN: O, Wendy, dw i mor falch dy fod ti wedi dod ’da fi i ddathlu heno. Dw i wedi mwynhau fy hunan yn fawr iawn.

WENDY: Wel, nawr bod gen ti well swydd, ac rwyt ti’n meddwl prynu dy fflat dy hun, dim ond un peth arall sydd eisiau.

LLYNCA ROBYN YN GALED.

ROBYN: Beth wyt ti’n feddwl?

WENDY: Wel, meddwl oeddwn i, ydy dy fywyd di’n gyflawn?

ROBYN: Ti’n iawn, Wendy. Ti’n nabod fi’n dda, on’d wyt ti?

COCHA WENDY.

WENDY: Ry’n ni wedi bod yn ffrindiau agos ers dros wyth mlynedd, Robyn.

ROBYN: Ti’n iawn, Wendy.

TORRIR I’R BWRDD.

Fe fydd rhaid i mi gael rhyw gi neu gath i gadw cwmni i mi. Rhywbeth byw o gwmpas lle…

DAW TRI GWEINYDD Â’R BWYD AT Y BWRDD, A THORRIR AT WYNEB ROBYN SY’N GLAFOERIO. DILYNA’R CAMERA WEINYDD SY’N CARIO’R HOG ROAST AT Y BWRDD. DAW I STOP WRTH YMYL ROBYN GAN OSTWNG Y PLAT I LEFEL WYNEB ROBYN – MAE TEBYGRWYDD MAWR RHYNGDDYNT. TORRIR AT WENDY, SY’N EDRYCH YN SÂL. DECHREUA FWYTA’N ARAF.

TORRIR AT ROBYN SY’N DECHRAU BWYTA. MAE’R TREFNIANT BYWIOG O ‘O BLE GEST TI’R DDAWN?’ YN CHWARAE WRTH I’R CAMERA DORRI RHWNG SIOT AGOS O’R BWYD A SIOT AGOS O WYNEB NEU GEG ROBYN WRTH IDDO FWYTA. TORRIR I’R SIOT ARFERFOL O ROBYN WRTH IDDO FWYTA’R TAMAID OLAF. MAE’N RHOI EI LWY YN Y FOWLEN AC EISTEDD YN ÔL YN EI GADAIR. MAE EI GRYS YN LLANAST, WEDI EI STAENIO GAN Y BWYD.

TORRIR AT WENDY, SY’N DAL I FWYTA’R CAWL LLYSIAU. TORRIR RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

WENDY: O’s ’na ryw ffilm dda ar y teledu heno tybed?

ROBYN: Nag oes.

WENDY: Wel oes fideo ’da ti o rywbeth ’te?

ROBYN: Nag oes.

MAE HI’N GOSOD Y LLWY YN Y FOWLEN WAG WRTH SIARAD.

WENDY: Robyn. Mae’n drwg ’da fi ond dwi’n teimlo’n flinedig. Well i mi fynd.

MAE’N CODI O’I CHADAIR.

ROBYN: Wendy. Hoffet ti ddod acw heno?

WENDY: Mae’n rhy ddiweddar, Robyn. Dw i wedi bod yn crybwyll y peth drwy’r noson ond weithiau ti’n gallu bod mor ddideimlad â bloc o goncrid.

ROBYN: Ga i fynd â ti adref yn fy nghar ’te?

WENDY: Ti’n anghofio, Robyn, fod gen i fy nghar fy hun – dyna sut cyrhaeddais i yma heno. Diolch yn fawr. Fe wela i di o gwmpas, os bydd dy fam yn fodlon. Hwyl.

CERDDA WENDY ALLAN DRWY’R DRWS. TORRIR AT ROBYN SY’N SYLLU AR EI HOL. AR ÔL EILIAD NEU DDWY, CWYD EI YSGWYDDAU AC YN ESTYN AM OMLET WENDY A’I FWYTA.

GOLYGFA 4
TU ALLAN: MAES PARCIO
9.30PM DIWRNOD 2
ROBYN

CEIR SIOT O’R BWYTY. CERDDA ROBYN ALLAN AC AM Y MAES PARCIO. TORRIR ATO’N CYRRAEDD EI GAR A’N MYND I MEWN IDDO GYDA PHETH ANHAWSTER. MAE’N GYRRU YMAITH.

GOLYGFA 5
TU MEWN: Y GEGIN
8.00AM DIWRNOD 3
ROBYN / MAM

MAE’R GEGIN YN WEDDOL FACH A’R ADDURNO’N DAL I FOD YN NULL Y SAITHDEGAU. MAE’R BWRDD YNG NGHANOL YR YSTAFELL A’R CLOC AR Y WAL YN DANGOS 8.00AM.

EISTEDDA ROBYN WRTH Y BWRDD YN GORFFEN PLATAID O FRECWAST LLAWN AC MAE EI FAM YN COGINIO WRTH Y FFWRN. MAE ROBYN YN GORFFEN Y BWYD A’N DAL EI GYLLELL A’I FFORC NAILL OCHR I’R PLAT.

ROBYN: Barod, Mami!

CERDDA MAM ATO GYDA PHADELL FFRIO ANFERTH YN LLAWN CIG MOCH, SELSIG, WYAU, BARA SAIM A MADARCH. MAE’N RHOI’R CYFAN AR BLÂT ROBYN CYN MWYTHO’I WALLT.

MAM: Dyna ti, fy siwgwr candi i.

EDRYCHA ROBYN ARNI’N WÊN O GLUST I GLUST, FEL PLENTYN BACH, CYN DECRHAU BWYTA.

GOLYGFA 6
TU MEWN: SWYDDFA ROBYN
10.00AM DIWRNOD 3
ROBYN / WENDY

DENGYS Y CLOC AR Y WAL 10.00AM AC EISTEDDA ROBYN WRTH EI DDESG YN BWYTA ECLAIR MAWR. AR Y DDESG MAE CYFRIFIADUR A LLUN O’I FAM. TORRIR I’W GEG WRTH IDDO GYMRYD DARN OHONO, A GLYNA PETH O’R HUFEN YNG NGHORELI EI FWSTAS. EGYR Y DRWS A THORRIR I’R SIOT BLAENOROL. MAE ROBYN YN STWFFIO GWEDDILL YR ECLAIR I’W GEG MEWN YMGAIS I’W GUDDIO WRTH PWY BYNNAG SYDD WRTH Y DRWS, HEB SYLWEDDOLI MAI WENDY YDYW. CERDDA I MEWN A SEFYLL O FLAEN EI DDESG.

ROBYN: O, Wendy. Ti sydd yna.

WENDY: Mae’n ddrwg gen i, Robyn, ond dw i wedi penderfynu dw i ddim eisiau dy weld ti eto…

ROBYN: Ond, Wendy, mae’n ddrwg gen i hefyd!

MAE LLAIS WENDY’N GADARN WRTH SIARAD, OND YN MYND YN GRYNEDIG ERBYN GORFFEN.

WENDY: Paid â dweud dim! Paid â thorri ar fy nhraws i o hyd. Dwi wedi gwrando digon arnat ti. Wedi cael wyth mlynedd yn dy ganlyn di, yn gwrando arnat ti’n siarad am dy waith anniddorol, dy gar bach hen ffasiwn, a dwi wedi dy wylio di’n b’yta fel mochyn – a dwi wedi cael digon.

TYNNA HANCES O’I PHOCED I SYCHU EI THRWYN.

Dwyt ti byth wedi gofyn imi am fy ngwaith i, byth wedi dangos dim diddordeb yn fy mywyd i. Rwyt ti mor hunanol ac mor ddideimlad â ffenest. Wel, mae hi a ben ar ein cyfeillgarwch ni. Paid â cheisio cysylltu â fi.

CERDDA WENDY ALLAN.

ROBYN: Ond, Wendy…

CWYD AR EI DRAED ER MWYN MYND AR EI HÔL, OND YN CAEL EI RWYSTRO GAN FOD Y GADAIR YN SOWND AR EI BEN ÔL, FELLY EISTEDDA I LAWR. SYLLA AR Y DRWS AM EILIAD NEU DDWY CYN AGOR DROR EI DDESG A THYNNU PUM ECLAIR OHONO A’U RHOI AR Y DDESG. TORRIR I’W WYNEB TRIST WRTH IDDO’U BWYTA, A THODDA’R SIOT I’R OLYGFA NESAF.

GOLYGFA 7
TU MEWN: Y GEGIN
6.00PM DIWRNOD 3
ROBYN / MAM

SYLLA ROBYN I WAGLE GYDA’R UN OLWG DRIST AR EI WYNEB YN CNOI BWYD. MAE’R CAMERA’N SWMIO ALLAN I DDATGELU GWEDDILL Y GEGIN AC MAE EI FAM YN COGINIO WRTH Y FFWRN. MAE PLÂT ROBYN YN WAG.

ROBYN: Ga i ragor, Mam?

MAM: Cei, wrth gwrs, fy machgen annwyl i.

DAW AT Y BWRDD GYDA SOSBAN FAWR A LLWY A RHOI PASTA, CIG MOCH, CIG EIDION A CHAWS AR EI BLÂT.

ROBYN: A, Mam?

MAM: Ie, ’nghariad i?

ROBYN: Wnei di roi’r record ’na, ‘O, ble gest ti’r ddawn?’ ymlaen?

MAM: Gwnaf, wrth gwrs, fy mlodyn, os wyt ti mo’yn.

MAE MAM YN RHOI’R RECORD YMLAEN WRTH I ROBYN DDECHRAU BWYTA. EISTEDDA WRTH Y BWRDD. TORRIR ATI A RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

Pam wyt ti mo’yn y gân ’ma, Robyn? Mae’n eithaf trist, on’d yw hi?

ROBYN: Dyna pam, Mam. Dw i’n teimlo’n drist iawn heno.

MAM: O? Pam wyt ti’n teimlo’n drist, ’nghariad bach i? Gwêd wrth dy fam.

ROBYN: Mae Wendy wedi ’ngadael i, Mam.

MAM: Paid â phoeni, pwdin plwm. Wna i ddim dy adael di.

TORRIR I’R SIOT O’R GEGIN A CHWYD MAM GAN ROI SWS I ROBYN AR EI DACEN CYN HYMIAN I’R GERDDORIAETH A DAWNSIO AT Y SINC I OLCHI’R LLESTRI – MAE’N AMLWG YN HAPUS O GLYWED HYN.

MAE’R GERDDORIAETH YN TROI I’R TREFNIANT BYWIOG. MAE’R CAMERA’N SWMIO’N AGOSACH AT ROBYN A DENGYS AMSER YN MYND HEIBIO WRTH I MAM DDOD Â PHRYD AR ÔL PRYD I ROBYN AC YNTAU’N EU BWYTA. TORRIR RHWNG Y BWYD, ROBYN YN EI FWYTA A MAM YN EI BARATOI AC MAE ROBYN YN GRADDOL MYND YN FWY, A’I DDILLAD YN MYND YN DYNNACH GYDAG AMBELL I FOTWM EI GRYS DDOD I FFWRDD. MAE MAM YN MYND YN LLAI, A’N HENEIDDIO, AC MAE PETH O DDODREFN Y GEGIN YN RADDOL DDIFLANNU.

WYTHNOS YN DDIWEDDARACH.

Y PRYD BWYD OLAF A DDAW I’R BWRDD YW UWD A SIWGR, WYTH TOCYN O DOST YN NOFIO MEWN MENYN, CHWECH SLEISEN O FACWN, SELSIG, TRI WY, BARA WEDI’I FFRIO A THRI CHWPANED O GOFFI HUFENNOG A PHUM LLWYAID O SIWGR YMHOB UN OHONYNT. MAE’R RHAIN HEFYD YN GRADDOL DDIFLANNU. TORRI I SIOT O’R GEGIN AC EISTEDDA ROBYN WRTH FWRDD O LESTRI GWAG A PHYLA’R GERDDORIAETH. DECHREUA ROBYN GODI O’I GADAIR OND YN METHU GAN EI FOD YN SOWND YNDDI. MAE MAM YN GOLCHI LLESTRI, AC WRTH I ROBYN STRYFFAGLU MAE’N EI THARO AR EI HYSGWYDD AM GYMORTH.

MAE MAM YN AGOR Y CWPWRD SYDD O DAN Y SINC A THYNNU DARN HIR O BREN ALLAN. FE’I DEFNYDDIA I HELPU ROBYN O’R GADAIR YN LLWYDDIANNUS. MAE MAM YN SYRTHIO YN Y GADAIR ARALL, WEDI LLWYR YMLÂDD.

ROBYN: Ta ta, Mam. Dw i’n mynd i’r swyddfa nawr. Fe wela i di heno.

MAE’N RHOI CUSAN IDDI AR EI THALCEN A CHERDDED ALLAN O’R YSTAFELL. SIARADA MAM ALLAN O WYNT.

MAM: Ta ta… fy neiamwnt.

TORRIR AT MAM. MAE’R CHWYS YN DIFERRU I LAWR EI HWYNEB FFLAMGOCH AC FE’I SYCHA ODDI AR EI THALCEN GYDA’I LLAWES.

GOLYGFA 8
TU ALLAN: TŶ ROBYN A’I FAM
8.30AM DIWRNOD 4
ROBYN

CEIR SIOT O’R TŶ A CHERDDA ROBYN ALLAN DRWY’R DRWS AC AM Y CAR. TORRIR YN AGOSACH ATO EF A’R CAR WRTH AGOR Y DRWS GYDA’I ALLWEDD.

CEISIA’I ORAU I’W WASGU EI HUN I MEWN IDDO – EI GOES YN GYNTAF, YNA’I FOL YN GYNTAF, YNA’I BEN-ÔL YN GYNTAF. WRTH WNEUD HYN MAE CORN Y CAR YN CANU’N DDAMWEINIOL , MAE ROBYN YN CHWYSU A CHOCHI A GWNEUD SYNAU TYCHAN AC YMDRECH.

GOLYGFA 9
TU MEWN: Y GEGIN
8.25AM DIWRNOD 4
ROBYN / MAM

CEIR SIOT O GYFEIRIAD FFENEST Y GEGIN GYDA MAM YN GOLCHI’R LLESTRI, A’R DRWS YN Y PELLTER. CERDDA ROBYN AM Y DRWS, A GWASGA’I HUN DRWYDDO CYN EI OLLWNG EI HUN YN Y GADAIR AGOSAF YN DRIST YR OLWG. NEIDIA MAM WRTH GLYWED SŴN ROBYN YN EISTEDD A THROI I’W WYNEBU CYN CERDDED ATO. CEISIA ROI EI BRAICH O’I AMGYLCH YN OFER, FELLY CYDIA’N EI LAW.

TORRIR I SIOT AGOS OHONYNT.

MAM: Beth sy’n bod, deryn bach?

ROBYN: Alla i ddim mynd i’r swyddfa heddi, Mam.

MAM: Pam fy nghreisionyn bach?

MAE HI’N GOSOD CLEDR EI LLAW AR EI DALCEN.

Dwyt ti ddim yn dost nag wyt ti?

TORRIR AT WYNEB ROBYN AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYNT SIARAD.

ROBYN: Nag ydw, ond alla i ddim mynd heddi.

TYNNA MAM EI LLAW ODDI AR EI DALCEN.

MAM: Wel, gwêd pam, fy nhrysor i.

ROBYN: Alla i ddim mynd mewn i’r car. Mae’n rhy fach.

TORRIR I’R SIOT O’R DDAU GYDA’I GILYDD, AC MAE MAM YN RHOI CWTSH IDDO.

MAM: Paid â phoeni. Aros di yma ’da fi. Fe ffonia i’r swyddfa i esbonio nes ’mlaen.

MAE MAM YN MYND I’R OERGELL A DYCHWELYD GYDA DAU DWBYN MAWR O HUFEN-IÂ, HEB Y CAEADAU, A LLWY. DECHREUA ROBYN FWYTA A SAIF MAM YN EDRYCH ARNO’N GWENU.

Wyt ti am i fi archebu pizza i ti erbyn amser cinio, blodyn tatws? Beth am dy ffefryn – olifau, corgimychiaid, madarch a chig moch, a bara garlleg?

ROBYN: Diolch Mam. Ti bob amser yn gwybod sut i godi ’nghalon i.

MAE MAM YN GADAEL YR YSTAFELL. TORRIR ATI’N CYRRAEDD Y CYNTEDD A CHODI’R FFON DDIWIFREN. TORRIR I’R FFÔN GYDA RHESTR SPEED DIALS ARNO:

1 – ‘SWYDDFA ROBYN’ 2 – TSIEINÏAIDD

3 – ‘TESCO’ 4 – INDIAIDD

5 – CIGYDD 6 – PIZZA

7 – BECWS 8 – DYN LLAETH

9 – ‘WENDY’ WEDI’I GROESI ALLAN, A ‘BECWS’ WRTH EI YMYL

MAE HI’N GWASGU BOTWM RHIF 6 A THORRIR I SIOT AGOS O’I HWYNEB.

MAM: Helo, Mrs Jones sydd yma. Yr arferol, os gwelwch yn dda. SAIB. Un o’r gloch? SAIB. Diolch.

MAE’N RHOI’R FFÔN I LAWR A CHERDDED YN ÔL I’R GEGIN.

GOLYGFA 10
TU ALLAN: SIOP PIZZA
12.30PM DIWRNOD 4
GWEITHIWR YN Y SIOP PIZZA

SIOT O’R SIOP PIZZA A DAW’R GWEITHIWR ALLAN N CARIO TRI BOCS O PIZZA. MAE’N EU RHOI YN Y BLWCH SYDD AR GEFN Y BEIC MODUR CYN TANIO’R PEIRIANT A GYRRU I FFWRDD.



GOLYGFA 11
TU ALLAN: Y FFORDD I DŶ ROBYN A’I FAM
12.35PM DIWRNOD 4
GWEITHIWR Y SIOP PIZZA / MAM

MAE’R TREFNIANT BYWIOG YN CHWARAE.

DILYNNIR Y BEIC MODUR AR HYD Y STRYDOEDD AC MAE POPETH SYDD YN Y CEFNDIR YN SYMUD YN GYFLYMACH NAG EF, I DDANGOS BOD AMSER N MYND HEIBIO: MAE’R TYWYDD YN NEWID BOB HYN A HYN AC MAE’N NOSI YNA’N GWAWRIO NES I’R BEIC GYRRAEDD Y TU ALLAN I DŶ ROBYN A’I FAM. WRTH I’R OLYGFA FYND YN EI BLAEN, MAE NIFER Y BOCSYS PIZZA’N CYNYDDU, NES BOD TŴR OHONYNT AR GEFN Y BEIC MODUR.

DAW’R BEIC I STOP AC MAE’R GWEITHIWR YN CARIO’R PIZZAS, GYDA CHRYN DRAFFERTH, AT Y DRWS A CHANU’R GLOCH. DAW MAM I’R DRWS GAN GYMRYD Y PIZZAS A THALU, YNA MAE’R DYN YN GADAEL.

DAW’R GERDDORIAETH I STOP.

GOLYGFA 12
TU MEWN: Y GEGIN
1.05PM DIWRNOD 5
ROBYN / MAM

MAE MAM YN GOSOD Y BOCSYS PIZZAS AR FWRDD Y GEGIN. MAE HYD YN OED LLAI O DDODREFN YN Y GEGIN NAWR.

ROBYN: Mami…

TORRIR AT ROBYN YN CEISIO CERDDED DRWY’R DRWS YN OFER. MAE’N LLAWER MWY NA’R TRO DIWETHAF. TORRIR AT MAM.

MAM: Paid ti â phoeni, mi ddo i â bwyd iti. Beth am sglodion tatws a gateau neu ddwy gyda hwn nawr ac wedyn cei di rywbeth mwy sylweddol yn nes ymlaen?

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Diolch Mam.

CERDDA YMAITH.

GOLYGFA 13
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.15PM DIWRNOD 5
ROBYN / MAM

EISTEDDA ROBYN AR Y SETÎ’N GWYLIO’R TELEDU A BWYTA O FOCS SIOCLEDI SY’N GORFFWYS AR EI FOL A PHECYNNAU MAWR GWAG O GREISION A CHANIAU GWAG O BOP O’I AMGYLCH. MAE’R CAMERA WEDI’I LEOLI Y TU ÔL I’R TELEDU GYDA ROBYN YN EISTEDD GYFERBYN.

GORFFWYSA BRWSH LLAWR YN ERBYN Y WAL WRTH Y SETÎ, O FEWN CYRRAEDD I ROBYN.

TELEDU: Ar gyfartaledd, mae’r morfil glas yn pwyso rhwng nawdeg a chan tunnell a hanner, ac yn bwyta cymaint â saith mil, saith cant a phymtheg pwys o cril y dydd…

MAE’R DRWS YN Y PELLTER A DAW MAM I MEWN YN GWTHIO TROLI FWYD GYDA’R TRI PIZZA, SGLODION TATWS A DAU GATEAU ARNO. MAE’N GOSOD Y TROLI O FLAEN ROBYN, YNA MAE’R CAMERA’N SWMIO’N GYFLYM AT EI WYNEB WRTH IDDO EDRYCH ARNO’N GLAFOERIO AC YNA CEIR SIOT O’R TROLI GYDA’R TELEDU YN Y CEFNDIR. YN SYDYN, MAE’R TELEDU’N DIFFODD.

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL. MAE ROBYN YN GAFAEL YN Y BRWSH LLAWR A DECHRAU BWRW’R SET DELEDU. OND MAE’N BLINO AR ÔL DWY ERGYD, A’N GOSTWNG Y BRWSH.

ROBYN: Mami… gwna rywbeth!

CERDDA MAM AT Y TELEDU A’I Â’I LLAW, OND STOPIA AR ÔL EILIAD NEU DDWY.

MAM: Paid â phoeni, siwgir lwmp. Bwyta di dy fwyd cyn iddo fe oeri, ac fe ffonia i’r peiriannydd.

DECHREUA ROBYN FWYTA’R PIZZA.

GOLYGFA 14
TU MEWN: Y CYNTEDD
1.30PM DIWRNOD 5
MAM

YR UN SIOT Â GOLYGFA 11 OND MAE MAM EISOES YN DAL Y FFÔN WRTH EI CHLUST.

MAM: Helo. Yw hi’n bosib i chi ddod draw i drwsio’r teledu, os gwelwch yn dda? SAIB. 34 Stryd y Pesgi. SAIB. Mrs Jones. SAIB. Bydd, bydd ugain munud yn iawn. Diolch.

MAE’N RHOI’R FFÔN I LAWR A CHERDDED I’R YSTAFELL FYW.

GOLYGFA 15
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.35PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14.

MAE ROBYN WEDI GORFFEN Y BWYD A CHERDDA MAM I MEWN I’R YSTAFELL.

MAM: Bydd y peiriannydd yma mewn ugain munud, calon.

DECHREUA WTHIO’R TROLI ALLAN O’R YSTAFELL.

ROBYN: Wnei di ddod â’r teledu sydd yn fy ystafell i i fi tra ’mod i’n aros, os gweli di’n dda?

STOPIA A SWNIA’N DRIST WRTH SIARAD.

MAM: Mae e wedi mynd, ’nghariad i.

SYLLA ROBYN ARNI’N SYN.

ROBYN: Wel, beth am y radio ’te? Gewn ni wrando ar Ryan a Ronnie.

TORRIR AT MAM AC YNA RHYNGDDYNT WRTH IDDYN NHW SIARAD.

MAM: Ma’r radio a’r record wedi mynd hefyd. Ro’dd yn rhaid i fi eu gwerthu nhw. Ond bydd y trydanydd yma cyn hir. Wyt ti am i fi wneud rhagor o sglodion tatws i ti, gyda bysedd pysgod a phys?

ROBYN: Os gweli di’n dda, Mam. Wnei di ddod â’r botel sos coch hefyd?

MAM: Gwnaf, calon.

ROBYN: Ond, be wnaf i tra mod i’n aros?

MAM: Wnei di ganu ‘Pan fyddo’r nos yn hir’ i dy fam? Yn ddigon uchel i mi allu dy glywed di o’r gegin – mae gen’ ti lais fel y gog, ’nghariad i.

ROBYN: Iawn, Mam. Unrhyw beth i ti.

GWTHIA MAM Y TROLI ALLAN O’R YSTAFELL.

GOLYGFA 16
TU MEWN: Y GEGIN
1.50PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN

CEIR SIOT O’R GEGIN GYFAN A MAM YN PARATOI BWYD. MAE ROBYN YN GWEIDDI CANU’N AFLAFAR O’R YSTAFELL FYW A MAM YN HYMIAN Y DIWN GYDAG EF. AR ÔL RHAI EILIADAU MAE CLOCH Y DRWS YN CANU A MAM YN MYND I’W ATEB.

GOLYGFA 17
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
1.55PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN / PEIRIANNYDD

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14 AC 16. MAE ROBYN YN DAL I GANU A DAW MAM A’R PEIRIANNYDD I MEWN I’R YSTAFELL.

TORRIR AT Y TRYDANYDD SY’N EDRYCH YN SYN AR ROBYN AC YNA TORRIR AT ROBYN SYDD WEDI YMGOLLI YN EI GANU. TORRIR AT MAM A’R PEIRIANNYDD.

MAM: Wnewch chi drwsio’r teledu tra ’mod i’n dod â bwyd Robyn iddo?

MAE MAM YN GADAEL YR OLYGFA A’R PEIRIANNYDD YN DAL I SYLLU AR ROBYN. DAW’R CANU I STOP. TORRIR AT ROBYN, SY’N EDRYCH YN ÔL AR Y PEIRIANNYDD AC YNA RHWNG Y DDAU WRTH IDDYN NHW SIARAD.

ROBYN: Be sy’n bod?

PEIRIANYDD: D-dim byd.

ROBYN: Wel dewch i mewn ’te.

PEIRIANYDD: Oes lle i ni’n dau?

ROBYN: Beth ’ych chi’n feddwl?

PEIRIANYDD: Dim byd. Dim byd.

TORRIR AT ROBYN. PWYNTIA AT Y TELEDU A GWNEUD YSTUM SY’N AWGRYMU EI FOD YN CREDU BOD Y PEIRIANNYDD YN DWPSYN. PLYGA’R PEIRIANNYDD WRTH Y TELEDU’N GWASGU’R BOTYMAU.

Dyw’r bechingalw ’ma ddim yn gweithio.

MAE’N TROI I WYNEBU ROBYN.

Ydych chi wedi bod yn ei wylio fe ormod yn ddiweddar?

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Dw i ddim yn meddwl.

DAW MAM I’R YSTAFELL A RHOI PLATAID O SGLODION TATWS, PECYN CYFAN O FYSEDD PYSGOD A PHYS I ROBYN. PLYGA WRTH OCHR Y PEIRIANNYDD.

MAM: Wel?

PEIRIANYDD: Be sy’n bod arno fe?

MAM: Gwedwch chi wrtha i. Chi yw’r peiriannydd.

PEIRIANYDD: Y boi ’na.

MAM: Beth ’ych chi’n feddwl?

PEIRIANYDD: Wel, be sy wedi digwydd iddo fe?

MAM: Does dim byd wedi digwydd iddo fe.

PEIRIANYDD: Ond pam mae e’n gorwedd fel’na fel hen forfil anferth ar draeth?

MAM: Peidiwch â galw ’mab annwyl i’n forfil, cerwch o ’ma.

TORRIR AT SIOT AGORIADOL YR OLYGFA. CWYD Y PEIRIANNYDD I ADAEL, AC MAE MAM YN GAFAEL YN Y BRWSH LLAWR A’I FWRW ALLAN.

ROBYN: Mam. Dyw bywyd ddim gwerth ei fyw fel hyn.

MAM: Paid â phoeni dy ben fy rhosyn i, mi ddo i â phwdin i ti.

ROBYN: Dwyt ti ddim wedi gwerthu fy hoff lyfr i, do fe Mam?

MAM: Naddo, blodyn. Wyt ti am i fi ddod ag e ti?

ROBYN: Os gweli di’n dda.

GOLYGFA 18
TU MEWN: YR YSTAFELL FYW
2.30PM DIWRNOD 5
MAM / ROBYN / DYNION

YR UN SIOT AG UN AGORIADOL GOLYGFA 14. CHWARAEIR Y TREFNIANT BYWIOG.

DARLLENA ROBYN LYFR GUINNES WORLD RECORDS, AC MAE DYNION YN MYND Â’R DODREFN I FFWRDD BOB HYN A HYN A DYNION ERAILL, A MAM, YN DOD Â GWAHANOL FWYDYDD I ROBYN YN DANGOS FOD AMSER YN MYND HEIBIO. MAE ROBYN YN MYND YN FWY AC YN FWY, GAN LENWI’R SETÎ.

MAE WYTHNOS YN MYND HEIBIO AC MAE CADAIR ALLAN O FOCSYS PIZZA BELLACH WRTH OCHR Y SETÎ AC MAE MAM YN EISTEDD ARNO. TORRIR I’R DUDALEN MAE’N EI DARLLEN, SEF TUDALEN AR DDYNION TRYMAF Y BYD:

JOHN BROWER MINNOCH 635KG 1978

WALTER HUDSON 544KG 1942

MICHAEL WALKER 538KG 1971

ROBERT EARL WILLIAMS 485KG 1930

TORRIR I’R SIOT BLAENOROL AC MAE TINC O FFIEIDD-DRA YN LLAIS ROBYN.

ROBYN: Edrycha ar hwn Mam.

CWYD MAM AC MAE ROBYN YN TROI’R LLYFR I DDANGOS Y DUDALEN IDDI.

MAM: Ych a fi, Robyn!

CHWERTHINA.

ROBYN: Diolch byth nad ydw i fel y dynion yna, on’d ife?

MAM: Ie, nghariad i.

MAE’N DYCHWELYD I’W SEDD. MAE STUMOG ROBYN YN RHUO’N AFLAFAR O UCHEL, A’I FOL YN CRYNU GYDA HYNNY.

ROBYN: Oes peth o’r toesenni jam ’na ar ôl, Mami?

TORRIR AT MAM.

MAM: Fy mab annwyl, coron fy nghalon, does dim byd ar ôl. Hen wraig weddw dlawd ydw i, ac rwyt ti wedi colli dy swydd. Er ’mod i’n dy garu di’n fwy na dim byd arall yn ’y mywyd i, alla i ddim fforddio dy gadw di fel hyn ar fy mhensiwn i. Dw i wedi gwerthu popeth ac wedi gwario fy nghynilion i gyd er mwyn dy fwydo di.

TORRIR AT ROBYN.

ROBYN: Paid â llefain, Mam, dere ’ma ataf fi, imi gael rhoi sws i ti.

TORRIR I SIOT O’R YSTAFELL. CWYD MAM YN CODI A GORWEDD DROS FOL ROBYN GYDA’I BREICHIAU’N AGORED, OND MAE’N SUDDO I’W FLONEG WRTH IDDO’I CHOFLEIDIO A’I MYGU I FARWOLAETH.

TORRIR I SIOT O ROBYN WRTH IDDO SYLWEDDOLI’R HYN SYDD WEDI DIGWYDD. MAE’N EI THYNNU ALLAN O’I FLONEG A’I DAL GYDAG UN LLAW, GYDA GOLWG DRIST AR EI WYNEB. MAE I FOL YN RHUO AC MAE GOLWG GYFRWYS AR EI WYNEB WRTH EDRYCH AR GORFF EI FAM. ESTYNNA I LAWR OCHR Y SETÎ A THYNNU POTEL O SOS COCH ALLAN A’I DAL WRTH EI HYMYL, GAN EDRYCH O UN I’R LLALL YN AWGRYMOG. MAE’N GOSOD EI FAM I ORWEDD AR DRAWS EI FOLA, AGORA’R BOTEL SOS COCH AC ARLLWYS EI CHYNNWYS DROSTI.

Cwbwl drosodd!

Gobeithio bo pawb wedi mwynhau eu penwythnos...

Dyma waith y buddugol yng nghystadleuaeth y Fedal Ddrama - sef Ceri Elen Morris o Brifysgol Caerdydd...


Yn Enw’r Tad a’r Mab

Rhagair

Drama Ifan Jac yw hon. Y mae’n gymeriad tywyll, doniol, paradocsaidd. Cyflwynir y ddrama drwy naratif o fonologau Ifan Jac. Mae’r golygfeydd hynny yn digwydd yn y presennol, mewn lle anodd ei ddiffinio.

Y mae sgaffolding anferth ar y llwyfan mewn siâp hanner crwn – bron fel y groth. Wedi’i daenu dros y sgaffolding hwn y mae gauze gwyn. Caiff Ifan Jac ei ostwng lawr i’r llwyfan ar ddechrau’r ddrama ar fath o siglen sy’n dod o’r to. Ai croth ei fam yntau ei ben ef ei hun yw’r lle hwn? Anodd dweud. Ond y mae Ifan Jac yn y lle hwn fel cosb am wneud rhywbeth erchyll.

Fe welwn ôl-fflachiadau o fywyd Ifan Jac drwy gydol y ddrama. Y mae Ifan yn mynd yn wallgof oherwydd ei fod yn teimlo ei fod yn blentyn mewn corff dyn. Gwelwn hynny drwy ei berthynas â’i wraig. Gwelwn ef yn disgrifio ei dad yn mynd yn ôl yn blentyn oherwydd clefyd Althzeimers. Gwelwn ef hefyd yn gofyn i Dduw, pam ei fod yntau eisiau bod yn dad ar bobl. Ydy pobl i fod yn blant o hyd?


Sgaffolding hanner crwn yng nghanol y llwyfan – gauze gwyn wedi’i daenu’n dynn drosto. Y tu ôl i’r gauze, mae dau byped – maint pobl go-iawn. Maent yn hynod realistig. Mae un o wraig ganol oed hardd iawn, a’r llall o hen ddyn barfog.

O flaen y sgaffold y mae gofod gwag enfawr, yna’r gynulleidfa. Y mae’r llwyfan yn llwyfan dro; mae hyn yn caniatáu i’r gynulleidfa weld y ddrama o wahanol bersebectifs. O gwmpas y gynulleidfa mae ‘speakers’ cerddoriaeth. Mae pob ‘speaker’ yn recordiad o lais unigol. (Gweler archif Arddangosfa Canolfan Celfyddydau Aberystwyth Haf 2006 am enghraifft. )Mae’r lleisiau i gyd yn dod at ei gilydd fel côr. Gweler fraslun o’r set yng nghefn y sgript. Gweler hefyd gryno ddisg o’r gerddoriaeth yng nghefn y portffolio.

Y mae un cymeriad arall yn crwydro o gwmpas y llwyfan drwy gydol y ddrama, sef bachgen bach. Y mae’n chwarae gyda’r pypedau, yn chwarae ar y sgaffold – yn ymgartrefu ar y llwyfan. Y mae ganddo wallt golau, wyneb angylaidd a llygaid glas. Y mae’n gwisgo dillad o liwiau golau niwtral. Drwy gydol y ddrama gall lacio rhannau o’i wisg er mwyn gwneud ei hun yn fwy cyfforddus. Tynnu ei esgidiau a.y.y.b

Fel y mae’r gynulleidfa yn cerdded i mewn i’r awditoriwm clywir lleisiau plant drwy’r ‘speakers’. Sgrechian, chwerthin, chwarae gemau plant ysgol. Pan fo’r drysau wedi’u cau; tawelwch. Yna, daw cerddoriaeth Rutter ymlaen drwy’r ‘speakers’ – ‘Mass of the children’. Yn raddol iawn mae’r llwyfan yn cael ei oleuo. Mae’r golau yn codi yng nghefn y llwyfan o dywyllwch dudew i ddangos cysgodion y doliau fel plant y tu ôl i’r gauze. Gwelwn gysgod y bachgen bach yn rhedeg â’i freichiau yn yr awyr drwy’r sgaffold. Bydd y bachgen bach yn crwydro o amgylch y llwyfan fel ag y mynno. Y mae ambell ran yn y ddrama sy’n dynodi fod angen i’r mab fod mewn lle penodol. Ond fel arall, hoffwn i’r symud fod yn hollol organig, heb ei goreograffu, gyda phob perfformiad yn wahanol. Symboliaeth o’r mab yn crwydro fel ag y mynno drwy ddychymyg ei Dad yw hyn. Dylai’r ansicrwydd hyn gael effaith ar yr actor sy’n chwarae rhan Ifan Jac gan nad yw’n gwybod pryd neu lle y bydd y mab yn ymddangos nesaf. Pan fo’r gerddoriaeth wedi cyrraedd yr amseriad 01.19, mae’r llwyfan yn dechrau troi un troad cyflawn. Bydd hyn yn digwydd yn raddol iawn. Wrth i hyn ddigwydd, pan fo’r gerddoriaeth yn cyrraedd 01.41 bydd lampau bach o gwmpas blaen y llwyfan yn goleuo fesul un gyda threfniant canon y gerddoriaeth, nes fod y llwyfan yn llwyr oleuedig ac yn llachar iawn erbyn 03.10. Ar bwynt 03.14 yn y gerddoriaeth, dechreuir gostwng Ifan Jac yn araf o’r to. Dim ond ei ddillad isaf y mae Ifan yn eu gwisgo, a chaiff yntau ei ostwng o’r nenfwd ar ddarn o bren. Ar y llawr oddi tano, mae ei ddillad. Erbyn 05.23, mae Ifan Jac wedi cyrraedd y llwyfan ac y mae’r llwyfan wedi peidio â throi ers rhai eiliadau ynghynt – hynny ydy mae’r llwyfan wedi troi unwaith yn gyflawn. Mae Ifan Jac fel petai yn cysgu, yna’n deffro’n raddol, yn cael ei ddallu gan y golau a’i fyddaru gan y gerddoriaeth. Diwedd y darn. Tawelwch. Llonyddwch.

Y mae dail cabbage yn dechrau disgyn o’r to fesul un, dros un hanner y llwyfan yn araf iawn. Mae Ifan Jac yn eistedd ar y pren sydd wedi ei ostwng o’r to. Y mae fel siglen. Dim ond ar ochr y siglen o’r llwyfan y mae’r dail yn disgyn. Mae Ifan Jac yn gwylio’r dail yn disgyn. Tawelwch oni bai am sŵn y dail yn disgyn.

Ifan Jac: Cabaitsh. Gas gin i’r diawl!
“Byta fo – ma’n dda i ti!”
“Cadw dy gabaitsh!”

Mae Ifan Jac yn codi ac yn dechrau gwisgo amdano. Y mae’n gwisgo ei grys yn gyntaf – mae’n cau’r botymau yn araf.

Ifan Jac: Mi sbîsh i “cabbage” i fyny yn y geiriadur r’w dro – wyddost ti be o’dd o’n ddeud, Dic?
“ 1 noun – a vegetable with green or purple leaves usually forming a round head. 2. (informal) a person who lives without interests or ambition.”

Erbyn hyn, mae Ifan Jac yn dechrau gwisgo ei drowsus.

Ifan Jac: Cabaitsh . . . meddylia. Ca’l dy gymharu i blydi cabaitsh. Tasa hynny’n digwydd i mi, ’swn i’n mynd yn nyts. ’Swn i’n ca’l ’y nghymharu hefo moron – ffêr enyff. Symlach. Llai mesd-yp. Ma’ cabaitsh jysd yn pathetic. Mae o yna yn sbïo arna ti, yn gweddїo am ga’l bod yn flodyn – ‘blod’-fresych medda nhw de. ‘Plis’, medda fo, ‘jysd gad fi yma yng nghroth y pridd. Fama dwi fod, fama.’ A’r petala-gneud yn gwegian dan yr isio, yr ymbilio. A wedyn ma’r llaw fawr ‘ma’n dŵad, a’i thynnu hi fel tynnu calon o fabi blwydd. Yn ddi-edifar – achos nad blodyn ydio, naci? Ffwcin cabaitsh ’dio’n diwadd . . .

Mae deilen arall yn disgyn o’r to. Mae Ifan Jac yn sylwi arni’n disgyn, yna mae’n syllu ar yr overalls llwyd sydd ar y llawr. Codi’i ben. Mae’n edrych yn syth ymlaen.

Ifan Jac: Ma’ geiria’r un peth. Dy’n nhw ’im yn siŵr be ydyn nhw chwaith, nachdyn Dic? Isio bod yn rwbath na tydyn nhw ddim. Meddylia, er enghraifft, am y gair “Colli”. Wel dyna i chdi fasdad o air. Colli. . . Hawdd i ddeud o . . . bron iawn yn air neis i’r glust. . . Colli . . . Ond ma’n chwara ’fo dy frên di, ’li. Mae o’r peth gosa gei di i “Cosi” tydi? A be di’r gwahaniaeth? Llythyren. Un llythyren. “A letter, should be written with clarity and precision. One should not under-estimate the importance of perfect hand-writing”. . . a Dr Richards sgwli yn gansan ar ’y ngeiria fi. “Clarity”? Pryd ddiawl gesh i wbod be’ ’di “clarity”?
Mae Ifan Jac yn gwisgo’r overalls wrth ddweud y llinellau nesaf.

Ifan Jac: Do’s na’m pwynt iti drio rhoi dy feddylia mewn ordor, frawddeg wrth frawddeg, air wrth air, lythyren wrth lythyren. Chwara gêms di hyny, a’r cosi yn cosi’r colli . . . a’r colli yn colli ei ystyr wrth gosi’r . . . gollad . . .

Erbyn hyn, mae Ifan Jac yn sefyll yng nghanol y llwyfan yn ei overalls. Llonyddwch. Tawelwch. Deilen arall yn disgyn o’r to. Yna, mae’n deffro drwyddo eto ac yn dechrau siarad unwaith yn rhagor.

Ifan Jac: Pryd gollisd di o?
Colli be?
Dy virginity?
Dwi dal yn virgin
Verging on the insane ’w’rach, ia?

Insane? . . . “Have you eaten your peas, Woyzeck?” Pys nath hwnnw’n nyts. Cabaitsh fydd y diawl i mi. Cabaitsh. Force-feed. Cabaitsh – “Ifan Jac – fytest di dy gabaitsh i gyd heddiw? Pob deilen? . . . Wel?”

Saib. Mae Ifan Jac yn gwylio deilen arall yn disgyn i’r llawr.

Ifan Jac: Do.

Mae Ifan Jac yn edrych y tu ôl iddo, fel petai wedi gweld rhywbeth. Yna mae’n troi yn ôl i wynebu’r gynulleidfa. Gwelwn gysgod y bachgen bach y tu ôl i’r gauze, y mae’n crwydro rhwng y sgaffolding. Y mae’r bachgen bach yn crwydro oddi ar y llwyfan i’r asgell chwith. Edrycha Ifan Jac y tu ôl iddo eto. Yna mae’n edrych yn ôl i’r gynulleidfa.

Ifan Jac: Dwi’n dy glywed di’n galw sti. (Saib) Rhaid ti aros dy dro. (Saib.) Hefo hi dwi am fod heno.

Mae Ifan Jac yn rhoi ei fysedd drwy ei wallt – yn ceisio ei dwtio ei hun. Yna, mae’n cerdded yn araf o gwmpas y sgaffold. Tawelwch rhyfedd a sŵn ei draed. Yna mae Ifan yn sefyll o flaen ‘ei wraig’ sydd wedi’i lapio mewn blanced fel baban. Yn araf y mae’n plygu i lawr ati ac yn ei chodi yn ei freichiau fel y gwna gŵr ar noson ei briodas. Yn dawel, dawel, clywir Ave Maria – CF1. Ifan yn sefyll yn ei unfan. Mae’r llwyfan yn dechrau troi. Y mae’n troi un hanner tro yn gyflawn fel fod y gynulleidfa yn gweld Ifan a’r pyped y tu blaen i’r gauze, ac nid o’r tu ôl iddo. Mae pelydr o olau tebyg i olau’r lleuad yn goleuo canol y llwyfan. Diwedd y darn. Y llwyfan yn llonydd. Mae Ifan yn rhoi’r pyped i lawr ar y llawr yn boenus o ofalus. Â i nôl blanced, a’i gosod ar y llawr. Yna, mae’n nôl y pyped, ac y mae yntau yn eistedd ar y flanced a hithau rhwng ei goesau. Y mae’r pyped yn gwisgo pais am hanner isaf ei chorff o dan y flanced. Mae hanner uchaf ei chorff yn noeth o dan y flanced. Tawelwch. Llonyddwch.

Ifan Jac: Dwi wrth ’y modd hefo dy hogla di, ’sti. Ti’n hogla mor lyfli – fatha hogla hiraeth. Saib Chwerw-felys.

Mae’n symud gwallt ei ‘wraig’ oddi ar ei thalcen. Rhoi cusan ar ei boch. Yna, mae’n rhwbio ei foch yn araf yn erbyn ei boch hi. Mae’n cau ei lygaid wrth wneud hyn.

Ifan Jac: Ma’ dy dwtsiad di fel twtstiad atgofion plentyndod – prin . . . perffaith . . . pur. (Saib) Gad i mi edrych arna ti. Ty’d yma.

Mae’n ei throi fel bod wyneb y pyped yn ei wynebu yntau.

Ifan Jac: Welish i ’rioed harddwch fel dy un di. ’Rioed. Mae o’n harddwch sy’n gic rhwng coesau dyn. Codi c’wilydd arna i am fod mor blaen . . . mor flêr, a chditha fatha’r greadigaeth yn fy mreichiau i. (Saib) Ti’n oer?

Mae’n agor ei overalls i lawr at ei ganol a thynnu’r llewys i ffwrdd. Mae’n tynnu ei grys i ffwrdd. Yna mae’n agor y flanced sydd am ei ‘wraig’ a’i adael i ddisgyn am ei chanol. Yna mae’n ei chofleidio gan lapio’r flanced dros gyrff y ddau ohonynt.

Ifan Jac: Well ’ŵan, mach i? W’t? Na fo . . . na fo. (Saib) Y ddau ohonan ni – mond ni’n dau, a hitha’n bwrw fel buwch yn piso ar lechan y tu allan.

Chwerthin yn nerfus. Stopio. Tawelwch.

Ifan Jac: Dwi’n cofio gwrando arnat ti’n anadlu – o’n i isio bod yn rhan o’r aer ’na oddach chdi’n ’i gusanu. (Saib) Nes i droi yn y gwely, ac mi o’dd gola’r lleuad yn byseddu’r hollt rhwng y llenni – trio’i hagor nhw. Felly mi helpish i hi, gadael iddi gael ein gweld ni yn gorwadd . . . yn bod.
Yn ara’ . . . bach, mi dynnish i’r flanced i lawr oddi wrth dy ên di . . .

Mae Ifan Jac yn tynnu’r flanced lawr o’i gên yn araf . . .

A rhyfeddu arna ti yng ngola’r lleuad . . .

Mae Ifan yn syllu ar ei hwyneb. . . ar ei gwddf, ar ei hysgwyddau a thop ei chorff . . .

a chditha’n deffro, heb agor dy lygid, ag yn gofyn be’ o’n i’n neud . . .
“Dwi’n licio sbïo arna chdi yng ngola’r lleuad”, medda fi, “ti’n ofnadwy o dlws.”
Ddudist di’m byd, ’mond llithro nôl i’r cwsg ’na o’dd yn dy fwytho di. A finna’n cenfigennu at dy gwsg di, am ga’l dy ddal di fel ag yr oedd, a chditha mor heddychlon.

Saib hir a llygaid Ifan ynghau. Yna, mae Ifan yn gwisgo’i grys am ei ‘wraig’ ac yn cau ei overalls ei hun. Mae’n edrych yn swil iawn ar ei wraig. Saib.

Ifan Jac: Nei di’n magu fi . . . plis?

Saib. Mae’n tynnu rhuban coch o’i boced yna’n clymu breichiau ei wraig amdano gyda’r rhuban coch, ac yntau rhwng ei breichiau. Siglo nôl a mlaen.

Ifan Jac: Dwi’n clywed dy lais di fatha llais Mam. . .Diolch . . . diolch . . . diolch . . . (Sibrwd) Maria . . . Maria . . .

Yn sydyn mae cloch larwm yn canu bron yn fyddarol a golau oren yn fflachio. Mae Ifan Jac yn neidio.

Ifan Jac: Nesh i ddim. Sud medra’i?! (Saib) Mi a’i ato fo rwan . . .
Mae’n cusanu ei wraig a’i gosod yn ofalus ar y llawr. Mae’n cerdded at ei ‘dad’ sydd ar ochr y siglen o’r llwyfan. Yn ystod hyn, mae’r bachgen bach yn cerdded o gwmpas y cylch chwarae, yna yn eistedd yng nghôl ‘ei fam’. Yna mae’r bachgen fel petai’n gweld Ifan, ac yn rhedeg i ffwrdd. Wrth wneud hynny, mae pyped y ‘wraig’ yn disgyn ar ei chefn.

Ifan Jac: Na fo ’nhad. ’Im otsh . . . ’im otsh. Peidiwch ag ypsetio – damwain dyna’i gyd!

Mae’r larwm yn canu eto.

Be?! Be?! Dwi yn edrych ar ei ôl o. Be sy’ ŵan? . . .

Mae’r larwm yn canu eto. Mae Ifan Jac yn gweiddi’r llinellau nesaf.

’Im otsh gin i, Dic. Cana di dy blydi larwm – ’da’i ddim ato fo. Dim rŵan. Dim eto. ’Da i ddim.

Mae’r larwm yn parhau i ganu. Mae’r llwyfan yn troi un hanner tro. Mae’r larwm yn parhau i ganu, a chlywir y bachgen bach yn gweiddi nerth esgyrn ei ben (o’r esgyll). Mae Ifan Jac yn sylwi fod ei ‘dad’ yn beichio crio – mae’n ceisio ei gysuro, edrych o’i gwmpas fel petai yn edrych am gymorth.

Ifan Jac: Rhowch gora’ iddi! Rhowch gora’ iddi! (Mae’r bachgen bach yn camu un cam ar y llwyfan, ond fel petai yn cuddio. At y bachgen bach) A chditha – plis. Llynca dy ddagra’ am ŵan. Gei di fferan gin i am bob deigryn lynci di ’li . . . Alla i mo’i adal o, alla i ddim – sbia!! (Yn flin.) Jysd aros dy dro!!

Mae’r mab yn syllu arno. Mae Ifan yn sylwi fod ei fab wedi bod ar y llwyfan gan fod ei ‘wraig’ wedi symud. Mae’n mynd at ei wraig, ei chodi a’i chusanu, a’i chario at ei Dad.

Ifan Jac: Y basdyn bach! Na, medda fi! NA! Sna’m lle i ti heno medda fi. Fi a hi, mond fi a hi. Ond mi o’dd raid i chdi ddod yn toedd, Mabon. Isio sylw . . . isio’i sylw hi . . . ’Y ngwraig i ydi hi. Mi nath hi’n newis i. Dodd gin i’m dewis efo chdi, mi gath hi be gath hi. Siom odda’ chdi. Siom . . . ŵan dos i chwara hefo dy gysgod y ffycin basdyn i ti.

Mae’r larwm yn tawelu. Tawelwch rhyfedd. Deilen cabbage yn disgyn. Saib. Deilen arall yn disgyn ac un arall ac un arall dro ar ôl tro – fel petai hi’n bwrw eira. Mae Ifan yn rhoi ei wraig i lawr, ac yn mynd at ei Dad.

Ifan Jac: Sbïwch nhad, mae’n bwrw eira arnon ni!

Mae Ifan Jac yn cario’i ‘dad’ a’r ddau’n edrych ar yr ‘eira’. Mae Ifan Jac yn sefyll â’i gefn at y sgaffold, a’i Dad wrth ei ysgwydd. Mae’r mab yn gwylio’r olygfa hon o du ôl i’r gauze.
Ifan Jac: Gofiwch chi ’nhad – y Dolig hwnnw – a chitha ’di mynd â fi i’r Eglw’s. Canu am hannar nos. (Saib) O’n i ’di bod yn byta’r llygod siwgwr rheini o’dd Mam wedi bod yn ’u hongian ar y goeden. A’r siwgwr yn sglein yn llygaid y goleuadau bach aur – a’r byd mor . . . newydd-anedig yn ei dinsel. Mi fytes i bron bob un o’r llygod . . . www! A theimlo’n sic. Ond o’n i am fynd i’r Eglw’s, ’fo chi – isio mynd i ga’l teimlo c’nesrwydd ych llaw-llwch-lli chi. A gwrando ar y pregethwr, a chanu . . . ond mi gesh i’r gnofa mwya’ uffernol! Trio dal y gwynt i mewn, achos o’n i’n gwbo’ petawn i’n gada’l un fach allan y byse hi’n eco drwy’r Eglw’s ac yn drymio’i ffor’ ar hyd y cwir. Gwasgu ’nghoesa’ at ’i gilydd, a theimlo’n sâl . . . a deud: “Dad . . . Dad . . . dwi’n teimlo’n sic”, a chitha’n agor ych cot i mi – a’r boced fawr honno yn y leining. A finna’n sic i’ch poced chi . . . A theimlo’n well – a’r llygod yn eich poced chi, a’n llaw i yn eich llaw chi, a’ch gwychder chi’n llenwi ’Nolig i. [Saib] Ac wedi’r fendith, deud “nos da” wrth bawb. A chitha’n rêl gwr bonheddig. Wydda neb ddim. Mond chi a fi – ’yn sicret bach ni. Yn’de ’nhad?

Mae Ifan Jac yn gafael yn llaw ei Dad, edrych arni – ar y llinellau yn ei law, a’u dilyn gyda’i fysedd.

Ifan Jac: Sbiwch hein ’di mynd yn glyma yn ych dwylo chi, ’nhad – y llinella’n weiren bigog am eich gwythienna chi. (Saib.)

Sylwa Ifan fod y dail cabbage wedi stopio disgyn.

Ifan Jac: Ma’i ’di ’rafu. Ma’i ’di sdopio. Yn sdond. . . Ond . . .

Mae’n edrych i wyneb ei ‘dad’

A’ch gwyneb chi’n ‘ond’ i gyd.

Mae’n rhoi cusan ar dalcen ei dad.

(Saib.) Gymw’ch chi dro ar y swing ’ma ’nhad? Ia?

Mae Ifan Jac yn rhoi ei hun i eistedd ar y siglen a’i ‘dad’ ar ei lin.

’Na fo ’nhad – dach chi’n licio? Yndech?

Mae Ifan Jac yn raddol yn defnyddio’i goesau i yrru’r siglen yn bell i’r awyr. Gwelwn gysgod y ‘bachgen’ yn rhoi ei ddwylo yn erbyn y gauze, fel petai mewn parc. Mae Ifan Jac yn efelychu llais ei dad:

Ifan Jac: Slofa lawr was, fydda i ’di cachu’n drwsus eto! (Llais naturiol Ifan Jac) Dim jibio, ’nhad. (Ifan Jac yn chwerthin)
Bachgen: Tada!
Ifan Jac: Be’ ’udsoch chi nhad?
Bachgen: Tada!
Ifan Jac: Dudwch yn iawn, ’nhad!
Bachgen: (Yn gweiddi.) Tada!!!

Daw’r larwm ymlaen eto, a’r golau oren yn fflachio.

Ifan Jac: Blydi hel! Blydi hel! Blydi hel! Dim eto. Be’ ti isio eto’r . . .

Mae’n arafu’r siglen i lawr drwy sdampio ei draed ar y llawr. Mae’n gosod ei ‘dad’ ar y llawr ym mlaen y llwyfan.

Ifan Jac: O-reit . . . o-reit . . .

Mae’r larwm yn stopio. Tawelwch. Mae Ifan Jac yn estyn hambwrdd ac arno ddau wydr a photel wisgi.

Ifan Jac: Ty’d ta . . . ty’d ta . . .

Mae’r bachgen yn cerdded ar y llwyfan.

Ifan Jac: Gymri di ddiod? (Saib) ’Ta w’t ti’m yn ddigon o foi? (Saib) Wisgi bach i ti.

Mae’n rhoi’r wisgi i’w fab.

Ifan Jac: Down in one.

Mae Ifan Jac yn llowcio’r wisgi. Mae’n edrych ar ei fab.

Ifan Jac: ’Sa’n ti’m o’i isio fo?

Mae’n cymryd y gwydr gan y bachgen.

Ifan Jac: Ty’d a fo yma ta.

Mae’n llowcio diod y bachgen hefyd.

Ifan Jac: Fab . . . roi di chwth i mi ar y swing ’ma? . . . Gnei? ’Ta ti’m yn ddigon o foi?

Mae’r bachgen yn ceisio gwthio Ifan Jac o’r tu ôl i’r swing, ond nid yw’n ei symud bron. Mae Ifan Jac yn rhy drwm iddo. Mae Ifan Jac yn symud am chydig eiliadau – fel petai chwa o wynt wedi ei chwythu. Yna mae’n rhoi ei draed yn fflat ar y llawr. Saib. Tawelwch.

Ifan Jac: Ty’d yma. (Saib.) Gadewch i blant bychain ddyfod ataf fi.

Mae Ifan Jac yn troi i edrych ar ei fab, ond mae’r bachgen wedi gadael. Erbyn hyn y mae’r ‘mab’ yn sefyll fel petai’n ddol mewn ffenestr siop y tu ôl i’r gauze. Cerdda Ifan Jac yn araf tuag at y gauze, ac yna, mae’n rhoi ei ddwylo’n fflat arno.
Ifan Jac: Sori

Yn araf bach, mae’r llwyfan yn troi nes o’r diwedd, mae’r gynulleidfa yn edrych ar Ifan Jac o’r persbectif y tu ôl i’r gauze. Mae’r golau’n pylu ond nid i ddim. Gwelir Ifan Jac, a’r ‘tad’ a’r ‘wraig’ ar y llwyfan y tu draw i’r gauze. Yna llonyddwch. Tawelwch. Mae Ifan Jac yn camu yn ôl. Edrych ar y pyped o’r mab, fel petai’n gwerthfawrogi darn o gelfyddyd.

Ifan Jac: Sbïa Dic. Sbïa mor lân ydy’i blentyndod o. Fynta’n awen ar ganfas gwyn. (Saib.)Finna’n ca’l ’y nghladdu gan y cachu rwtsh ’ma. Dy gachu rwtsh di.

Mae Ifan Jac yn plygu i lawr – ac yn codi llond llaw o gabaitsh. Edrych ar y dail yn ei law. Daw cerddoriaeth Lleuwen Steffan – ‘Gwahoddiad’ oddi ar Duw a Wŷr – ymlaen yn dawel – nid o’r ‘speakers’ y tro hwn, ond fel petai yn dod o gefn y llwyfan, ac o’r esgyll. Y mae’n amlwg fod Ifan Jac yn adnabod yr intro i’r gân. Mae’n edrych tua’r nenfwd.

Ifan Jac: Comedian! Yn dwyt? Rêl Jocar . . .

Mae’n chwerthin, mae’r chwerthin yn troi’n grio tawel. Mae’n edrych o’i gwmpas fel petai yn edrych am gysur. Saib. Yna mae Ifan Jac yn plygu’n araf i’r llawr – y mae mewn gwewyr meddwl, ond nid yw’n wylofain – mae’r cyfan yn dawel iawn. Wedi iddo gyrraedd y llawr, mae’n mynd i’r ‘child pose’ – a’i ddwylo dros ei ben. Mae’n aros yno. Gwelwn fod y mab yn raddol yn mynd i’r un ‘pose’ wrth glywed ei dad yn crio. Mae dail cabbage yn disgyn yn araf ar ochr Ifan o’r llwyfan ond nid ar ochr y mab. Yn araf bach ar flaen y llwyfan – yr ochr arall i’r gauze, gan adael Ifan Jac a’r pypedau yn y cysgodion a’r cabaitsh, gwelwn deganau bachgen bach yn cael eu goleuo. Gweler yr ail fraslun am ddarlun cywir. Mae teganau megis cardiau, marblis, het cowboi, blociau chwarae, tedi glas yno. Mae pob un yn cael ei oleuo’n unigol gan lamp fach – gel gwyn ar flaen y llwyfan. Yn araf mae’r llwyfan yn troi hanner tro eto. Yna mae’r gân yn gorffen. Wrth i’r nodau olaf gael eu chwarae, clywir Ifan Jac yn dweud yn dawel, yn fachgennaidd o ochr arall y gauze, ymhell o’r gynulleidfa.

Ifan Jac: Dwisho Mam.

Saib. Tawelwch. Mae pen Ifan Jac yn dal ar y llawr yn ei ddwylo. Mae’r mab yn cerdded at y teganau ac yn dechrau chwarae gyda nhw. Yn y tawelwch, clywir y bachgen yn chwarae – gwneud sŵn ceir, siarad gyda’r tedi a.y.y.b. Mae Ifan Jac yn codi’i ben yn araf wrth weld y bachgen. Mae’n codi oddi ar y llawr, yn araf iawn. Saib. Yna, mae Ifan Jac yn siarad â’r mab drwy’r gauze.

Ifan Jac: Hei hen ddyn . . . lle ma’ dy fêts di? (Nid yw’r mab yn ateb.) Ti’n licio chwara ben dy hun? W’t? (Saib.) Mi o’n inna ’fyd. Mwy o bosibiliada’ felly. Os o’dd rh’wun arall yn dechra chwara’ – o’dd beryg i’r stori fynd yn rong . . . i’r gêm ga’l ’i sbwylio. (Saib.) Be’ ti’n licio fwya’? Blocia chwara’ o’dd yn rhai i. Dwi’n licio adeiladu petha . . . a’i chwalu nhw wedyn. (Saib) Sna’m byd yn para am byth ’sdi. Nagos? (Saib.) Be’ w’t ti’n licio? (Mae Ifan Jac yn edrych yn daer ar y mab. Saib.) Ty’d yma – ty’d at Dad.

Nid yw’r mab yn symud. Yn araf bach, gwelwn Ifan Jac yn cerdded o gwmpas y sgaffold i ochr arall y llwyfan at ei fab. Mae’r ddau yn awr o flaen y gauze, yn agos at y gynulleidfa. Mae Ifan Jac yn stopio. Tawelwch.

Ifan Jac: Mabon? (Saib.)

Yn araf iawn. Mae’r mab yn edrych ar Ifan Jac. Mae’n rhoi’r tedi glas i lawr, ac yn cerdded yn araf at Ifan Jac. Mae Ifan yn plygu i lawr. Mae’r ddau yn edrych ar ei gilydd. Saib. Yna, mae’r mab yn rhoi coflaid fawr i’w Dad. Delir hyn am rai eiliadau. Yna mae’r mab yn tynnu i ffwrdd. Ond nid yn gyfan gwbl. Mae’n edrych ar wyneb Ifan. Yna, mae’n estyn ei ddwylo allan ac yn teimlo wyneb ei Dad. Mae’n dilyn y llinellau ar dalcen Ifan Jac yn debyg i’r hyn wnaeth Ifan Jac â llaw ei Dad. Yna, mae Ifan Jac yn cymryd llaw y mab, ac yn rhoi cusan iddo ar gledr ei law. Yna mae’r ddau yn troi i wynebu’r gynulleidfa, ond yn edrych i fyny.

Ifan Jac: Ma’r nos ma’n niwsans tydi? Ma’ hyd yn oed yr haul wedi ca’l llond bol ar ddwrnod mor ddiawledig . . . yn gadal ni’n fa’ma . . . yn hen blant bach yn stryffaglio ar ein glinia’ yn y twllwch. Yn chwilio. Yn methu ffindio . . . yn dal i chwilio . . . am byth am wn i. (Saib.) W’t ti’n ofn y t’wllwch? Mi o’n i pan o’n i’n fach. ’I ofn o, achos mod i’n meddwl i fod o’n llawn petha ach a fi. Dwi’n gwbod rŵan ma’ gwag ’di’r nos. . .
Edrych ar ei fab. Ailfeddwl ynghylch beth y mae’n mynd i’w ddweud.

Ifan Jac: Ti ofn bwci-bos? (Nid yw’r mab yn ymateb.) Ddylia ti’m bod, ’sdi. Do’s ’na’m ffasiwn beth.

Mae Ifan Jac yn arwain y mab i ganol y llwyfan. Mae Ifan Jac yn gorwedd ar wastad ei gefn ar y llawr yng nghanol y llwyfan. Y mab yn edrych arno. Yna’n araf, mae’r mab yn gorwedd wrth ei ymyl. Tawelwch.

Ifan Jac: Be’ weli di yno? Weli di’r awyr yn llawn siapia? Ma’ awyr y nos yn adlewyrchiad o lawr y nos ’sdi. Tylla bach ym mhobman – a ma’r rhai anlwcus yn syrthio i mewn iddyn nhw ac yn methu dod o ’no. Nid sêr yn cynnig golau i weld ydyn nhw – ond tylla’ bach sy’n dy atgoffa di o’r gwacter sydd ynot ti dy hun.

Mae Ifan Jac yn edrych ar y mab. Mae yntau wedi syrthio i gysgu. Mae Ifan Jac yn edrych arno.

Ifan Jac: Ia, cysga di. Paid â gwrando ar fy chwerwder i. ’Sarnai’m isio dy lygru di.

Mae Ifan Jac yn cerdded yr ochr arall i’r gauze i nôl blanced, a dod â hi’n ôl, a’i gosod dros Mabon. Wrth wneud hyn, mae Ifan yn edrych yn ôl ar y mab yn aml – fel petai arno ofn iddo symud. Wedi iddo osod y blanced dros y mab, mae Ifan fel petai yn mynd i roi cusan ar dalcen ei fab. Y mae’n stopio. Ond yn araf y mae’n ei godi i eistedd, er fod y mab yn dal i gysgu, ac yn rhoi cusan Jiwdas iddo. Yna mae’n ei osod yn ôl i lawr. Yna’n cerdded yn araf i ochr arall y sgaffold.Wrth i hyn ddigwydd, mae’r llwyfan hefyd yn troi yn ôl i’w fan cychwynnol. Wedi i’r cyfan lonyddu unwaith yn rhagor, mae Ifan Jac yn edrych ar y mab o du draw i’r gauze.

Ifan Jac: Sut medri di Dic? Sut medri di adael iddo fo fod mor heddychlon? A chditha’n gwbod . . . (Saib.) Mi o’n i fel ’na unwaith – gadal i’r nos fy anwesu fi fatha llaw mam ar ’y nhalcen i. . . . A’i hogla hi . . . mor gynnes, mor saff.

Yn araf bach. Mae’r rhan o’r llwyfan lle mae’r mab yn cysgu yn mynd yn dywyllach a thywyllach, nes cyrraedd duwch llwyr.

Ifan Jac: Mam!!! Dudwch stori nos da wrtha i Mam. . . Mam?! (Saib) Dic? Be nest di iddi? Be nes ti iddyn nhw i gyd? I Mam . . . i Dad . . . iddi hi? Torri’u tafoda nhw a’u hongian nhw fel clychau yn fy nghydwybod i? Ie? A nhwtha’n chwifio’n dawel bach yn awel fy meddylia fi. Ie Dic? (Saib) Pam na nei di fyth t’ateb i?

Y mae’n cerdded at ei ‘dad’.

. . . Tada . . . ’Y mai i ydi o . . .Wchi’r llygod heini nesh i chwdu i’ch poced chi . . . Tada . . . y llygod heini o’dd yn nofio yn leining ych cot chi . . . ma’n nhw ’di bod yn byta’ch tu mewn chi. Yn cnoi at ych meddylia chi, yn cnoi ar eich rheswm chi a’i adal o’n dylla mân fatha awyr y nos. Dim colli arni ydach chi Tada, na mynd yn hen. ’Y mai i . . . ’y mai i ydi o i gyd. Sori Tada . . . Sori . . . (Saib.)

Yna mae’n chwilio am ei ‘wraig’ a’i chael hi a gafael ynddi fel trysor.

A tithe, ’nghariad i, ’ngwynfyd i . . . fy rheswm i . . .
(Wrth ei wraig) ’Y mai i ydi dy loes di ’fyd. Sori am wneud y fath beth i ti . . . a chditha ddim isio. . . a fynta yn tyfu tu mewn i ti fatha salwch . . . fatha tiwmor yn chwyddo yn dy groth di . . . yn dy lygru di. . . a chditha’n gorod i eni fo i’r byd. (Saib) Sori.

Erbyn hyn, mae Ifan wedi penlinio ar y llawr, ac yn raddol wedi gorwedd ar y dail cabbage.

Gad i mi gysgu Dic. (Saib)

Yn raddol clywir‘Kyrie’ A Ramirez. Mae ochr Ifan o’r llwyfan yn dechrau tywyllu a rhan Mabon yn dechrau cael ei oleuo eto. Mae’r ddau yn gorwedd yn yr un modd. Ar 01.28 yn y gerddoriaeth mae Mabon yn dechrau deffro. Mae’n gweld ei Dad yn cysgu yr ochr arall i’r gauze. Yn araf iawn y mae’n codi ar ei draed ac yn cerdded i ochr ei Dad o’r llwyfan. Â at ei Dad a rhoi cusan iddo ar ei dalcen, yna, mae’n gafael yn llaw pyped y wraig, a llaw pyped y tad ac yn eu llusgo i ochr arall y llwyfan at y teganau. Mae’n eu rhoi i orwedd o dan ei flanced, fel mai dim ond eu pennau sydd yn y golwg. Yna fe â i chwarae gyda’r teganau. Erbyn hyn, mae ochr Ifan o’r llwyfan yn weddol dywyll, ond gwelwn ei gysgodion yn glir. Mae rhan Mabon o’r llwyfan yn oleuedig, ond nid yn llachar. Tawelwch. Symudiadau bychain Mabon. Yna daw’r larwm ymlaen am ychydig eiliadau cyn ymdawelu eto. Mae Ifan yn deffro’n sydyn.

Ifan Jac: ’Nghariad i lle w’t ti? . . . Ti’n chwara cuddio hefo fi? (Chwerthin. Tawelu) Ti’n iawn? Sâl eto bore ’ma? . . . fydd o’i werth o ’sdi . . . wir yr . . . ti ’y nghlywad i? . . . Lle w’t ti? (Mae Ifan yn codi.) Lle w’t ti?

Mae Ifan Jac yn dechrau mynd i banic. Mae’n sylwi nad ydi’r un o’r ddau byped ar y llwyfan gydag o.

Ifan Jac: Tada? . . . Tada!!!! . . . Dic . . . lle ma’n nhw? Be ti ’di gneud hefo nhw? . . . Lle ti ’di mynd â nhw. . . Dic!!!! (Tawelwch.)

Yna, mae Ifan yn sylwi fod Mabon wedi rhoi’r pypedau i gysgu ar ei ran ef o’r llwyfan. Tawelwch. Dail yn dechrau disgyn o’r to unwaith yn rhagor yn ara’ ara’ bach. Y mae’n siarad â Mabon yn awr.

Ifan Jac: Pryd gnest di o? Sut gnest di o? Pan o’n i’n cysgu? Pan o’n i’n breuddwydio am Mam, a hitha’n canu nos da i mi . . . a chanu i minna yn unig. Dyna pryd ia? Ia? Wel chei di ddim . . . ti’n y nghlywad i . . . chei di ddim. Fy nhad i . . . fy ngwraig i . . . fi . . .

Mae Ifan yn cerdded o gwmpas y gauze at y pypedau ac at Mabon. Y mae’n llusgo’r tri i’w ran ef o’r llwyfan i ganol y dail. Mae Ifan yn esgus poeri ar Mabon, yn dawel yn araf. Mae Mabon yn syllu ar ei Dad. Yna Mae Ifan yn cofleidio’r ddau byped yn dynn.

Ifan Jac: Sori . . . Sori . . . Sori.

Mae Ifan yn gwasgu’r pypedau mor dynn nes fod y ddau yn dechrau gollwng y wadin o’r tu mewn iddynt. Daw cerrig mân a thywod o’r ddau byped. Mae Ifan yn sylwi. Y mae’n edrych yn syth ymlaen i’r gynulleidfa a’r ddau byped yn gollwng y wadin ar y llwyfan. Yn araf bach. Mae Ifan yn gosod y ddau ar y llawr.

Ifan Jac: Sori. (Saib.)

Mae Ifan yn edrych ar ei fab, yn ei godi yn ei freichiau.

Ifan Jac: Sori.

Mae Ifan Jac yn siglo’r mab yn dyner, ac yn edrych arno fel petai wedi dotio arno wrth ganu:

Ifan Jac: Iesu, Iesu ffrind plant bychain, bydd yn ffrind i mi . . . gafael yn fy llaw i’m harwain . . . (Tawelwch.)
Mae Ifan Jac yn mynd i eistedd ar y siglen a’i fab ar ei lîn. Mae’r mab yn wynebu cefn y llwyfan, hynny ydy, mae cefn y mab at y gynulleidfa. Llonyddwch am rai eiliadau. Yna mae Ifan Jac yn plygu lawr ac yn gafael mewn llond llaw o ddail cabbage. Llonyddwch. Yna yn araf bach, mae Ifan yn dechrau stwffio dail cabbage i geg y mab. Fe wna hyn yn dyner iawn gan fwytho pen ei fab ar yr un pryd. Y mae’n amlwg fod y mab yn gwingo ac yn strancio a thagu. Ond y mae Ifan yn ceisio rheoli’r gwingo gan barhau i siglo’r mab yn dyner wrth ei fygu. Mae’r tad yn wylo’n dawel wrth wneud hyn. Yna daw llonyddwch tawel. Y mae’r mab yn farw. Yn araf, mae Ifan Jac yn cofleidio’r mab gan ddweud yn dawel ar yr un pryd:

Ifan Jac: Nos da Mabon. Nos da.

Mae Ifan yn codi oddi ar y siglen. Cerdded i ganol y llwyfan. Mae’n rhoi cusan i’w fab. Yna mae’n ei ddal yn ei freichiau gan edrych arno. Tawelwch. Llonyddwch. Daw cerddoriaeth Rutter ymlaen, a gwelwn Ifan yn sefyll yng nghanol y llwyfan yng nghanol y dinistr a’i fab yn ei freichiau. Wrth i’r gerddoriaeth chwarae gwelwn fod Ifan yn parhau i fod yn ei ddagrau a’i fod yn ceisio magu Mabon. Y mae’n ei godi yn uchel yn ei freichiau erbyn 02.16 cyn ei ostwng eto a’i ddal yn agos, agos. Mae’n cerdded yn araf at y siglen. Edrych ar ei dad a’i wraig. Yna’n araf, mae’n eistedd ar y siglen a’i fab yn ei freichiau. Mae’r siglen yn codi yn raddol, ac yn diflannu. Y gerddoriaeth yn dod i ben wrth i’r golau bylu i ddim. Mae’r dail yn parhau i ddisgyn hyd nes y nodyn olaf.

Llen

Atodiad:
Y mae diagram o’r set a chryno ddisg o’r gerddoriaeth yn rhan o’r sgript hwn. (Gweler y ddau yng nghefn y clawr.)

Monday 22 January 2007

Cyfieithu o'r Saesneg

JIMMY [seeing Old Mahon]: Will you look what’s come in? [They all drop Christy and run left.]

CHRISTY [scrambling on his knees face to face with Old Mahon]: Are you coming to be killed a third time, or what ails you now?

MAHON: For what is it they have you tied?

CHRISTY: They’re taking me to the peelers to have me hanged for slaying you.

MICHAEL [apologetically]: It is the will of God that all should guard their little cabins from the treachery of law, and what would my daughter be doing if I was ruined or was hanged itself?

MAHON: [grimly, loosening Christy]: It’s little I care if you put a bag on her back, and went picking cockles till the hour of death; but my son and myself will be going our own way, and we’ll have great times from this out telling stories of the villainy of Mayo, and the fools is here. [To Christy, who is free] Come on now.

CHRISTY: Go with you, is it? I will then, like a gallant captain with his heathen slave. Go on now and I’ll see you from this day stewing my oatmeal and washing my spuds, for I’m master of all fights from now. [Pushing Mahon.] Go on, I’m saying.

MAHON: Is it me?

CHRISTY: Not a word out of you. Go on from this.

MAHON [walking out and looking back at Christy over his shoulder]: Glory be to God! [With a broad smile.] I am crazy again. [Goes.]

CHRISTY: Ten thousand blessings upon all that’s here, for you’ve turned me a likely gaffer in the end of all, the way I’ll go romancing through a romping lifetime from this hour to the dawning of the judgement day. [He goes out.]

MICHAEL: By the will of God, we’ll have peace now for our drinks. Will you draw the porter, Pegeen?

SHAWN [going up to her]: It’s a miracle Father Reilly can wed us in the end of all, and we’ll have none to trouble us when his vicious bite is healed.

PEGEEN [hitting him a box on the ear]: Quit my sight. [Putting her shawl over her head and breaking out into wild lamentations] Oh, my grief, I’ve lost him surely. I’ve lost the only Playboy of the Western World.

Thursday 18 January 2007

Darnau Cyfieithu

Dyma'r darnau cyfieithu o ieithoedd tramor. Fydd yr un Saesneg i Gymraeg gennych chi cyn hir... (wy'n addo!)


(ALMAENEG)

EINSTIEG IN DAS THEMA


Die 6,2 (2002) Milliarden Menschen, die auf der Erde leben, verseuchen Wasser, Luft und Boden. Viele Menschen fürchten, dass wir die Erde zerstören. Mehr als 20 Prozent der Weltbevölkerung haben kein sauberes Trinkwasser. Pestizide verseuchen das Grundwasser. Die Industrienationen mit einem Viertel der Weltbevölkerung verbrauchen 75 Prozent der Weltenergie und 60 Prozent der Nahrungsmittel. Die EU-Länder erzeugen jährlich insgesamt 2,2 Milliarden Tonnen Müll. Ein Problem ist auch, dass der Abfall giftiger wird. Die großen Giftmüllproduzenten sind die größeren Industrienationen. In Europa produziert Deutschland den meisten Giftmüll. Die große Frage ist nun: Wohin mit dem Müll?
Weitere Probleme sind die Zerstörung der Ozonschicht und die Luftverschmutzung. Die Ozonschicht über Europa hat in den letzten Jahren sechs bis acht Prozent abgenommen. Ein Resultat der Luftverschmutzung ist, dass der geliebte deutsche Wald langsam stirbt. Das ist für viele Deutsche eine nationale Katastrophe. Die Deutschen haben ein Wort dafür: “Waldsterben”. Fast 60 Prozent aller Bäume in Deutschland sind krank.





(EIDALEG)


Era tutto in disordine.
Il tavolo era pieno di bottiglie, tazzine e piatti sporchi. Le mosche ronzavano sui resti del cibo. Le sigarette traboccavano dalle ceneriere, le sedie e le poltrone erano tutte storte. C’era puzza di fumo.
La porta della mia stanza era socchiusa. Il vecchio dormiva vestito sul letto di mia sorella. Un braccio buttato giú. La bocca aperta. Ogni tanto si scacciava una mosca che gli camminava sulla faccia. Papà si era steso sul mio letto con la testa contro il muro. Mamma dormiva rannicchiata sul divano. Si era coperta con la trapunta bianca. Spuntavano i capelli neri, un pezzettino di fronte e un piede nudo.
La porta di casa era spalancata. Una leggera corrente tiepida faceva frusciare il giornale sul comò.
Il gallo ha cantato.
Ho aperto il frigo. Ho preso il latte, mi sono riempito un bicciere e sono uscito sul terrazzino. Mi sono seduto sugli scalini a guardare l’alba.
Era di un arancione vivido, sporcata da una massa gelatinosa e violacea che si stendeva come cotone sull’orizzonte, ma piú in alto il cielo era pulito e nero e qualche stella era ancora accesa.
Mi sono finito il latte, ho poggiato il bicchiere su uno scalino e sono sceso in strada.




(FFRANGEG)

Les Européens lisent plus Internet que les journaux papier
L'internet a, pour la première fois, dépassé les journaux et magazines sur papier comme principal fournisseur d'informations aux lecteurs européens, selon une étude publiée lundi dans le quotidien économique britannique Financial Times. La télévision reste cependant le premier média, les Européens passant encore trois fois plus de temps à regarder ses émissions qu'à surfer sur Internet, selon cette étude menée par le cabinet Jupiter Research et portant sur plus de 5.000 personnes interrogées au Royaume-Uni, en France, en Allemagne, en Italie et en Espagne. En moyenne, les Européens passent quatre heures par semaine sur Internet, mais n'en consacrent que trois à lire des journaux ou magazines. En 2003, ils passaient seulement deux heures par semaine sur Internet. "Le fait que la consommation d'informations sur Internet ait dépassé celle des médias papier est un moment important pour l'ancrage d'Internet parmi tous les médias en Europe", a estimé Mark Mulligan, le vice-président de Jupiter Research. "Ce changement dans l'équilibre des pouvoirs va remodeler les stratégies de distribution, l'allocation des sommes réservées à la publicité et les stratégies de communication" en Europe, a-t-il ajouté. Les principaux facteurs affectant l'usage d'Internet sont l'âge et l'accès ou non à un réseau haut débit. La France, qui a ainsi le meilleur accès haut débit, enregistre le plus fort taux de consommation d'Internet. L'Allemagne est à l'autre bout de l'échelle.





(SBAENEG)

Durante toda la noche, la perra estuvo aullando en el portal, despierta y asustada, como cuando en Ainielle los vecinos aún velaban a sus muertos o como cuando los contrabandistas o los lobos se acercaban hasta el pueblo. Durante toda la noche, mi madre y yo permanecimos en silencio contemplando como el fuego consumía la madera y, con ella, los recuerdos. Después de tantos años, después de tanto tiempo separados por la muerte, los dos estábamos frente a frente, sin atrevernos a reanudar una conversación interrumpida hacia mucho tiempo. Yo ni siquiera me atrevía a mirarla. Sabía que seguía en la cocina por los ladridos asustados del perro y por la extraña sombra inmóvil que las llamas proyectaban bajo el suelo del banco. Pero en ningún momento sentí miedo. Ni un solo instante dejé que me invadiera la sospecha de que mi madre había venido para velar mi propia muerte. Sólo al amanecer, cuando la luz me despertó de pronto y comprobé que ella no estaba ya conmigo en la cocina un escalofrío me recorrió la espalda al recordar que aquella había sido la última noche de febrero. La misma, exactamente, en que mi madre se había muerto hacía ya cuarenta años. A partir de aquel día, mi madre volvió a hacerme compañía muchas veces.

Julio Llamazares, La lluvia amarilla (Barcelona: Seix Barral, 1988), pp. 86-87.

Wednesday 10 January 2007

Croeso!

Croeso i blog y Rhyng-gol... Wy'n newy' i'r busnes 'ma, felly byddwch yn amyneddgar. Ni wrthi'n cwblhau'r rhestr testunnau ar y foment. Pan fydd hi'n barod, fe fyddwn yn danfon llyfrynnau i'r colegau ac yn postio'r cwbl ar y blog 'ma. Hwyl am y tro. Lowri. x